Swyddog diogelwch cymunedol/warden
      
     
      
      
        Cyflwyniad
 Mae Swyddog Diogelwch Cymunedol a Warden yn berson
rhannol-swyddogol mewn iwnifform sy'n cynnal patrôl o fewn
cymunedau yn y gobaith o leihau troseddu, ymddygiad
gwrthgymdeithasol ac ofn troseddau drwy gynnig tawelwch meddwl,
cymorth a chefnogaeth er mwyn creu amgylchedd byw mwy diogel a
dymunol o fewn ein cymunedau. Gall y swydd fod yn amrywiol iawn, a
gall olygu gweithio gyda nifer o asiantaethau a grwpiau
cymunedol.  Nid oes unrhyw gyfrifoldebau rheoli staff ond mae
yna gyfrifoldeb i ddefnyddio a chadw eitemau bach o offer yn
briodol ac i warchod systemau data.
Amgylchedd Gwaith
 Mae mwyafrif y gwaith yn digwydd y tu allan ond ceir rhai
dyletswyddau dan do ac mewn swyddfa. Bydd yna ryngweithio wyneb yn
wyneb ag aelodau o'r cyhoedd.
Gweithgareddau Dyddiol
 Mae dyletswyddau Swyddog Diogelwch Cymunedol a Warden yn
cynnwys:
- darparu presenoldeb patrôl proffil uchel er mwyn atal niwsans
cyhoeddus, ymddygiad gwrth-gymdeithasol a throsedd, ac annog
ymddygiad da;
 
- darparu presenoldeb gweledol yn ein cymunedau er mwyn lleihau
ofn troseddau a chynnig tawelwch meddwl i bobl leol a gwneud iddynt
deimlo'n ddiogel a balch o le maent yn byw;
 
- datblygu ysbryd cymunedol, drwy fod yn agos-atoch, ymatebol a
thrwy gyfathrebu newyddion positif a delio gyda phroblemau yn sydyn
a phroffesiynol; 
 
- ymateb yn sydyn er mwyn atal neu roi terfyn ar broblemau trefn
gyhoeddus neu ddiogelwch o fewn ein cymunedau, gan alw am
gefnogaeth briodol lle bo angen; 
 
- cefnogi preswylwyr bregus o bob oed mewn modd cwrtais a
sensitive;
 
- datblygu cysylltiadau â grwpiau ieuenctid a grwpiau cymunedol
eraill a gweithio gyda hwy i leihau anhrefn;
 
- annog preswylwyr i gymryd cyfrifoldeb dros hysbysu'r awdurdodau
am ymddygiad gwrth-gymdeithasol a deilliannau'r fath
ymddygiad;
 
- hyrwyddo agwedd llawn gofal, cymorth a heb ragfarn tuag at
breswylwyr, ymwelwyr, y cyhoedd a pharhau i fod yn gwrtais a
boneddigaidd;
 
- casglu gwybodaeth am ymddygiad gwrth-gymdeithasol, amheus neu
weithgaredd troseddol, a chyflwyno'r wybodaeth hon i'r swyddog
partneriaeth priodol;
 
- cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill rhesymol a allai godi o
fewn amodau a graddfa'r swydd yn unol â chyfarwyddyd y rheolwr
llinell;
 
- adrodd ar faterion yn ymwneud â diogelwch cymunedol a godir gan
bobl leol, neu broblemau amgylcheddol a welant o'u cwmpas, e.e.
helyntion, peryglon, diffygion, tipio anghyfreithlon, baw ci,
graffiti, sbwriel a fandaliaeth;
 
- bod yn llygaid a chlustiau ar ran y Cyngor drwy sylwi ar,
ymchwilio i ac adrodd ar helyntion, yn cynnwys bod yn dyst
proffesiynol a mynychu'r llys fel bo angen;
 
- bod yn barod i weithredu'n bositif yn y maes o safbwynt
gwelliannau amgylcheddol neu gymunedol megis gwneud gwaith
atgyweirio neu gynnal a chadw syml neu gael gwared ar achosion
bychan o graffiti neu sbwriel;
 
- ysgrifennu adroddiadau cryno yn dilyn digwyddiad neu helynt a
phrosesu gwybodaeth yn fanwl;
 
- cymryd rhan mewn, a chefnogi, digwyddiadau cymunedol neu
fentrau lleol; 
 
- cynghori preswylwyr ar ddiogelwch eu cartref a mentrau atal
troseddu eraill; 
 
- paratoi a dosbarthu taflenni fel bo angen;
 
- gwneud dyletswyddau gweinyddol a chlerigol sylfaenol yn ôl y
gofyn;
 
- monitro sefyllfaoedd gan ddefnyddio CCTV neu offer arall;
 
- mynychu cyfarfodydd cymunedol yn ôl y gofyn, yn aml gyda'r
nos;
 
- gwirio, cloi, datgloi ac adrodd ar ddiogelwch adeiladau a
lleoliadau cyhoeddus eraill, fel bo angen;
 
- ymgymryd â dyletswyddau gorfodaeth, yn cynnwys rhoi cosbau
penodedig am droseddau.
 
Sgiliau a Diddordebau
 Bydd Swyddog Diogelwch Cymunedol a Warden yn:
- gallu defnyddio TG ar gyfer ysgrifennu adroddiadau, defnyddio'r
we, e-bost a logio data;
 
- gallu cyfathrebu'n effeithiol gydag amrywiaeth eang o
gynulleidfaoedd, yn llafar ac yn ysgrifenedig, a bydd yn gallu
cynnig gwasanaeth effeithiol llawn gofal. Yn benodol, bydd yn
arddangos gallu i wrando ar a deall anghenion preswylwyr a'u
cefnogi mewn modd sensitif ac effeithiol;
 
- gallu gweithio'n effeithiol mewn sefyllfaoedd sensitif neu dan
bwysau, gan ymdrin â gwrthdaro gyda thact a diplomyddiaeth er mwyn
sicrhau diogelwch personol;
 
- gallu gweithio ar eich liwt eich hun neu fel rhan o dîm;
 
- gallu blaenoriaethu llwyth gwaith a chwblhau tasgau hyd eu
diwedd; 
 
- meddu ar brofiad mewn swydd a oedd yn gofyn am weithio gyda'r
cyhoedd a darparu gwasanaeth;
 
- meddu ar drwydded yrru lân lawn;
 
- gallu cyflawni holl ddyletswyddau'r swydd yn cynnwys cerdded
hyd at 8 milltir ar droed yn ddyddiol;
 
- barod i dderbyn rhaglen hyfforddiant.
 
Gofynion Mynediad
 Rhaid i Swyddog Diogelwch Cymunedol a Warden gael pum TGAU a bod
wedi pasio'r arholiadau Mathemateg a Saesneg, neu gyfatebol. 
Mae'n hanfodol bod Swyddog Diogelwch Cymunedol/Warden wedi derbyn
achrediad Cynllun Achredu Diogelwch Cymunedol Prif Gwnstabl
Gwent.  Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i broses sgrinio
gynhwysfawr yn cynnwys gwiriad datgelu uwch gyda'r Gwasanaeth
Datgelu a Gwahardd.
Cyfleoedd a Rhagolygon ar gyfer y Dyfodol
 Bydd cyfleoedd swyddi'n dibynnu ar bob awdurdod lleol ac ar os
ydynt yn gweithredu Cynllun Warden Cymunedol ai peidio.  Am
fwy o wybodaeth am swyddi gwag, edrychwch ar wefan y Cyngor y mae
gennych ddiddordeb ynddo.
Gwasanaethau a Gwybodaeth Bellach
 All Wales Community Safety Advisory Board www.wlga.gov.uk/all-wales-community-safety-forum
Gallwch gael gwybodaeth bellach ar y maes gwaith hwn drwy Gyrfa
Cymru (www.gyrfacymru.com)
neu yn eich llyfrgell leol, y swyddfa yrfaoedd neu lyfrgell
yrfaoedd eich ysgol.
       
      
          Related Links