Gwarden hen bobl

Cyflwyniad
Mae rhai awdurdodau lleol yn galw gwardeiniaid hen bobl yn wardeiniaid preswyl neu'n rheolwyr unedau.  Yn sgîl Deddf 'Gofal Cymunedol' a'r pwysigrwydd sydd wedi'i roi i annibyniaeth hen bobl, mae gan sawl cyngor lleol ganolfannau tai lloches lle gall hen bobl fyw mewn fflat neu fyngalo heb orfod gofidio am atgyweiriadau na chynnal a chadw.  Ar ben hynny, mae cyfleusterau cymunedol megis lolfa, adloniant a nifer o weithgareddau.  Yn bwysicaf oll, mae gwarden preswyl i'w helpu i ddatrys unrhyw broblemau.  Mae gwardeiniaid hen bobl ym mhob awdurdod lleol.

Amgylchiadau'r gwaith
Mae'r gwarden yn gweithio mewn swyddfa fechan yn y ganolfan - bydd honno yn ei fflat neu ei dŷ ei hun, yn aml.  37 awr yw'r wythnos safonol, rhwng dydd Llun a dydd Gwener.  Dros y Sul, bydd unrhyw alwadau am gymorth yn mynd i uned ganolog lle bydd y sawl ar ddyletswydd yn cysylltu â meddyg, gweithwyr atgyweirio ac ati neu'n gofyn i 'warden teithiol' fynd i'r safle.  Mae rhai cynghorau lleol yn gofyn i wardeiniaid fod ar gael drwy'r amser yn ystod yr wythnos.  Os ydyn nhw'n bwriadu mynd allan am gyfnod hir, rhaid rhoi gwybod i'r staff canolog fydd yn cymryd yr awenau dros y Sul.

Gweithgareddau beunyddiol
Bydd gwarden yn dechrau bob dydd tua 8.00 trwy ffonio pob preswylydd i'w holi a oes angen unrhyw beth arno.  Bydd gan rai 'becynnau gofal' trwy'r gwasanaethau cymdeithasol, lle bydd cynhalwyr yn dod i'w helpu nhw i godi a gwisgo.  Os nad yw cynhaliwr wedi cyrraedd am ryw reswm, bydd gwarden yn trefnu dros y ffôn i rywun ddod yn ei le.  Os yw'r preswylydd yn ofidus, efallai y bydd yn mynd i'w dŷ i'w helpu yn bersonol.  Fel arfer, bydd yn ymweld â rhywun mae'n gwybod ei fod yn sâl.

Ar ôl tua 10.00, gall y diwrnod fod yn dawel neu'n brysur iawn.  Gallai fod angen i'r gwarden gysylltu â meddygon, gweithwyr cymdeithasol, nyrsys cymuned, mudiadau gwirfoddol neu berthnasau.  Os yw preswylydd wedi'i dderbyn i'r ysbyty, bydd rhaid i'r gwarden ffonio ei berthnasau i roi gwybod iddyn nhw am hynny.  Pan fo rhywun wedi marw, rhaid ffonio'r perthnasau a rhoi gwybod iddyn nhw am hynny, hefyd.

Yn ystod y dydd, bydd gwarden yn rhoi te a choffi i'r preswylwyr ar adegau penodol yn y lolfa.  Efallai y bydd yn trefnu nifer o weithiau bob mis glybiau cinio allai fod yn agored i hen bobl sy'n byw mewn rhannau eraill o'r gymdogaeth neu'n trefnu amryw weithgareddau megis bingo, chwist neu siaradwyr gwadd.  Efallai y bydd gweithwyr gwirfoddol yn trefnu rhai gweithgareddau cymdeithasol gyda chaniatâd y gwarden.

Gallai fod angen atgyweiriadau ar fflatiau neu ystafelloedd cymunedol unrhyw bryd.  Os felly, rhaid cysylltu â'r cyngor i drefnu hynny a llofnodi'r ffurflenni priodol ar ôl y gwaith.  Rhaid profi larymau tân a thenynnau argyfwng yn fynych, hefyd.  Fel arfer, bydd gwarden yn goruchwylio'r glanhawyr - ac efallai y bydd yn glanhau rhai pethau ei hun.  Rhaid i warden gadw gwybodaeth gyfoes am berthnasau agosaf a meddygon preswylwyr yn ogystal â chofnodi ymweliadau meddygon.
 
Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai hanfodol:

  • agwedd dringar; 
  • gallu ymlacio pan nad ydych chi ar ddyletswydd;
  • gallu cadw'r ddysgl yn wastad rhwng rhoi cymaint o annibyniaeth ag y bo modd i'r preswylwyr ac osgoi problemau;
  • gallu adweithio i bob sefyllfa heb gynhyrfu - wrth fynd i mewn i fflat a darganfod bod y preswylydd wedi marw, er enghraifft;
  • dyfalbarhad a'r gallu i fynnu hawliau ar ran preswylwyr.

Bydd synnwyr digrifwch o fantais fawr, hefyd!

Meini prawf derbyn
Does dim gofynion addysgol penodol.  Rhinweddau personol sy'n bwysicach.  Mae angen profiad o waith ym maes gofal.  Bu sawl gwarden yn gynorthwywr gofal neu'n weithiwr gofal preswyl cynt.  Gallai cymwysterau galwedigaethol cenedlaethol ynglŷn â gofal cymdeithasol fod o fantais wrth ymgeisio am swydd.  Bydd y cyngor lleol yn rhoi hyfforddiant a bydd angen mynychu cyrsiau byrion, hefyd.  Bydd disgwyl i bob gwarden ennill tystysgrifau iechyd a glanweithdra, codi a chario a chymorth cyntaf (ac adnewyddu'r cymwysterau hynny bob hyn a hyn, hefyd).  Mewn rhai ardaloedd, mae colegau'n cynnig cyfle i astudio ar gyfer tystysgrif gwarden tai lloches.

Gobeithion a chyfleoedd ar gyfer y dyfodol
Mae mwy a mwy o gyfleoedd yn y maes hwn am fod mwy a mwy o dai lloches yn cael eu hadeiladu.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Cyngor Gofal Cymru: www.ccwales.org.uk
Gwirfoddolwyr Gwasanaeth Cymuned: www.csv.org.uk/socialhealthcare
Cyngor Galwedigaethau Iechyd a Gofal: www.hpc-uk.org

Gallai fod rhagor o wybodaeth ar wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), yn llyfrgell eich bro neu yn swyddfa/llyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links