Cyflwyniad
Beth sydd gan y bobl ganlynol yn gyffredin?
- Dyn terfynol wael 80 oed mae angen cymorth arno i ddefnyddio'r
bath.
- Merch ifanc ac arni barlys ymledol na all fynd i'r siopau ar ei
phen ei hun.
- Bachgen 19 oed mae angen cymorth arno gartref i gyflawni sawl
gorchwyl yn sgîl damwain feic modur.
- Teulu o bedwar lle mae gan y rhieni broblemau sy'n ymwneud â
chyffuriau ac mae'r plant ar Gofrestr y Diogelu Plant o achos eu
hesgeuluso.
Maen nhw i gyd yn dibynnu ar wasanaethau cynorthwywr gofal
gartref (a elwir yn gynhaliwr gartref neu'n gymorth gartref
weithiau, hefyd) sy'n gweithio yn adran gofal cymdeithasol y
cyngor. Mae cynorthwywr gofal gartref yn gweithio o'i ben a'i
bastwn ei hun yn y gymuned i roi gofal a chymorth personol i bobl
sy'n agored i niwed megis y rhai ac arnyn nhw anableddau corfforol,
y rhai mae nam ar eu synhwyrau (megis y deillion a'r byddariaid),
pobl ac arnyn nhw anawsterau dysgu, pobl ac arnyn nhw anawsterau
iechyd y meddwl (megis dryswch henaint ac iselder) a hen bobl ac
arnyn nhw anghenion corfforol a meddyliol cymhleth. Mae
cynorthwywyr gofal gartref yn helpu pobl ac arnyn nhw amryw
anghenion penodol i barhau i fyw yn eu milltir sgwâr fel na fydd
rhaid iddyn nhw fynd i gartrefi preswyl neu ymgeledd.
Amgylchiadau'r gwaith
Mae cynorthwywyr gofal gartref yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser
yng nghartrefi pobl eraill. Fel arfer, byddan nhw'n gyfrifol
am hyn a hyn o unigolion ac yn dod i'w hadnabod yn dda. Os
nad yw rhywun yn siaradus, gall y swydd achosi unigedd. Ar
adegau, bydd dau gynorthwywr neu ragor yn cydweithio i drosglwyddo
rhywun o'r gwely i'r bath ag offer arbennig. Efallai y bydd
rhaid mynd i gyfarfodydd a chyrsiau hyfforddiant gyda staff eraill
gwasanaeth y gofal gartref, hefyd. Mae dillad ac offer
arbennig megis menig, tabardau, torsh, larymau diogelwch personol a
dyfeisiau profi cylchrediadau (ar gyfer offer trydanol). Gall
oriau fod yn hyblyg; unrhyw beth rhwng 10 a 37 awr gan gynnwys
gyda'r nos a thros y Sul yn ôl anghenion y gwasanaeth ac
amgylchiadau'r gweithiwr. Ar y cyfan, mae gwasanaeth gofal
gartref ar gael rhwng 7.00 y bore a 10.30 y nos bob dydd drwy gydol
y flwyddyn.
Gweithgareddau beunyddiol
- Rhoi cymorth yn ôl anghenion pob defnyddiwr (fel sydd wedi'u
nodi yng nghynllun ei ofal unigol). Ymgymryd â phob agwedd ar
y gofal personol sydd i'w roi iddo - yn aml, anghenion cymhleth
sydd i'w diwallu trwy sawl gorchwyl megis helpu i ymolchi, gwisgo,
mynd i'r tŷ bach a thrafod cathetr.
- Helpu pobl i symud, sefyll, eistedd ac ati yn ôl rheoliadau
iechyd a diogelwch yn y gwaith. Mae hynny'n ymwneud â
defnyddio offer codi trydanol, rhaffau yn y nenfwd, cadeiriau
olwynion a chyfarpar arall er mwyn trosglwyddo pobl yn ddiogel o'r
gwely i gadair ac o gadair i'r tŷ bach neu eu trafod yn ddiogel
wrth eu helpu i wisgo ac ymolchi pan na allan nhw sefyll heb
gymorth (bydd dau weithiwr yn gwneud hynny ochr yn ochr, yn
aml).
- Gofalu bod anghenion pobl wedi'u diwallu ynglŷn â bwyd, maetheg
ac iechyd yn ôl gofyn cynllun gofal, prynu nwyddau ar gyfer y
cartref, helpu i reoli'r tŷ (megis talu biliau), trefnau rhagnodion
a helpu i gymryd moddion.
- Helpu ac annog pobl i gadw rheolaeth bersonol a chymaint o
annibyniaeth ag y bo modd. Galluogi pobl i fynegi eu
dymuniadau a'u teimladau a gofalu eu bod yn cael pob cyfle i
ddylanwadu ar ansawdd y gofal sy'n cael ei roi iddyn nhw. Mae
hynny'n arbennig o bwysig pan fo rhywun yn dioddef â dryswch
henaint neu anabledd difrifol iawn lle mae cymaint o reolaeth
wedi'i chymryd oddi wrtho. Rhaid cynnig gwasanaeth hyblyg
sy'n gallu ymateb i anghenion pobl, gan weithio o'ch pen a'ch
pastwn eich hun i ymdopi â phob sefyllfa a allai godi bob dydd ac
o'r naill ymweliad i'r llall.
Medrau a diddordebau
- Mae'r swydd hon yn gweddu i bawb a chanddo brofiad o roi gofal
neu weithio gyda phobl mewn gwasanaeth megis arlwyo, manwerthu neu
iechyd.
- Rhaid bod yn effro i anghenion pob math o bobl a gallu
cyfathrebu â phobl beth bynnag fo'u gallu nhw.
- Dylech chi allu gweithio mewn tîm ac o'ch pen a'ch pastwn eich
hun.
- Rhaid deall pwysigrwydd cyfrinachedd a pharchu preifatrwydd
pobl.
Meini prawf derbyn
Er nad oes cymwysterau lleiaf penodol, mae'r cynghorau'n cyflwyno
hyfforddiant i bobl sy'n dechrau yn swydd cynorthwywr gofal gartref
fel y gallan nhw astudio ar gyfer Cymhwyster Galwedigaethol
Cenedlaethol 'Gofal Uniongyrchol' (Lefel 2). Fe allai rhai
cynghorau fynnu gwybodaeth a phrofiad ynglŷn â gweithio gyda phobl
ym maes gofal.
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Mae'n debygol y bydd y galw am wasanaethau gofal gartref yn
cynyddu gan fod mwy a mwy o hen bobl yn y boblogaeth a bod tuedd i
ofalu amdanyn nhw yn y gymuned. Mae modd cael eich dyrchafu'n
drefnydd gofal gartref ac, wedyn, yn rheolwr gofal gartref yn ôl
eich profiad ac yn sgîl asesu'ch gallu. Efallai y bydd
hynny'n arwain at ragor o hyfforddiant i astudio ar gyfer
Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (Lefel 3/4) 'Gofal
Uniongyrchol' a 'Rheoli Gofal'.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal: www.hpc-uk.org
Cyngor Gofal Cymru: www.ccwales.org.uk
Medrau Gofal: www.skillsforcare.org.uk
Gwirfoddolwyr Gwasanaeth Cymunedol: www.csv.org.uk/socialhealthcare
Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y
llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd
eich ysgol.