Swyddog difa plâu

Cyflwyniad
Mae'r cynghorau'n gyfrifol am ofalu bod tai, strydoedd ac adeiladau cyhoeddus yn lân ac yn rhydd rhag plâu.  Pan ddaw plâu i'r amlwg mewn lleoedd o'r fath, swyddogion difa plâu sy'n dod i'r adwy.  Rhaid iddyn nhw drin a thrafod amrywiaeth o blâu a allai beryglu iechyd neu niweidio cnydau a bwyd.  Fel arfer, bydd swyddogion difa plâu yn gweithio yn adran iechyd yr amgylchedd ochr yn ochr â rhai sy'n ymwneud â chasglu sbwriel, glanhau'r strydoedd, iechyd a diogelwch, hylendid bwyd a rheoli llygredd.

Amgylchiadau'r gwaith
Er bod swyddogion difa plâu yn gweithio o swyddfa, maen nhw'n treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn ymweld â chartrefi, ffatrïoedd, warysau, siopau, ffermydd ac afonydd i drin a thrafod plâu.  Gallai fod angen mentro i leoedd annymunol megis carthffosydd neu doeau weithiau.  Yn aml, mae angen dillad diogelu megis mwgwd, sbectol, offer anadlu, menig a throswisg i'w diogelu rhag pigiadau, brathiadau, gwenwyn, pethau niweidiol a llwch.

Gweithgareddau beunyddiol
Mae amrywiaeth helaeth o orchwylion yn y swyddfa a'r tu allan iddi, megis:

  • casglu manylion yn y swyddfa bob bore a threulio rhan sylweddol o'r dydd wrth y ffôn ac yn ymweld â safleoedd;
  • trin a thrafod amryw blâu megis llygod, gwenyn meirch, morgrug, chwilod duon, chwain, pryfed clustiog, pryfed a gwrachod y lludw;
  • ceisio adnabod natur y pla trwy edrych ar faw, nythod, bwyd ac ati;
  • cael gwybod sut a ble maen nhw'n cyrchu adeilad neu safle trwy, er enghraifft, adael llwch a dychwelyd wedyn i archwilio'r trywydd â golau uwchfioled neu chwilio am ffynhonnell eu bwyd;
  • casglu trychfilod ac anifeiliaid marw a samplau o fwyd a baw i'w dadansoddi'n wyddonol;
  • defnyddio amryw ddulliau megis gadael gwenwyn mewn cypyrddau, gosod maglau, chwistrellu nythod mewn toeau a draeniau, pwmpio powdr i waliau ceudod, mygdarthu ystafelloedd a chwistrellu pryfleiddiaid ar garpedi;
  • dewis y modd mwyaf priodol o ddifa'r pla megis osgoi chwistrellu gwenwyn yn y gegin a gadael gwenwyn lle na fydd plant, anifeiliaid anwes a bywyd gwyllt sydd dan warchod yn gyffwrdd ag e;
  • diogelu adeiladau rhag plâu - er enghraifft, gosod sgriniau, llenwi tyllau, gosod offer lladd pryfed, dodi brws ar ddrysau, dodi rhwyd ar draws tyllau awyr iach neu osod pigynnau ar do adeilad i rwystro colomennod rhag glanio yno (er eu bod yn rhywogaeth dan warchod, mae'u baw nhw'n peryglu iechyd);
  • cynghori pobl am atal plâu a thrin a thrafod plâu;
  • cadw cofnodion ac ysgrifennu adroddiadau;
  • helpu swyddogion iechyd yr amgylchedd trwy gasglu a chyflwyno samplau ac offer monitro, profi draeniau, monitro nwy, dal cŵn rhydd, gwylio sefyllfaoedd mae pobl wedi cwyno amdanyn nhw, gweithredu'n dyst dros y cyngor gerbron llys a chynnal cofnodion ac arolygon sylfaenol.

Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai pwysicaf:

  • cyfathrebu'n dda;
  • agwedd aeddfed a synnwyr cyffredin;
  • bod yn heini;
  • gallu gweithio o'ch pen a'ch pastwn eich hun;
  • bod yn effro i faterion iechyd a diogelwch wrth drafod cemegion peryglus;
  • bod yn ymarferol a gallu defnyddio offer;
  • gallu gweithio mewn lleoedd brwnt a chaeth;
  • dim anawsterau ynglŷn â difa plâu a gweld gwaed ac anifeiliaid marw;
  • medrau da ynglŷn ag ymchwilio i broblemau a'u datrys.

Meini prawf derbyn
Bydd y rhan fwyaf o gynghorau'n gofyn am lythrennedd a rhifedd da gan fod rhaid ysgrifennu cofnodion a darllen cyfarwyddiadau am ddefnyddio cemegion.  Efallai y bydd angen profiad o weithio yn yr awyr agored.  Fel arfer, bydd angen trwydded yrru gyflawn ddi-farc.  Byddai cymwysterau ym maes difa plâu yn ddefnyddiol, er y byddwch chi'n cael eich hyfforddi yn y gwaith.  Mae Cymdeithas Difa Plâu Prydain a Chymdeithas Frenhinol Hybu Iechyd yn cynnal cyrsiau hyfforddi ac yn achredu cymwysterau ar y cyd i'r rhai sy'n gweithio ym maes difa plâu.  Mae modd astudio ar gyfer Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol, hefyd.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Gallai fod cyfleoedd i oruchwylio tîm bychan.  Ar ben hynny, efallai y byddwch chi'n gallu cael hyfforddiant am agweddau eraill iechyd yr amgylchedd megis diogelwch bwyd, rheoli llygredd a lles anifeiliaid.  Gallech chi fod yn warden cŵn, hefyd.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Cymdeithas Genedlaethol Technegwyr Difa Plâu: www.npta.org.uk
Cymdeithas Difa Plâu Prydain: www.bpca.org.uk
Cymdeithas Frenhinol Hybu Iechyd: www.rsph.org
Assetskills: www.assetskills.org

Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links