Gwarden strydoedd

Cyflwyniad
Nid gwarden trafnidiaeth mo hwn ond rhyw fath o weithiwr gwarchod cymdogaethau.  Yn wir, gwarden cymdogaethau yw ei enw mewn rhai awdurdodau.  Gwaith gwarden strydoedd yw helpu i leddfu ofn troseddau a gwella bywydau trigolion, cwmnïau ac ymwelwyr.  Dyma swydd newydd na fydd ym mhob cyngor.  Lle mae gweithwyr o'r fath, byddan nhw ym mhob math o awdurdodau ar wahân i'r cynghorau sirol.

Amgylchiadau'r gwaith
Mae'n anochel y bydd angen gweithio yn yr awyr agored ar strydoedd a heolydd yr ardal, gan amlaf.  Mae llawer o gerdded ym mhob math o dywydd.  35 awr yw'r wythnos safonol, ac mae rhaid gweithio shifftiau ac oriau anghymdeithasol.  Gallai fod modd trefnu llai o oriau neu rannu swydd.  Mae tuedd i groesawu gweithwyr rhan-amser fel arfer, yn arbennig ar gyfer gwaith gyda'r nos.  Efallai y bydd y swydd yn gweddu i bobl a hoffai weithio gyda'r nos am fod cyfrifoldebau eraill arnyn nhw yn ystod y dydd.  Mae rhai cynghorau am ddenu rhagor o ferched achos nad oes digon ohonyn nhw yn y maes hwn.

Gweithgareddau beunyddiol
Nod gwarden strydoedd yw gwella'r fro trwy gael gwared ar rai o'r problemau rydyn ni'n gorfod eu goddef.  Trwy helpu i feithrin partneriaethau lleddfu ofn troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, gall cymuned fod yn un fwy diogel a dymunol i fyw ynddi.  Os yw gangiau'n aflonyddu arnoch chi neu os yw hen oergelloedd yn cael eu gadael yn eich gardd, efallai mai gwarden y strydoedd fydd yr un cyntaf y gallwch chi droi ato.  Bydd cynllun amddiffyn cymdogaethau'n cynnwys y canlynol:

  • helpu'r byd masnachol a'r trigolion;
  • meithrin hyder yn y gymuned;
  • helpu i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddu;
  • rhoi gwybodaeth am droseddwyr i'r heddlu a'r cyngor;
  • hybu cydberthynas dda ymhlith pobl a pherthynas dda â'r cyngor lleol.

I wneud hynny, bydd angen cryn dipyn o hyblygrwydd o ran sut a phryd y byddwch chi'n gweithio.  Dyma rai o ddyletswyddau gwarden ar gyfer y nodau uchod:

  • cerdded trwy'r fro (yn ystod y prynhawn, y nos a'r penwythnos, gan amlaf);
  • helpu pobl fregus (yr hen ddyn drws nesaf, y fenyw anabl ar draws yr heol, y ffoaduriaid o Irac ac ati);
  • cymryd rhan yng ngweithgareddau'r gymuned;
  • tynnu sylw'r heddlu, y cyngor ac awdurdodau perthnasol eraill at droseddau, ymddygiad gwrthgymdeithasol a materion amgylcheddol;
  • cadw llygad ar adeiladau gwag;
  • helpu asiantaethau eraill megis yr heddlu, gwardeiniaid trafnidiaeth, gweithwyr gwirfoddol sy'n gwarchod cymdogaethau, gwasanaethau cymdeithasol, eglwysi, mudiadau i hen bobl a chlybiau ieuenctid;
  • gweithio gyda phobl ifanc;
  • cadw llygad ar fwlio - unrhyw le.

Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai hanfodol:

  • ymroddiad i gyfrifoldeb dinesig ac awydd i wella byd pobl;
  • natur dringar;
  • y gallu i gyd-dynnu â phobl o bob lliw a llun;
  • craffter - does dim hawl gyda chi i ddefnyddio dulliau bôn braich;
  • awydd i hybu cyfiawnder;
  • corff eithaf iach a heini.

Meini prawf derbyn
Does dim gofynion ffurfiol, ond byddai cyrsiau hyfforddi a datblygu sy'n arwain at gymhwyster cydnabyddedig.  Y disgwyl yw y byddai'r rhan fwyaf o'r rhinweddau uchod gyda chi.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Gallech chi anelu at ddyrchafiad yn ddirprwy brif warden y strydoedd lle byddai angen rhywfaint o allu goruchwyliol.  Mae dwy neu dair swydd o'r fath mewn awdurdod, fel arfer, yn ogystal â swydd prif warden y strydoedd.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Sefydliad Diogelwch ac Iechyd Galwedigaethol: www.iosh.co.uk
Bwrdd Arholi Cenedlaethol Diogelwch ac Iechyd Galwedigaethol: www.nebosh.org.uk

Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links