Cyflwyniad
Pwy sy'n gofalu am y glaswellt yng nghanol y cylchdro
traffig? Pwy sy'n torri'r gwrych ar fin y ffordd? Pwy
sy'n dyfrio'r basgedi crog yng nghanol y dref? Mae hyn yn
waith bob dydd i arddwyr llywodraeth leol. Ac nid cadw
popeth yn lân ac yn daclus yw eu hunig waith, maen nhw hefyd yn
creu mannau agored newydd i'r cyhoedd eu mwynhau - yn plannu a
meithrin planhigion a choed newydd.
Mae rhai garddwyr yn gweithio'n uniongyrchol i gynghorau lleol,
eraill yn gweithio i gontractwyr sy'n darparu gwasanaethau i
awdurdodau lleol. Mae gwaith garddio hefyd yn cael ei wneud
gan weithwyr tir (sy'n tueddu i gynnal tiroedd chwaraeon, meysydd
chwarae a mannau cymunedol) a gweithwyr garddwriaethol, sy'n bennaf
cyfrifol yn aml am barciau a gerddi cyhoeddus. At ei
gilydd, mae yna fwy na 20,000 o arddwyr a gweithwyr tir yn gweithio
i adrannau amgylcheddol, tai, hamdden a chwaraeon.
Amgylchedd Waith
Mae gofyn bod yn eithaf hyblyg gan fod y tywydd yn aml yn amharu
ar y gwaith. Mae garddwyr yn gweithio yn yr awyr agored
y rhan fwyaf o'r amser - mewn parciau, meysydd chwarae, gerddi
botaneg, ar ystadau tai ac mewn mannau wedi'u tirlunio o gwmpas
adeiladau'r cyngor, canolfannau hamdden, canolfannau siopa a mannau
i gerddwyr mewn canolfannau trefi a dinasoedd. Fel
arfer, maen nhw'n dod i gysylltiad â'r cyhoedd bob
dydd. Mae dillad gwaith yn anffurfiol ond mae garddwyr
fel arfer yn gwisgo esgidiau a menig diogelwch ac, ar gyfer rhai
tasgau, amddiffynnydd clustiau a siaced lachar.
Gweithgareddau Pob Dydd
Mae llawer o arddwyr a staff cynnal tiroedd yn gweithio mewn timau
bychan ac yn gweithio yn ôl cynllun cynnal a chadw (e.e. cylch o 10
i 12 diwrnod). Er enghraifft, fe allen nhw fod yn gweithio ar
ystâd o dai am dridiau, yna dau ddiwrnod mewn parc ac wythnos ar
leiniau glas mewn tref. Fodd bynnag, maen nhw hefyd yn
gyfrifol i ryw raddau am reoli eu llwyth gwaith eu hunain.
Wrth gychwyn gwaith tua 7.30am, maen nhw fel arfer yn llofnodi yn y
depot a chasglu eu taflenni gwaith am y diwrnod. Unwaith y
byddan nhw wedi llwytho eu hoffer (peiriannau trwm megis torwyr
glaswellt â seddi, torwyr gwrychoedd a chwythwyr dail, strimwyr,
rhawiau ac offer tocio ayb) i ffwrdd â nhw yn y fan i'w man
gwaith. Mae'r gwaith yn amrywiol a gallai gynnwys
unrhyw un o'r canlynol:
- Torri glaswellt a gwrychoedd
- Torri ymylon lawntiau
- Tocio rhosod a phrysglwyni
- Palu a gosod 'mulch'
- Clirio gwelyau blodau a phlannu planhigion a phrysglwyni newydd
(gan gynnwys, efallai, prynu planhigion newydd)
- Cadw golwg ar iechyd planhigion a'u chwistrellu yn erbyn
llwydni a phla
- Clirio dail ac ysbwriel
- Ailgylchu gwastraff gardd drwy wneud tomenni compost neu risgl
man i'w defnyddio ar lwybrau.
- Cynnal a chadw offer yn ddyddiol
- Mae garddwyr yn aml yn gweithio gyda staff eraill, megis
gofalwyr parciau, meddygon coed (a'u helpu i blannu coed ifanc,
gosod pibellau dyfrio a thocio gwreiddiau) swyddogion coedyddiaeth
a gweithwyr garddwriaethol.
Nid cynnal a chadw yw'r cyfan o'r gwaith, maen nhw hefyd yn
helpu i greu mannau gwyrdd newydd, er enghraifft, sefydlu gardd ar
weddillion safle adeiladu neu helpu dylunwyr gerddi i wireddu eu
cynlluniau - adeiladu tirluniau caled a ffurfio safleoedd yn yr
awyr agored. Gallai hyn olygu codi waliau ac adeiladu patios,
peintio waliau a gosod delltwaith. Mae gweithwyr tir yn cadw
mannau chwaraeon mewn cyflwr rhagorol, yn eu paratoi ar gyfer
digwyddiadau, yn gosod tywyrch newydd, yn marcio mannau gwyrdd ac
yn cynnal neu'n goruchwylio gwaith torri glaswellt.
Sgiliau a Diddordebau
Fel garddwr, bydd yn rhaid i chi:
- Fod â diddordeb mewn garddwriaeth, planhigion, y tirlun a'r
amgylchedd
- Fod â diddordeb mewn gwella edrychiad yr ardal
- Fod yn fodlon gweithio yn yr awyr agored ym mhob tywydd
- Yn gallu gwneud gwaith corfforol caled
- Heb fod ofn baeddu eich dwylo
- Yn gydwybodol - bod â balchder yn eich gwaith ac yn talu sylw i
fanylion
- Yn gallu gweithio gydag ychydig iawn o arolygaeth ac, yn
dibynnu ar lefel y swydd, arolygu gwaith hyfforddeion
- Yn gallu cynnal perthynas dda gyda chydweithwyr - ac â'r
cyhoedd a fydd yn holi ynghylch eich gwaith neu'n gofyn am gyngor
ynghylch garddio.
Gofynion Mynediad i'r Swydd
Nid oes angen cymwysterau academaidd, o angenrheidrwydd, i gael
swydd ar lefel cymhorthydd, na bod â phrofiad o arddio. Bydd
y cyngor yn trefnu hyfforddiant ynghylch planhigion, technegau
garddio, defnyddio peiriannau, defnyddio pla laddwyr, iechyd a
diogelwch ac yn y blaen. Fel hyfforddai, byddwch yn cael eich
arolygu gan arddwr profiadol.
Fodd bynnag, ar lefel uwch, mae cynghorau fel arfer yn gofyn am
gymhwyster perthnasol, megis Tystysgrif City and Guilds neu
Dystysgrif / Diploma Genedlaethol BTEC/SQA mewn Garddwriaeth
Mwynderau, cymhwyster y Gymdeithas Arddwriaeth Frenhinol, neu
wybodaeth / profiad helaeth o waith a safonau plannu, tocio a
thorri glaswellt. Mae'n rhaid bod â thrwydded yrru lawn
a dilys fel arfer. Efallai y bydd cynghorau'n annog
neu'n disgwyl hyfforddeion i gael NVQ mewn Garddwriaeth
Mwynderau. Mae yna gynlluniau hyfforddi ar gael, gan
gynnwys Prentisiaethau.
Rhagolygon a chyfleoedd ar gyfer y
dyfodol
Mae'r cynghorau mwyaf yn cyflogi sawl tîm o arddwyr a gellir cael
dyrchafiad i lefel oruchwylio, yn goruchwylio yn gyntaf waith un
neu ddau o bobl.
Gallai uwch arddwr / Goruchwyliwr fod yn gofalu am nifer o dimau o
arddwyr, er yn treulio llai o amser yn gwneud gwaith garddio
ymarferol ac yn treulio mwy o amser yn llenwi dalenni swyddi,
gwneud yn siŵr fod gwaith yn cael ei wneud yn iawn ac yn brydlon ac
yn asesu gwaith staff newydd. Bydd yna gyfle hefyd i
wneud mwy o waith swyddfa - fel swyddog hamdden awyr agored neu
swyddog cefn gwlad, er enghraifft - neu i symud i feysydd
cysylltiol megis gwaith rhodiwr, coedwigaeth neu dirlunio.
Gwybodaeth a Gwasanaethau Pellach
Gwybodaeth prentisiaeth www.apprenticeships.org.uk
Lantra www.lantra.co.uk
Sefydliad Garddwriaeth www.horticulture.org.uk
Sefydliad Gofal Tir www.iog.org
Y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol www.rhs.org.uk
Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/) y
llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich
ysgol.