Cyflwyniad
Mae swyddogion denu buddsoddwyr yn helpu i gryfhau economi'r fro
ac ychwanegu at gyfleoedd i weithio yno trwy annog cwmnïau cyfredol
a newydd i agor rhagor o ganghennau ac ehangu eu gweithgareddau
nhw. Mae gan swyddogion o'r fath nifer o rolau megis
marchnata'r rhanbarth a'r dref, meithrin cysylltiadau cyhoeddus,
trefnu arddangosfeydd, gweithredu'n asiant eiddo a phrisio tir.
Amgylchiadau'r gwaith
Er bod swyddogion denu buddsoddwyr yn gweithio o swyddfa, maen
nhw'n treulio llawer o amser y tu allan iddi gan ymweld â safleoedd
a thywys darpar fuddsoddwyr trwy fannau a allai fod yn addas i'w
busnes.
37 awr yw'r wythnos safonol ond mae cryn dipyn o weithio y tu
allan i'r oriau arferol am fod angen trefnu ymweliadau ar amserau
sy'n gyfleus i glientiaid o rannau eraill o'r deyrnas neu o
dramor.
Gweithgareddau beunyddiol
Gallai fod gofyn i swyddog denu buddsoddwyr gyflawni amrywiaeth o
orchwylion:
- cynnal ymchwil i'r farchnad ynglŷn â sefydlu mentrau
diwydiannol a fydd yn denu cwmnïau i'r ardal;
- cwrdd â chynrychiolwyr cwmnïau lleol i nodi eu hanghenion nhw
a'r math o gymorth fyddai'n eu helpu i ymehangu;
- llunio deunyddiau marchnata a hyrwyddo am y rhanbarth neu'r
dref i ddenu cwmnïau newydd;
- cadw golwg ar farchnad eiddo'r ardal, gan nodi'r safleoedd
fyddai'n addas i ddatblygiadau diwydiannol neu fasnachol;
- trefnu i ddarpar fuddsoddwyr a chyflogwyr ymweld â'r fro a'i
safleoedd;
- cynnig cynghorion a chanllawiau i ddarpar fuddsoddwyr am
wybodaeth, ymchwil, ariannu, cymorth asiantaethau eraill a
chynllunio busnes;
- paratoi adroddiadau a cheisiadau am arian cyrff gwladol a
rhyngwladol;
- rheoli cyllidebau sylweddol.
Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai hanfodol:
- gallu arwain prosiectau'n llwyddiannus;
- gallu rheoli cyllidebau mawr;
- medrau cyfathrebu da;
- gallu datrys problemau;
- gallu meithrin hyder mewn pobl.
Meini prawf derbyn
Fel arfer, fe fydd angen gradd mewn pwnc perthnasol megis datblygu
economaidd, cynllunio neu astudiaethau busnes. Yn aml, bydd y
cyngor yn eich annog i astudio ar gyfer cymwysterau newydd megis
gradd meistr ynghylch adfywio trefol neu gynllunio neu
gymwysterau'r amryw gyrff proffesiynol megis Sefydliad y Datblygu
Economaidd. Gallai profiad o faes adfywio neu ddatblygu
economaidd fod o fantais, hefyd.
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Gallai fod modd symud i feysydd eraill megis datblygu busnes,
datblygu economaidd, materion Ewrop, adfywio a datblygu'r
chwaraeon. At hynny, gallai fod cyfle i fynd yn rheolwr ym
meysydd datblygu economaidd, adfywio a chynllunio.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Sefydliad Datblygu Economaidd: www.ied.co.uk
Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y
llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd
eich ysgol.