Helpu cymunedau i ddatblygu gweithgareddau corfforol a
chwaraeon ym myd llywodraeth leol.
Cyflwyniad
Mae timau datblygu'r chwaraeon ym myd llywodraeth leol yn gyfrifol
am hybu, llunio, cynnig a rheoli rhaglenni a mentrau fel y bydd
rhagor o bobl yn cymryd rhan yn y chwaraeon ym mhob rhan o'r
gymuned.
Amgylchiadau'r gwaith
Mae swyddogion datblygu'r chwaraeon yn gweithio yn y swyddfa ac yn
treulio peth amser yn ymweld â chyfleusterau chwaraeon a hamdden ar
gyfer cyfarfodydd neu weithgareddau penodol, hefyd. 37 awr
yw'r wythnos safonol, er y gallai fod angen gweithio gyda'r nos a
thros y Sul.
Gweithgareddau beunyddiol
Mae swyddogion datblygu'r chwaraeon yn gyfrifol am baratoi,
defnyddio a monitro cynllun y cyngor ar gyfer datblygu'r chwaraeon,
gan ofalu bod y cyngor yn hyrwyddo chwaraeon ac yn annog pobl ym
mhob rhan o'r gymuned i gymryd rhan ynddyn nhw. Maen nhw'n
ymgynghori â'r cyhoedd a phartneriaid ynglŷn â chyfleoedd i
ddatblygu'r chwaraeon er mwyn gwella gwasanaethau a chynyddu nifer
y rhai sy'n eu defnyddio.
Gallai dyletswyddau swyddog datblygu'r chwaraeon amrywio yn ôl
ei gyfrifoldebau, ei rôl a'r lle mae'n gweithio ynddo. Dyma
rai gorchwylion nodweddiadol:
- trefnu a hybu gweithgareddau a mentrau mynych ar gyfer grwpiau
penodol megis helpu pobl ifanc i ddarganfod a datblygu eu doniau o
ran chwaraeon neu gynnig gweithgareddau corfforol i bobl hŷn;
- trefnu a hybu gweithgareddau mawr megis rhedeg er hwyl,
marathonau, campau i'r ifanc, cystadlaethau pêl-droed, diwrnodau i
deuluoedd a chystadlaethau mabolgampau;
- cydweithio'n agos â'r ysgolion ynglŷn â strategaethau addysg
gorfforol a'r chwaraeon a meithrin cysylltiadau rhwng clybiau
chwaraeon ac ysgolion;
- helpu mentrau megis Chwaraeon Cymru;
- cyflwyno a chydlynu mentrau hyfforddi personol a mentora;
- dod o hyd i ffynonellau arian ar gyfer prosiectau ym myd y
chwaraeon;
- cydweithio â phartneriaid a chlybiau chwaraeon yr ardal ynglŷn
â chyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau.
Medrau a diddordebau
Mae angen y canlynol:
- diddordeb a gallu yn y chwaraeon;
- medrau cyfathrebu ardderchog (ar lafar ac ar bapur fel ei
gilydd);
- medrau trefnu da;
- gallu gweithio mewn tîm;
- syniadau creadigol ynglŷn â defnyddio strategaethau a
chynlluniau;
- gallu ysgogi pobl eraill
Meini prawf derbyn
Mae'r rhan fwyaf o gynghorau'n mynnu gradd neu ddiploma
genedlaethol uwch ym maes datblygu'r chwaraeon, gwyddorau'r
chwaraeon neu bwnc cysylltiedig. Ar y llaw arall neu ar ben
hynny, gallai fod angen cymwysterau perthnasol megis hyfforddwr
(cymwysterau galwedigaethol cenedlaethol, o bosibl), prentisiaeth
neu gymwysterau cymorth cyntaf. Mae mudiadau gwirfoddol yn
cynnig cyfleoedd i hyfforddi ym myd y chwaraeon, a bydd profiad o'r
fath yn werthfawr pan foch chi'n ymgeisio am swydd. Mae
cymwysterau proffesiynol ar gael trwy ISPAL a'r Sefydliad dros
Reoli Chwaraeon a Hamdden.
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Gallai fod cyfleoedd i fynd yn rheolwr yn adran y gwasanaethau
hamdden.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Sefydliad Breiniol Rheoli Chwaraeon a Gweithgareddau Corfforol: www.cimspa.co.uk
Skills Active: www.skillsactive.com
Chwaraeon Cymru: www.sportwales.org.uk
Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y
llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd
eich ysgol.