Swyddog adfywio

Cyflwyniad
Mae adfywio'n weithgaredd pwysig i awdurdodau lleol.  Mae modd cymryd amryw gamau yn y maes hwn megis datblygu dociau neu gychwyn busnesau yn y gymuned.  Mae adfywio'n cwmpasu datblygu economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ac, o ganlyniad, mae angen amrywiaeth helaeth o fedrau ar swyddogion adfywio.  Boed helpu cymuned i sefydlu cwmni newydd, cynghori grwpiau neu gwmnïau am baratoi cais am grant, cael gafael ar arian i wella tai neu ddatblygu cyfundrefnau cludiant - dyma orchwylion nodweddiadol i swyddog adfywio.

O achos natur amrywiol a diddorol adfywio, ynghyd â'r ffaith ei fod yn ddatblygiad cymharol ddiweddar ym mhrif frwd gwaith awdurdodau lleol, gallai fod yn rhan o strwythurau sydd ar waith ers tro.  Yn y trefi, gallai fod yn rhan o uned adnewyddu trefol, tîm datblygu economaidd neu weithgaredd datblygu cymunedol.  Fel arfer, fe fydd adfywio o dan adain adrannau cynllunio er y gallai rhai awdurdodau lleol ofyn i asiantaethau allanol gynnal prosiectau adfywio ar eu rhan.

Amgylchiadau'r gwaith
Er bod gan swyddogion adfywio eu swyddfa, fe fyddan nhw'n treulio llawer o amser yn y gymuned gan ymweld â chwmnïau preifat, sefydliadau cyhoeddus a mudiadau cymunedol.  O achos natur amryfal y gwaith, mae angen gweithio gyda phobl o bob lliw a llun - plant, prif weithredwyr, gweithwyr a gwleidyddion - mewn amrywiaeth o amgylchiadau.  Beth bynnag fo'r gorchwyl boed siarad mewn cyfarfod cyhoeddus, helpu cymuned i godi sbwriel neu fynd i gyfarfod ar safle adeiladu, mae angen bod yn graff i ofalu eu bod yn gwisgo'r dillad priodol ac yn amlygu arbenigedd proffesiynol.  37 awr yw'r wythnos safonol fel arfer, er y gallai fod angen gweithio gyda'r nos a thros y Sul weithiau.

Gweithgareddau beunyddiol
Bydd swyddogion adfywio'n helpu grwpiau lleol i ddechrau a datblygu prosiectau adfywio.  Felly, rhaid adnabod problem, asesu'r sefyllfa â'i datrys, weithiau.  Ymhlith gweithgareddau mae cynnig cynghorion a gwybodaeth i helpu grwpiau i gael gafael ar arian (cymunedau a busnesau fel ei gilydd).  Gall fod angen trefnu hyfforddiant i rai grwpiau neu annog cymunedau i fanteisio ar arian allanol fel y gallan nhw elwa i'r eithaf ar bob cyfle.

Un o brif rannau gwaith swyddog adfywio yw cysylltu'n aml ag amrywiaeth eang o gydweithwyr a sefydliadau allanol megis gwasanaethau cynghori am fusnes, siambrau masnach neu arianwyr elusennol.  Ar ben hynny, mae rhaid bod yn effro i newidiadau gwleidyddol, effaith polisïau a'r modd mae camau lleol yn cyd-fynd â'r strategaethau ehangach.  Rhwydweithio a phartneriaethau sy'n ategu gwasanaeth adfywio.  Un o'r prif rolau eraill yw hybu twristiaeth genedlaethol a rhyngwladol i ddenu incwm er lles cwmnïau a chymunedau lleol.  Er bod llawer o swyddogion adfywio'n ymwneud â rôl gyffredinol, bydd rhai'n arbenigo mewn meysydd megis helpu prosiectau sy'n cynnig arian ar gyfer tai/cludiant neu roi cymorth i gymunedau a chwmnïau.
 
Medrau a diddordebau
Gall swyddogion adfywio ddod o sawl cefndir ond y prif ofynion yw'r gallu i weithio'n dringar gyda phobl a grwpiau o bob lliw a llun.  Rhaid ymrwymo i hybu cyfleoedd cyfartal, hefyd.  Wrth helpu cwmnïau a chymunedau i ddatblygu, bydd angen trin a thrafod gwybodaeth gymhleth, llunio adroddiadau a pharatoi ceisiadau o bob math.  Felly, mae llythrennedd a rhifedd yn hanfodol.

Mae'r gallu i weithio ar y cyd ymhlith y medrau pwysicaf, a dylai swyddog adfywio fod yn fodlon gweithio mewn tîm.  Gan fod angen gweithio y tu allan i oriau gwaith ac ar safleoedd allanol yn aml, fodd bynnag, mae rhaid bod yn un hyderus, cryf ei gymhelliant sy'n gallu dod i benderfyniadau.  I hwyluso cynhwysiant ac annog pobl i ymgysylltu â phrosiectau heb deimlo'n anesmwyth, mae'n bosibl y bydd gallu i siarad Cymraeg yn ddefnyddiol iawn.

Meini prawf derbyn
Mae profiad yn y gwaith yn bwysig fel arfer, yn ogystal â'r gallu i gael gafael ar arian, gwybodaeth drylwyr am gyfundrefnau grantiau, cymorth i gwmnïau a chymunedau a medrau rheoli cyllidebau a phrosiectau.  O ran cymwysterau academaidd, bydd eisiau gradd yn aml er y gallai rhai cyflogwyr dderbyn tystysgrifau Safon A neu gymhwyster cyfwerth.  Er ei bod yn annhebygol y bydd angen gradd mewn pwnc penodol, bydd y rhan fwyaf o gyflogwyr yn annog swyddogion adfywio i astudio ar gyfer cymwysterau ychwanegol megis MSc mewn gwahanol bynciau - gwaith cymunedol, adfywio trefol, datblygu diwydiannol ac ati.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Mae gwaith adfywio trefi a rhanbarthau'n mynd rhagddo ledled y Deyrnas Gyfunol a gallai fod angen i swyddogion symud i ardaloedd eraill i ddod o hyd i gyfleon addas.  Gallai fod modd gweithio'n uniongyrchol i awdurdod lleol, sefydliad hyd braich neu asiantaeth leol/gymunedol sydd o dan nawdd gwladol.  Mae'n bosibl datblygu gyrfa trwy asiantaethau cenedlaethol, Ewropeaidd a rhyngwladol, cyrff cynllunio trefol neu ranbarthol neu asiantaethau datblygu rhanbarthol.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Canolfan Strategaethau Economaidd Lleol: www.cles.org.uk
Sefydliad Datblygu Economaidd: www.ied.co.uk

Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links