Rhagarweiniad
Mae gan Gynghorau ddyletswydd i sicrhau bod yr ysgolion yn eu
hardal yn darparu addysg o safon dda. Mae rheolwyr gwella ysgolion
yn monitro, yn herio ac yn rhoi cymorth i ysgolion er mwyn codi
safonau. Maent yn gweithio i gynghorau sir, cynghorau unedol,
cynghorau metropolitanaidd neu gonsortia. Mewn rhai cynghorau, cânt
eu galw yn rheolwyr datblygu addysg.
Amgylchedd Gwaith
Mae rheolwyr gwella ysgolion yn gweithio mewn swyddfeydd yn bennaf
ond oherwydd natur eu gwaith, maent yn treulio llawer o amser yn
ymweld ag ysgolion ac yn mynd i gyfarfodydd gyda gweithwyr addysg
proffesiynol eraill.
Gweithgareddau o Ddydd i Ddydd
Mae rheolwyr gwella ysgolion yn gyfrifol fel arfer am grŵp o
ysgolion. Maent yn rheoli tîm o ymgynghorwyr gwella ysgolion sy'n
cael eu dyrannu i nifer o ysgolion yn y grŵp. Mae angen i'r Rheolwr
Gwella Ysgolion roi cymorth o ran rhoi strategaethau gwella
ysgolion eu Hawdurdod Lleol neu eu Consortiwm ar waith. Bydd nifer
yr ymweliadau y bydd pob ysgol yn eu cael bob blwyddyn yn amrywio
gan ddibynnu ar faint o gymorth sydd ei angen. Lle canfyddir
gwendidau, efallai y bydd angen i reolwyr gwella ysgolion roi
cyngor i gyrff llywodraethu a Phenaethiaid ar ddatblygu cynllun
gweithredu. Efallai y bydd hyn yn digwydd yn sgil arolygiad ESTYN
yn benodol.
Efallai y bydd arolygwyr ESTYN yn barnu bod ysgol nad yw'n
darparu addysg foddhaol yn tangyflawni h.y. bod angen gwelliannau
sylweddol neu fesurau arbennig. Mae'n rhaid i ysgolion ac adrannau
addysg ymrwymo i fynd i'r afael â materion a chan ddibynnu ar
ddifrifoldeb y graddio, mae'n rhaid iddynt lunio nifer o
adroddiadau, asesiadau a chynlluniau gweithredu o fewn cyfnod amser
penodedig. Yna bydd ganddynt derfyn amser penodol ar gyfer rhoi'r
cynlluniau gweithredu ar waith, cyn caiff arolygiad pellach ei
gynnal.
Efallai hefyd y bydd Rheolwyr Gwella Ysgolion yn gweithredu fel
ymgynghowyr i benaethiaid a llywodraethwyr ysgol ar amrywiaeth o
faterion - gan gynnwys dethol penaethiaid. Pan fydd prifathrawiaeth
yn wag, byddant yn cynorthwyo'r llywodraethwyr â llunio rhestr fer
o ymgeiswyr addas a byddant yn rhan o'r panel cyfweld. Yn
gyfreithiol, dim ond rôl ymgynghorol sydd ganddynt, ond os bydd y
llywodraethwyr yn penodi rhywun sy'n anaddas, yn eu tyb nhw,
byddant yn hysbysu'r llywodraethwyr yn ysgrifenedig o'u
hamheuon.
Mae rheolwyr gwella ysgolion yn treulio amser hefyd yn darllen
adroddiadau addysgol, dogfennau ac aros yn ymwybodol o newidiadau
mewn polisi addysg a newidiadau yn y gyfraith sy'n effeithio ar
ysgolion.
Sgiliau a Diddordebau
Mae'n rhaid i reolwyr gwella ysgolion:
- feddu ar sgiliau cyfathrebu ardderchog;
- gallu ennill ffydd ac ymddiriedaeth penaethiaid ac
athrawon;
- bod yn arweinwyr da;
- meddu ar sgiliau trafod;
- bod yn ddiplomyddol ac yn ddarbwyllol - ac yn gadarn pan fydd
angen;
- mwynhau gweithio mewn tîm;
- bod yn drefnwyr da ac yn rheolwyr amser da, yn gallu sicrhau
cydbwysedd o ran gofynion amser sy'n gwrthdaro.
Gofynion Mynediad
Y gofyniad lleiaf yw gradd gychwynnol a statws athro
cymwysedig. Mae angen cymwysterau ôl-raddedig lefel uwch fel
graddau meistr neu ddiplomâu uwch mewn addysg ar gyfer llawer o'r
swyddi hyn. Gan fod yn rhaid i reolwyr gwella ysgolion fod â lefel
uchel o hygrededd ymhlith athrawon, llywodraethwyr a rhieni y mae
llawer ohonynt yn gyn athrawon, (cyn benaethiaid yn aml). Mae gan
lawer ohonynt brofiad fel arolygwyr ysgol hefyd. Mae gan eraill
brofiad o weinyddiaeth addysgol mewn adrannau addysg cynghorau.
Posibiliadau a chyfleoedd yn y dyfodol
Efallai y bydd rhai Awdurdodau yn cyflogi hyd at ddau Reolwr
Gwella Ysgolion (un ar gyfer yr Ysgol Gynradd a'r llall ar gyfer yr
Ysgol Uwchradd). Yn achos trefniant Consortiwm, efallai y caiff mwy
eu cyflogi. Gallai fod llwybrau dyrchafu posibl i rôl prif swyddog
addysg, neu bennaeth gwasanaethau plant. Mae cyfleoedd hefyd mewn
meysydd cysylltiedig yn ymwneud â mentrau penodol a meysydd
arbennig fel Addysg y Blynyddoedd Cynnar, Llythrennedd a
Rhifedd.
Rhagor o Wybodaeth a Gwasanaethau
Cymdeithas Gweithwyr Proffesiynol mewn Ymddiriedolaethau Addysg a
Phlant www.aspect.org.uk
Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru www.gtcw.org.uk
ESTYN www.estyn.gov.uk
Llywodraeth Cymru www.wales.gov.uk
Swyddi addysg www.eteach.com
Yr Adran Addysg www.education.gov.uk
Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y
llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich
ysgol