Cynghorydd gwella ysgolion
Rhagarweiniad
Mae timau gwella ysgolion mewn cynghorau lleol yn rhoi cyngor a
chymorth i ysgolion mewn amrywiaeth o feysydd gan gynnwys: rheoli
ac arwain ysgolion; cwricwlwm ac asesu; gwella ysgolion; a
datblygiad proffesiynol staff. Cylch gwaith cynghorydd gwella
ysgolion yw cefnogi, cynghori a herio'r ysgol o ran ei hymdrech
mewn perthynas â gwella parhaus drwy raglen o ymweliadau drwy gydol
y flwyddyn. Mae cynghorwyr gwella ysgolion yn gweithio i gynghorau
unedau, cynghorau sir a chyngorau metropolitanaidd.
Amgylchedd Gwaith
Mae cynghorwyr gwella ysgolion yn gweithio o swyddfa yn bennaf,
ond maent yn treulio llawer o amser yn ymweld ag ysgolion ac yn
mynd i gyfarfodydd gyda gweithwyr proffesiynol eraill.
Gweithgareddau o Ddydd i Ddydd
Mae cynghorwyr gwella ysgolion yn gweithio'n agos gyda grŵp
dynodedig o ysgolion yn yr ardal leol yn rhoi cymorth, yn herio ac
yn ymyrryd pan fydd yn briodol. Efallai y bydd ymweld â'r ysgol yn
cynnwys rhai o'r tasgau canlynol:
- arsylwi gwersi ac awgrymu ffyrdd o wella perfformiad
athrawon;
- gwerthuso cynnydd a chyrhaeddiad disgyblion;
- trefnu hyfforddiant yn y gwasanaeth ar gyfer athrawon a
phenaethiaid;
- rhoi cymorth yn y cyfnod sy'n arwain at arolygiadau ESTYN
(swyddfa Arolygiaeth Ei Mawrhydi ar gyfer Addysg a Hyfforddiant yng
Nghymru);
- llunio cynlluniau gweithredu ar ôl arolygiadau ESTYN wedi'u
seilio ar feysydd dynodedig ar gyfer gwella;
- defnyddio data ysgolion a data cymharol i helpu ysgolion i
bennu targedau y mae modd eu cyflawni, ond sy'n heriol o ran
cyrhaeddiad disgyblion, addysgu a dysgu, arwain a rheoli, cynllunio
adnoddau a datblygiad proffesiynol;
- monitro cynnydd ysgol yn erbyn targedau;
- hyrwyddo unrhyw fentrau cyngor fel cynlluniau llythrennedd, neu
raglenni anghenion arbennig;
- rhoi cyfeiriad strategol:
- cynghori Cyrff Llywodraethu ar berfformiad ysgol, strategaethau
gwella a phenodiadau Pennaeth a Dirprwy Bennaeth;
- cynnal adolygiadau ar gyfer ysgolion penodol sy'n cael
anawsterau a darparu cymorth ar eu cyfer
Efallai y bydd cynghorwyr gwella ysgolion hefyd yn gysylltiedig
ag amrywiaeth o weithgareddau eraill yn ymwneud â pholisïau plant a
phobl ifanc ac addysg y cyngor, fel:
- llunio adroddiadau ac argymhellion yn dangos i ba raddau y mae
safonau a thargedau a bennir gan y Llywodraeth yn cael eu bodloni
gan y cyngor a'i ysgolion;
- ymgysylltu ag arolygwyr ESTYN;
- gweithio gyda phrifysgolion lleol a darparwyr hyfforddiant i
ddatblygu deunyddiau hyfforddiant ar gyfer hyfforddiant
athrawon;
- asesu athrawon dan hyfforddiant.
Sgiliau a Diddordebau
Mae angen i gynghorwyr gwella ysgolion:
- feddu ar sgiliau rhyngbersonol ardderchog a gallu i feithrin
cydberthynas ag amrywiaeth o bobl wahanol, o ddisgyblion, athrawon
a phenaethiaid i lywodraethwyr a gweithwyr proffesiynol
eraill;
- ymdrechu i sicrhau gwelliant parhaus mewn ysgolion;
- dealltwriaeth am sut mae ysgolion a'r system addysg yn
gweithio;
- sgiliau gwrando da;
- gallu cymathu a dehongli gwybodaeth yn gyflym;
- sgiliau da o ran llunio adroddiadau.
Gofynion Mynediad
Y gofyniad lleiaf yw gradd gychwynnol a statws athro
cymwysedig.
Mae profiad o weithio fel athro yn hanfodol ond efallai y bydd
angen profiad fel uwch reolwr.
Posibiliadau a chyfleoedd yn y dyfodol
Mae llwybr dyrchafu diffiniedig amlwg at rôl uwch ymgynghorydd
gwella a phrif ymgynghorydd gwella. Efallai y bydd llwybrau
dyrchafu posibl i rôl prif swyddog addysg, neu bennaeth
gwasanaethau plant. Mae cyfleoedd hefyd mewn meysydd cysylltiedig
yn ymwneud â mentrau penodol ac arbenigedd fel Addysg y Blynyddoedd
Cynnar, Llythrennedd a Rhifedd.
Rhagor o Wybodaeth a Gwasanaethau
Cymdeithas Gweithwyr Proffesiynol mewn Ymddiriedolaethau Addysg a
Phlant www.aspect.org.uk
Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru www.gtcw.org.uk
ESTYN www.estyn.gov.uk
Llywodraeth Cymru www.wales.gov.uk
Swyddi addysg www.eteach.com
Yr Adran Addysg www.education.gov.uk
Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y
llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich
ysgol.
Related Links