Cyflwyniad
Mae gweithwyr Portage yn cynnig gwasanaeth dysgu gartref i blant
bach ac arnyn nhw anghenion addysgol arbennig, gan gynnwys
anawsterau corfforol neu ddysgu. Maen nhw'n cynnig cymorth a
chefnogaeth i'r rhieni hefyd, megis eu helpu i feithrin medrau'r
plant trwy raglenni trefnus ond hyblyg.
Amgylchiadau'r gwaith
Er bod swyddfa gan weithiwr Portage, bydd yn treulio llawer o
amser yn ymweld â theuluoedd yn eu cartrefi. Gallai weithio'n
rhan amser mewn meithrinfa neu ysgol, hefyd. Gallai fod
rhaid ymweld â theuluoedd gyda'r nos, fodd bynnag, i weld rhieni
sy'n gweithio yn ystod y dydd. Os felly, byddech chi'n cael
amser rhydd yn ystod y dydd i wneud iawn am yr oriau ychwanegol
gyda'r nos.
Gweithgareddau beunyddiol
Mae gweithwyr Portage yn helpu i asesu plant ac arnyn nhw
anghenion addysgol arbennig mewn meysydd megis:
- datblygu babanod;
- medrau cymdeithasol;
- medrau meddwl;
- medrau hunangymorth;
- medrau gweithredol;
- datblygu iaith.
Dyma'r prif ddyletswyddau:
- gweithio gyda rhieni i lunio rhaglen weithgareddau ar gyfer y
rhieni a'u plant;
- ymweld â theuluoedd bob wythnos i gadw golwg ar y cynnydd a
chytuno ar nodau a gweithgareddau newydd;
- ysgrifennu adroddiadau am gynnydd y clientiaid yn rheolaidd a
phennu nodau dysgu hirdymor i'r plant, ar y cyd â'u rhieni;
- gofalu bod rhaglenni'n gweddu i anghenion pob plentyn fel y
gall ddysgu'n effeithiol;
- cydweithio'n agos â phroffesiynolion eraill megis therapyddion
lleferydd, ffisiotherapyddion, seicolegwyr, ymwelwyr iechyd a
gweithwyr cymdeithasol.
Medrau a diddordebau
Mae angen y canlynol:
- medrau cyfathrebu ardderchog;
- gallu gweithio gyda phobl o sawl lliw a llun megis plant,
rhieni ac arbenigwyr eraill;
- agwedd dringar;
- gallu cynghori pobl yn ddoeth;
- gallu llunio adroddiadau;
- diddordeb mewn plant a datblygu teuluoedd.
Meini prawf derbyn
Fel arfer, bydd angen cymhwyster proffesiynol ym maes nyrsio,
gwaith cymdeithasol neu addysg megis NNEB, CACHE, cymhwyster athro
neu radd. Ar y llaw arall, gallai fod angen tri Chymhwyster
Galwedigaethol Cenedlaethol ynglŷn â'r blynyddoedd cynnar ac
addysg. Mae hyfforddiant ar gael trwy'r National Portage
Association (NPA) i weithwyr sydd heb ymgymhwyso yn y maes
hwn. Bydd hyfforddiant dros dri neu bedwar diwrnod, fel
arfer. Mae modiwlau uwch mewn pynciau megis ymweld â
chartrefi, chwarae, cefnogaeth deimladol a thrin a thrafod amryw
anawsterau dysgu, hefyd. Gan fod rhaid ymweld â chartrefi yn
aml, bydd angen cerbyd a thrwydded yrru, fel arfer.
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Mae'n bosibl cael dyrchafiad yn rheolwr neu oruchwyliwr gwasanaeth
Portage. Fel arall, gallech chi arbenigo mewn maes penodol
megis addysg feithrin neu therapi lleferydd. Gallai fod cyfle
ichi symud i faes proffesiynol arall megis gwasanaethau
cymdeithasol i blant neu ddysgu.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Gwirfoddolwyr Gwasanaethau Cymunedol: www.csv.org.uk
Swyddi ym maes addysg: www.eteach.com
National Portage Association www.portage.org.uk
Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y
llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd
eich ysgol.