Gweithiwr datblygu chwarae

Cyflwyniad
Diben datblygu chwarae yw galluogi cymunedau a mudiadau i ddatblygu cyfleoedd a chyfleusterau cynaladwy o'r radd flaenaf i blant a phobl ifanc gael chwarae.

Amgylchiadau'r gwaith
Mae gweithwyr datblygu chwarae'n gweithio ochr yn ochr â phlant, rhieni a mudiadau mewn modd cyfranogol - gan weithio ar y cyd â chanolfannau cyfun materion plant i hybu pwysigrwydd chwarae yn natblygiad plant o fabanod i'r glasoed.

Gweithgareddau beunyddiol

  • Hybu a hyrwyddo chwarae ymhlith plant.
  • Gweithio ochr yn ochr â phlant, rhieni a mudiadau i nodi anghenion plant a phobl ifanc sydd heb eu diwallu o ran chwarae, a cheisio cywiro hynny lle bo modd.
  • Gweithio ar y cyd â chanolfannau cyfun materion plant i hybu a chyflwyno elfen y chwarae agored ynddyn nhw.
  • Chwilio am gyfleoedd i ddatblygu chwarae mewn cymunedau.
  • Trefnu, cyflwyno a chynnal prosiectau, sesiynau a gweithdai chwarae.
  • Cydweithio â chymunedau i ddatblygu cyfleoedd priodol i chwarae.
  • Gofalu bod chwarae'n digwydd mewn mannau ymestynnol ond diogel yn ôl safonau priodol iechyd a diogelwch.
  • Rhoi gwybodaeth, cynghorion a chymorth i fentrau lleol.
  • Helpu i ddenu a chynorthwyo staff a gwirfoddolwyr.
  • Goruchwylio a chynorthwyo staff a gwirfoddolwyr yn briodol.
  • Cloriannu prosiectau'n rheolaidd.
  • Monitro, cynnal a rheoli'r defnydd o gyfarpar.
  • Rheoli cyllidebau a helpu i baratoi amcangyfrifon cyllidebol.
  • Cyflawni dyletswyddau gweinyddu'r prosiectau.

Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai pwysicaf:

  • gwybodaeth a phrofiad ynglŷn â datblygu chwarae a/neu gymunedau;
  • cyfathrebu'n eglur - ar lafar ac ar bapur fel ei gilydd - gan gynnwys llunio adroddiadau;
  • parchu cyfrinachedd;
  • rhoi cyflwyniadau;
  • gweithio o'ch pen a'ch pastwn eich hun ac yn rhan o dîm;
  • cydweithio'n effeithiol ag adrannau eraill o'r cyngor ac asiantaethau allanol;
  • bod yn dringar ynglŷn ag anghenion unigol;
  • ysgogi staff;
  • casglu a lledaenu gwybodaeth ymhlith y rhai sy'n defnyddio'r gwasanaeth;
  • cyfeirio pobl at gyfleusterau eraill lle bo angen.

Meini prawf derbyn
Mae cymwysterau gwaith chwarae ar ffurf cydnabyddiaeth, tystysgrif a diploma yn ôl lefel 2, lefel 3 a lefelau 4/5.  Dylai fod gan bobl a hoffai astudio ar gyfer Cydnabyddiaeth 'Pontio o'r Blynyddoedd Cynnar i Waith Chwarae' (Lefel 3) gymhwyster ym maes y blynyddoedd cynnar (lefel 3) naill ai yn addysg y blynyddoedd cynnar, safonau gofal ac addysg neu safonau gofal, dysgu a datblygu plant.  Ymhlith y cymwysterau derbyniol mae Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol 'Gofal, Dysgu a Datblygu Plant' (Lefel 3), Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol 'Gofal ac Addysg y Blynyddoedd Cynnar' (Lefel 3) a Chymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol 'Gofal ac Addysg Plant' (Lefel 3).  Er mis Gorffennaf 2012, mae Diploma 'Gweithlu Plant a Phobl Ifanc - Llwybr y Blynyddoedd Cynnar' (Lefel 3) a Diploma'r Bwrdd Arholi Cenedlaethol dros Feithrinfeydd yn briodol, hefyd.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Dyma faes sydd ar gynnydd ac mae digon o heriau cyffrous ynddo.  Mae'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn datblygu'r syniad y dylai proffesiynolion ym meysydd addysg a'r gwasanaethau cymdeithasol weithio ar y cyd â rhieni er lles plant.  Mae datblygu proffesiynol parhaus yn ofyn safonol.  Gallai fod cyfleoedd i ddatblygu'ch gyrfa mewn rhannau eraill o wasanaethau chwarae a'r blynyddoedd cynnar yn ogystal â gwaith cymdeithasol (gyda'r cymwysterau priodol).

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Cyngor Gofal Cymru: www.ccwales.org.uk
Cylchgrawn Gofal Cymunedol: www.communitycare.co.uk
Gwirfoddolwyr Gwasanaethau Cymunedol: www.csv.org.uk/socialhealthcare
Cyngor y Galwedigaethau Iechyd a Gofal: www.hpc-uk.org
Cyngor Cenedlaethol y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol: www.ncvys.org.uk
Cymdeithas y Gofal Cymdeithasol: www.socialcareassociation.co.uk

Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links