Swyddog cymorth cyllidebol

Cyflwyniad
Mae pob adran o'r cyngor yn gweithio yn ôl cyllideb - hyn a hyn o arian sydd i'w wario yn ystod y flwyddyn o dan amodau llym.  Gwaith swyddog cymorth cyllidebol yw cydweithio â staff yr amryw adrannau i gymharu'r costau â'r arian sydd ar gael a chadw golwg ar y gwariant yn rhan o gynllun gwario'r cyngor i gyd.

Amgylchiadau'r gwaith
Yn y swyddfa y byddwch chi'n gweithio.  Mae swyddogion cymorth cyllidebol yn treulio'r rhan fwyaf o bob dydd wrth gyfrifiadur.  Yn ystod gweddill yr amser, byddan nhw'n cysylltu â chydweithwyr mewn gwahanol adrannau.

Gweithgareddau beunyddiol
Dechrau'r cylch cyllidebol yw siarad â rheolwyr unedau unigol yr amryw adrannau i nodi eu gwariant cyfredol ac amcangyfrif faint y byddan nhw'n ei wario yn ystod y flwyddyn nesaf.  Ar ôl gwneud hynny, bydd modd pennu'r cyllidebau, gan eu newid yn ôl yr angen yn ystod y flwyddyn.

Yn ystod y flwyddyn, bydd swyddogion cymorth cyllidebol yn cofnodi'r gwariant ym mhob cyllideb, yn cadw golwg ar y gwariant ac yn paratoi adroddiadau misol fydd yn cyfleu darlun o wariant y cyngor i gyd.

Ar ddiwedd y flwyddyn, byddan nhw'n casglu gwybodaeth am gredydwyr a dyledwyr cyn cau pen y mwdwl ar gyfrifon pob adran.

Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai hanfodol:

  • gallu trin a thrafod gwybodaeth fanwl;
  • ffordd drefnus a rhesymegol o fynd ati;
  • meddwl dadansoddol er mwyn gwneud synnwyr o ystadegau helaeth;
  • rhifedd - rhaid ichi allu trin a thrafod ffigurau;
  • medrau trefnu;
  • gallu cyfathrebu'n eglur â phobl o bob lliw a llun;
  • bod yn gyfarwydd â rhaglenni a sustemau cyfrifiadurol.

Meini prawf ymgeisio
Mae'r meini prawf yn amrywio o'r naill gyngor i'r llall.  Mae rhai heb bennu unrhyw gymwysterau penodol ond mae eraill yn mynnu gradd prifysgol.  Bydd profiad ym meysydd mathemateg, ystadegau a chyfrifeg yn ddefnyddiol, yn ogystal â'r gallu i drin a thrafod meddalwedd megis taenlenni a rhaglenni penodol y cyngor sy'n eich cyflogi.  Gallai fod modd astudio ar gyfer Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol ac efallai y bydd hyfforddiant proffesiynol ar gael.

Gobeithion a cyfleoedd yn y dyfodol
Gallech chi gael eich dyrchafu'n rheolwr ac, ar ôl ennill rhagor o gymwysterau, efallai y bydd yn bosibl cael swydd ym maes cyfrifeg.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Sefydliad Breiniol Cyfrifyddion Arian Cyhoeddus: www.cipfa.org.uk

Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/) y llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich ysgol. 

Related Links