Cyflwyniad
 Mae adran ariannol ym mhob cyngor ac, felly, bydd rhywfaint o
dderbynwyr arian neu 'glercod ariannol' yno.  Mae dyletswyddau
amrywiol gyda nhw megis casglu taliadau treth y cyngor a dirwyon
parcio, prosesu ceisiadau gweithwyr am dreuliau, paratoi cyflogresi
mewnol wythnosol a gwerthu tocynnau ym mhafiliynau a theatrau
cynghorau lleol.  Mae'r dyletswyddau'n ymwneud â chyllid y
cyngor ym mhob achos.
Amgylchiadau'r gwaith
 Mewn swyddfa y byddwch chi'n gweithio - yng ngharfan derbyn
arian/trin a thrafod cyllid adran ariannol y cyngor neu yn swyddfa
docynnau un o'i ganolfannau adloniant.  Mae rhaid cadw'r lle o
dan glo am resymau diogelu.  Mae nifer o swyddfeydd ar gyfer
casglu treth y cyngor ac, felly, bydd y gweithwyr yn symud
rhyngddyn nhw o bryd i'w gilydd.  37 awr yw'r wythnos safonol
er bod rhaid gweithio dros y Sul a gwyliau banc weithiau, yn
arbennig ym myd adloniant (lle mae staff yn gweithio'n rhan-amser
neu'n achlysurol, yn aml).  Gan fod clercod ariannol yn
ymwneud â'r cyhoedd fel arfer, rhaid gwisgo'n addas.
Gweithgareddau beunyddiol
 Agor, cyfrif a phrosesu taliadau sydd wedi'u cyflwyno naill ai
trwy'r post neu dros y cownter.  Helpu i baratoi cyflogresi
wythnosol a misol gan gynnwys archwilio a didoli adroddiadau
cyflogau a sieciau cyn eu dosbarthu.  Mae disgwyl i weithwyr
swyddfa docynnau drafod arian mân a mynd i'r banc hefyd, yn ogystal
â defnyddio'r ffôn yn aml.  Mae swyddfeydd talu treth y cyngor
a derbyn ymholiadau yn prosesu taliadau ac yn ateb ymholiadau
cwsmeriaid.  Dyma rai o ddyletswyddau clerc ariannol yn y
gwasanaethau cyllid:
- helpu i gasglu a derbyn incwm sy'n ddyledus i'r cyngor;
 
- ateb ymholiadau'r cyhoedd am dalu treth y cyngor a materion
eraill;
 
- prosesu taliadau ac ymholiadau trwy'r post;
 
- helpu i dalu pobl a sefydliadau mae ar y cyngor arian iddyn
nhw;
 
- cadw at weithdrefnau diogelu arian cyn ei drosglwyddo i'r
banc;
 
- cyfrif a chysoni arian a sieciau sydd wedi'u derbyn bob
dydd.
 
Yn y swyddi uwch, gallai fod dyletswyddau clercaidd cyffredinol
a gofyn i weithredu ar ran prif dderbynnydd arian yn ei
absenoldeb.  Gallai fod cyfrifoldebau am hyfforddi a datblygu
staff, hefyd.
Medrau a diddordebau
 Mae angen y canlynol:
- ffordd drefnus o weithio, a manwl gywirdeb;
 
- medrau trin a thrafod cyfrifiadur;
 
- natur drefnus sy'n mynnu cywirdeb;
 
- gallu trin a thrafod ffigurau;
 
- agwedd ddymunol wrth weithio gyda chwsmeriaid;
 
- medrau cyfathrebu ardderchog wyneb yn wyneb a thros y
ffôn;
 
- gallu gweithio o'ch pen a'ch pastwn eich hun ac yn rhan o
dîm.
 
Yn anad dim, rhaid bod yn onest, wrth gwrs.
  
 Meini prawf derbyn
 Bydd y rhan fwyaf o gynghorau'n mynnu pedair TGAU A*-C gan gynnwys
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg.  Gallai Cymhwyster
Galwedigaethol Cenedlaethol mewn pwnc perthnasol fod yn dderbyniol
yn eu lle.  Yn ogystal â medrau derbynnydd arian, dylai fod
profiad o weithio gyda'r cyhoedd.  Mae profiad o drin a
thrafod arian, bancio a gweinyddu o gymorth.  Byddai o fantais
pe baech chi wedi gweithio mewn lle sydd i'w gadw o dan glo am
resymau diogelu hefyd gan y byddech chi'n gyfarwydd â gweithdrefnau
diogelu safonol.
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
 Gan mai arian yw conglfaen pob busnes, mae modd cyrraedd swyddi
uwch megis prif dderbynnydd arian, swyddog ariannol neu
gyfarwyddwr/rheolwr ariannol ym meysydd archwilio a chyfrifeg (ar
ôl cael rhagor o brofiad a chymwysterau).  Gallai hyfforddiant
fod ar gael yn y gwaith.  Nod hirdymor arall fyddai
ymgymhwyso'n aelod o Sefydliad Breiniol Cyllid a Chyfrifeg
Cyhoeddus (CIPFA).
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
 Cymdeithas Technegwyr Cyfrifeg: www.aat.org.uk
 Sefydliad Breiniol Cyllid a Chyfrifeg Cyhoeddus: www.cipfa.org
Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell gyhoeddus,
swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.