Swyddog cofrestru ac arolygu

Cyflwyniad
Gwaith swyddog cofrestru ac arolygu yw gofalu bod sefydliadau preswyl megis cartrefi ar gyfer oedolion a phlant yn cadw at y safonau perthnasol.  Fe fydd pob swyddog yn ysgwyddo cyfrifoldeb am hyn a hyn o gartrefi.  Weithiau, byddan nhw'n arbenigo ym maes plant neu oedolion, yn ôl trefn yr awdurdod lle maen nhw'n gweithio.

Amgylchiadau'r gwaith
Adeilad y cyngor yw canolfan y swyddogion, ond maen nhw'n treulio llawer o amser y tu allan iddo gan ymweld â'r amryw sefydliadau maen nhw'n gyfrifol drostyn nhw.  Ar ben hynny, byddan nhw'n cwrdd â chydweithwyr a phroffesiynolion eraill i drafod achosion penodol a phenderfynu ar y camau sydd i'w cymryd.  37 awr yw'r wythnos safonol er y bydd modd rhannu swydd a gweithio yn ôl oriau hyblyg fel arfer.

Gweithgareddau beunyddiol
Mae swyddogion cofrestru ac arolygu'n ymwneud â phob agwedd ar weithdrefnau cofrestru ac arolygu cartrefi gan ofalu bod y gwasanaethau'n cydymffurfio â phob safon briodol.  Dyma'r hyn maen nhw'n debygol o'i wneud:

  • gweithio mewn tîm cofrestru ac arolygu i lunio a chynnal rhaglen arolygu;
  • ymweld â chartrefi a chloriannu eu llwyddiant yn ôl meini prawf perthnasol;
  • ymgynghori â phroffesiynolion eraill ynglŷn ag unrhyw gamau priodol pe na bai sefydliad yn cadw at y safonau;
  • llunio adroddiadau a threfnu arolygiadau dilynol i ofalu bod newidiadau wedi'u cyflwyno;
  • archwilio manylion ymgeiswyr sy'n cynnig sefydlu cartref neu ryw wasanaeth perthnasol arall;
  • cydweithio â nhw i ofalu bod eu hadran yn fodlon bod y rheolwyr yn deall yr hyn mae disgwyl iddyn nhw ei gyflawni ac yn gallu rhoi gofal o safon uchel;
  • gweithio mewn prosiectau penodol yn ôl yr angen - gyda grŵp penodol megis pobl ifanc ac arnyn nhw anawsterau dysgu, er enghraifft;
  • cadw cofnodion a sustemau gwybodaeth megis cronfeydd data cyfrifiadurol - gan ofalu eu bod yn gyfoes ac yn rhoi'r wybodaeth angenrheidiol;
  • llunio adroddiadau a llythyrau am unrhyw faterion ynglŷn â'r gwasanaethau sy'n destun cofrestru ac arolygu - megis adroddiadau am arolygiadau sydd wedi'u cynnal (a fydd ar gael i'r cyhoedd);
  • gofalu bod gwaith yn cael ei gyflawni yn ôl amserlenni penodol;
  • rhoi cofnodion ac ystadegau ar gael i weithwyr eraill y cyngor ac i bobl y tu allan iddo er mwyn eu hasesu i ddibenion diogelu ansawdd a'u defnyddio ar gyfer monitro neu'n fan cychwyn datblygu gwasanaethau;
  • cysylltu a chwrdd â rheolwyr a pherchnogion gwasanaethau, staff byrddau iechyd, staff asiantaethau eraill megis swyddogion iechyd amgylcheddol, gweithwyr eraill y gwasanaethau cymdeithasol a chydweithwyr yn y cyngor megis swyddogion cyfreithiol;
  • paratoi achosion a rhoi tystiolaeth gerbron pwyllgorau, tribiwnlysoedd, ynadon a llysoedd eraill;
  • cydweithio ag asiantaethau addysgu a hyfforddi lleol i baratoi cynlluniau hyfforddi staff a rheolwyr - a chymryd rhan ynddyn nhw;
  • ymchwilio i gwynion am safonau gwasanaethau.

Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai hanfodol:

  • ffordd resymegol a threfnus o weithio;
  • manwl gywirdeb a medrau trefnu da;
  • gallu pwyso a mesur dadl a nodi'r rhinweddau;
  • gallu cyfathrebu'n dda ar lafar ac ar bapur fel ei gilydd;
  • gallu trafod telerau;
  • gallu cyd-dynnu â phobl o bob lliw a llun;
  • gallu gweithio mewn tîm;
  • trwydded yrru.

Meini prawf derbyn
Mae angen diploma neu radd ym maes gwaith cymdeithasol neu bwnc perthnasol arall.  I gwrs o'r fath, bydd angen pum TGAU A*-C neu gymhwyster cyfwerth gan gynnwys y Gymraeg/Saesneg a mathemateg.  Er y bydd pob prifysgol yn derbyn myfyrwyr yn ôl ei hamodau ei hun, gallai tystysgrif y Safon Uwch mewn pynciau megis y gyfraith, cymdeithaseg neu seicoleg fod yn ddefnyddiol.  Gallai fod yn werth astudio pynciau galwedigaethol ar lefel TGAU a'r Safon Uwch fel ei gilydd, hefyd.

Does dim angen cymwysterau academaidd ffurfiol ar ymgeiswyr dros 21 oed, fodd bynnag, er bod rhaid dangos eu bod yn gallu astudio ar lefel uwch trwy ymuno â chwrs mynediad, er enghraifft.  At hynny, bydd angen profiad o waith cymdeithasol cyn hyfforddiant.  Fel arfer, bydd angen rhwng tri a phum mlynedd o brofiad ar ôl ymgymhwyso (yn ôl meini prawf y cyflogwr) ynghyd â phrofiad o ofal a phrosesau cysylltiedig yn ogystal â gwaith yn y llysoedd.  Bydd rhai awdurdodau'n cyflogi pobl oedd yn nyrsys neu'n ymwelwyr iechyd yn swyddogion cofrestru ac arolygu, hefyd.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Gallai fod modd i swyddog gael ei ddyrchafu yn yr adran lle mae'n gweithio.  Ar y llaw arall, gallai fod rhaid symud i awdurdod arall.  Mae rhai swyddogion cofrestru ac arolygu'n gweithio mewn unedau annibynnol trwy gomisiwn awdurdod lleol fydd yn eu talu fesul awr neu sesiwn.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain: www.basw.co.uk
Cyngor Gofal Cymru: www.ccwales.org.uk
Gofal Cymuned: www.communitycare.co.uk
Adran Iechyd San Steffan: www.dh.gov.uk
Cyngor Galwedigaethau Iechyd a Gofal: www.hpc-uk.org
Asiantaeth Cartrefi a Chymunedau: www.homesandcommunities.co.uk
Medrau er Gofal: www.skillsforcare.org.uk
Cymdeithas Gofal Cymdeithasol: www.socialcareassociation.co.uk

Efallai bod rhagor am hyn ar wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), yn llyfrgell eich bro neu yn swyddfa/llyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links