Cyflwyniad
 Mae cludiant yr ysgol yn wasanaeth statudol i blant a chanddyn nhw
hawl, yn ôl y gyfraith, i gael eu cludo rhwng y cartref a'r
ysgol.  Mae gyda nhw'r hawl honno am nad ydyn nhw'n byw yn
agos i ysgol addas neu ysgol y dalgylch neu na allen nhw gael
addysg fel arall o achos anabledd neu anghenion penodol
eraill.  Mewn rhai ardaloedd, adran addysg y cyngor sy'n
trefnu cludiant yr ysgol.  Mewn ardaloedd eraill, uned
gludiant sy'n cynnal y gwasanaeth yn ogystal â gwasanaethau
cludiant eraill y cyngor megis cludiant cyhoeddus, cludiant
gwasanaethau cymdeithasol a chludiant i'r ifainc a
chymunedau.  Fel arfer, cerbydau a gyrwyr preifat sy'n cael eu
defnyddio i gynnal y gwasanaeth, er bod hyn a hyn o fysiau gan rai
cynghorau lleol.  Mae rôl hanfodol i swyddogion cludiant yr
ysgol o ran gofalu bod gwasanaeth cludo plant yr ysgol yn un diogel
ac effeithlon.
Amgylchiadau'r gwaith
 Mae'r swyddogion yn gweithio mewn tîm, gan ganolbwyntio naill ai
ar ddisgyblion ysgolion y brif ffrwd neu'r rhai ac arnyn nhw
anghenion addysgol ychwanegol.  Fel arfer, byddan nhw'n
gweithio mewn swyddfa er y gallai fod angen ymweld â rhai safleoedd
i fonitro gwasanaethau.
Gweithgareddau beunyddiol
 Mae swyddogion cludiant yr ysgol yn cyflawni amrywiaeth helaeth o
ddyletswyddau, gan gynnwys:
- Cynllunio - ar ddechrau pob 'tymor' cludo (Chwefror - Mai),
bydd swyddogion yn astudio gwybodaeth mae'r ysgolion wedi'i
chyflwyno a cheisiadau gan ddisgyblion i ofalu bod gyda nhw hawl i
ddefnyddio'r gwasanaeth.  Erbyn diwedd y broses, fe fyddan
nhw'n gwybod yn fras faint o ddisgyblion sydd i'w cludo fel y
gallan nhw lunio cytundebau ar gyfer yr amryw deithiau a'u rhoi nhw
ar gynnig.  Fe fydd y ceisiadau'n cyrraedd o hyd ym mis
Gorffennaf a mis Awst, a bydd y swyddogion mewn sefyllfa i gau pen
y mwdwl ar fanylion y teithiau erbyn dechrau tymor yr ysgol fis
Medi.  Byddan nhw'n argraffu'r tocynnau i'w rhoi i'r
disgyblion priodol.
 
- Gorchwylion bob dydd - gofalu bod rhwydwaith cludo addas a
dibynadwy yn gweithredu'n ddiogel ac yn effeithlon.  Bydd
swyddogion yn trefnu cludiant ar gyfer ymgeiswyr newydd, plant sydd
wedi symud neu'r rhai mae'u hanghenion wedi newid.  I wneud
hynny, rhaid addasu teithiau cyfredol, sefydlu rhai newydd, trefnu
tocynnau cludiant cyhoeddus neu ganiatáu lwfans petrol yn ôl yr
angen.  At hynny, gallai fod eisiau cael gafael ar gerbydau i
gymryd lle rhai sydd wedi torri i lawr, trin a thrafod sefyllfaoedd
a chwynion ac, ambell waith, ymateb i ddamweiniau - gan ofalu bod
pawb yn ddiogel ac yn bresennol.  Rhaid gwirio cefndir staff
sy'n ymwneud â gwasanaethau cludo plant trwy Swyddfa'r Cofnodion
Troseddol i ofalu eu bod yn addas.  Rhaid gwirio manylion
cerbydau sy'n cael eu defnyddio, megis tystysgrifau addasrwydd i'r
ffordd fawr ac yswiriant, hefyd.
 
- Gwaith maes megis ymweld ag ysgolion a chanolfannau cwmnïau
cludo, teithio mewn bysiau, siarad â rhieni yn ystod nosweithiau
agored yr ysgol a chysylltu ag amryw awdurdodau eraill megis yr
heddlu, y gwasanaethau cymdeithasol a'r GIG.  
 
- Dyletswyddau gweinyddu megis llunio deunydd cyhoeddusrwydd am
gludiant yr ysgol, nodi ffynonellau arian, cynnal ymchwil, cyflwyno
ceisiadau am gymorth ariannol i gyrff allanol a monitro
effeithiolrwydd mentrau newydd.
 
Yn ogystal â'r gorchwylion hynny, bydd swyddogion yn ymdrin â
gohebiaeth trwy'r post ac ebost, yn treulio tipyn o amser ar y ffôn
ac yn mynd i gyfarfodydd yn ôl yr angen.  Byddan nhw'n cwrdd â
phobl o sawl lliw a llun megis plant, rhieni, athrawon, contractwyr
cludiant, gweithwyr cymdeithasol, cynghorwyr a swyddogion cludiant
cynghorau eraill.
Medrau a diddordebau
 Mae eisiau'r canlynol ar swyddogion cludiant yr ysgol:
- medrau cyfathrebu rhagorol ar bapur ac ar lafar fel ei
gilydd;
 
- agwedd agored a darbwyllol ynghyd â'r gallu i siarad â phobl o
sawl cefndir;
 
- aeddfedrwydd, cymhelliant cryf a brwdfrydedd;
 
- medrau trefnu/gweinyddu da a'r gallu i drin a thrafod
cyfrifiaduron.
 
Bydd angen trwydded yrru fel arfer, hefyd.
Meini prawf ymgeisio
 Er nad oes cymwysterau academaidd penodol, mae angen cefndir
addysgol da megis o leiaf pedwar TGAU (A*-C).  Gall ymgeiswyr
ddod o sawl cefndir.  Bydd gan rai radd prifysgol mewn rhyw
bwnc, neu Dystysgrif/Diploma Wladol Uwch.
- I astudio ar gyfer Tystysgrif/Diploma Wladol Uwch, bydd angen
pedwar TGAU (A*-C) ac un Safon Uwch neu gymwysterau cyfwerth, fel
arfer.
 
- I astudio ar gyfer gradd prifysgol, bydd angen pum TGAU (A*-C)
a dwy Safon Uwch neu gymwysterau cyfwerth, fel arfer.
 
- Bydd gan ymgeiswyr eraill gymwysterau/profiad perthnasol ym
meysydd rheoli, gweinyddu a gwaith ysgrifenyddol.
 
- Mae modd i swyddogion astudio ar gyfer Cymhwyster
Galwedigaethol Gwladol megis:
 
- 
- Rheoli, lefelau 3 a 4: trwy Gytundeb Dysgu am Reoli dan ofal
Transfed.
 
- Cymorth Technegol i Gludiant, lefel 3.
 
- Cynllunio ar gyfer Cludiant, lefelau 4 a 5.
 
- Diogelwch y Ffyrdd, lefelau 3 a 4: trwy Sefydliad y Priffyrdd a
Thrafnidiaeth.
 
 
Mae modd astudio ar gyfer gradd yn y lleoedd canlynol
(darllenwch brosbectws pob un i ofalu bod y cwrs yn berthnasol i'r
yrfa a hoffech chi): Prifysgol Aston, Prifysgol John Moores
(Lerpwl), Prifysgol Napier, Prifysgol Fetropolitan Abertawe,
Prifysgol Morgannwg, Prifysgol Loughborough, Prifysgol Aberplym a
Phrifysgol Ulster.
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
 Gallai swyddogion profiadol gael eu dyrchafu'n rheolwyr, symud i
gyngor arall neu ymuno â chwmni preifat (cludiant cyhoeddus neu
ysbytai, er enghraifft).  Ar y llaw arall, gallen nhw
ddefnyddio eu medrau a'u profiad yn adrannau eraill y cyngor megis
addysg, gwasanaethau cymdeithasol, priffyrdd, yr amgylchedd a
chynllunio.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
 Cymdeithas Swyddogion Cydlynu Cludiant (ATCO): www.atco.org.uk
 Sefydliad Breiniol Logisteg a Thrafnidiaeth: www.ciltuk.org.uk
 GoSkills www.goskills.org
 Sefydliad Priffyrdd a Chludiant: www.iht.org
Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y
llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich
ysgol.