Cyflwyniad
Lle bynnag y bo'n bosib, addysgir plant gydag anghenion arbennig
(anabledd dysgu, ymddygiad neu gorfforol) mewn ysgolion prif ffrwd
neu unedau arbennig, yn hytrach na sefydliadau preswyl. Mae'n
ddyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu cludiant i'r plant, ac
mae'n rhaid i'r plant gael eu goruchwylio wrth deithio i'r ysgol.
Mae cynghorau yn cyflogi hebryngyddion i wneud hyn. Mae
hebryngyddion ysgol (neu hebryngyddion cludiant ysgol) yn gweithio
i gynghorau sir, unedol a metropolitan.
Yr Amgylchedd Gweithio
Mae hebryngyddion ysgol yn gyfrifol am blant o'r adeg y maen nhw'n
gadael eu rhieni neu eu gofalwyr - gartref neu fan casglu arall -
hyd at y maen nhw yng ngofal yr ysgol, ac fel arall y ffordd
adref. Mae'r swydd yn un ran-amser (cyn ac ar ôl ysgol).
Efallai y bydd hebryngyddion yn gweithio oddeutu tair neu bedair
awr y dydd, a hynny yn ystod y tymor yn unig. Efallai
eu bod yn gweithio llai na pum niwrnod yr wythnos.
Gweithgareddau Dyddiol
Bydd hebryngyddion ysgol yn dechrau gweithio am 7am, yn dibynnu ar
nifer y plant y mae'n rhaid eu casglu a'r daith i'r ysgol. Ychydig
iawn o awdurdodau sy'n gofyn i hebryngyddion ddefnyddio eu ceir eu
hunain. Fel rheol bydd y plant yn cael eu casglu o'r cartref mewn
bws, bws mini neu dacsi sydd hefyd yn cludo plant eraill i'r ysgol.
Mae hyn yn amrywio yn ôl anghenion y plant. Mae ar rai plant angen
gofal a sylw parhaus yn ystod y daith ac weithiau bydd angen dau
neu fwy o hebryngyddion - pob un yn edrych ar ôl plentyn
gwahanol.
Maen nhw'n helpu'r plant i fynd i mewn i'r cerbyd (efallai y
bydd angen codi a symud yn gorfforol) ac yn sicrhau eu bod yn
eistedd yn ddiogel ac yn gwisgo gwregys diogelwch. Yn ystod y daith
byddan nhw'n siarad gyda'r plant, gan atal unrhyw ymddygiad
aflonyddgar a helpu gydag anghenion corfforol ac ati - efallai bod
plentyn yn sâl, yn anymataliol, yn epileptig ac ati. Efallai y bydd
yn rhaid iddyn nhw rwystro plant yn gorfforol ar rai achlysuron.
Maen nhw'n rhoi gwybod i athro/athrawes neu riant y plentyn am
unrhyw ddigwyddiad ac i oruchwylydd yr hebryngydd cyn gynted â
phosib.
Ar ddiwedd y diwrnod maen nhw'n gyfrifol am drosglwyddo'r plant
yn ôl yn ddiogel i'w rhieni neu ofalwyr. Os yw rhiant neu ofalwr yn
methu cyfarfod â'r plentyn ar ôl ysgol am unrhyw reswm yna fe
ddylai'r hebryngydd eu trosglwyddo i oedolyn cyfrifol arall - neu
aros gyda'r plentyn tan mae rhiant neu ofalydd yn cyrraedd.
Sgiliau a Diddordeb
Fe ddylai hebryngydd ysgol allu meithrin perthynas gyda'r plant -
a bod yn sensitif i'w anghenion arbennig. Gall perthynas yr
hebryngydd a'r plant para am rai blynyddoedd ac mae adrannau addysg
fel rheol yn ceisio sicrhau bod yr un hebryngydd yn hebrwng yr un
plant cyn hired â phosib gan y gall unrhyw newid achosi pryder i'r
plant. Mae'n rhaid hebryngyddion fod:
- yn hyderus;
- yn gallu delio gyda sefyllfaoedd anodd neu annisgwyl;
- yn brydlon, dibynadwy ac yn gallu gweithio heb
oruchwyliaeth;
- yn heini;
- yn gymwys i roi cymorth cyntaf - neu'n barod i ddysgu'r sgiliau
angenrheidiol;
- yn gallu siarad yn glir a chyda sgiliau cyfathrebu da;
- yn gallu cyfathrebu gydag amrywiaeth o bobl - athrawon,
gofalwyr a gyrwyr cludiant ysgol.
Maen nhw hefyd yn derbyn gwybodaeth am y plant ac mae'n rhaid
iddyn nhw gadw cyfrinachedd ar bob achlysur.
Gofynion
Does dim gofynion sylfaenol ond mae'r cyngor fel rheol yn chwilio
am berson sydd â phrofiad blaenorol o ofalu a gweithio gyda phlant.
Mae profiad o weithio gyda phlant ag anghenion arbennig yn ddymunol
ac mae rhai awdurdodau yn ffafrio pobl sydd â phrofiad o nyrsio.
Mae cymwysterau gofal plant yn fanteisiol.
Mae rhai cynghorau yn cynnal prawf seicometreg fel rhan o'u
proses benodi - i sicrhau bod gan ymgeiswyr y rhinweddau personol
cywir. Yn ystod y cyfweliad mae'n bosib y gofynnir i'r ymgeiswyr
sut y byddan nhw'n delio gyda sefyllfaoedd penodol. Gan fod hon yn
swydd sy'n golygu gweithio'n uniongyrchol â phlant mae'n rhaid i'r
hebryngyddion gael gwiriad arbennig i sicrhau nad oes ganddyn nhw
gofnod troseddol (nid yw hyn yn rhwystr i gyflogaeth - y cyngor
sydd â'r hawl i ddewis p'un ai yw ymgeiswyr yn cael ei benodi ai
peidio).
Darperir hyfforddiant. Mae cyflwyniad i'r swydd fel rheol yn
mynd i'r afael â materion fel anghenion arbennig, ymddygiad plant,
cymorth cyntaf a chodi a symud yn gorfforol. Unwaith mae ymgeisydd
wedi ei benodi efallai y bydd gofyn iddo fynychu cyrsiau hyfforddi
a chwblhau NVQ/SVQ perthnasol.
Rhagolygon a Chyfleoedd
Mae'r rhan fwyaf o gynghorau yn cyflogi sawl hebryngydd ysgol.
Mae'r niferoedd yn amrywio yn ôl nifer y plant gydag anghenion
arbennig. Mae yna bosibilrwydd o ddyrchafiad i Oruchwylydd
Hebryngyddion, sy'n gyfrifol am ardal benodol.
Rhagor o Wybodaeth a Gwasanaethau
Cyngor Gofal ac Addysg Plant www.cache.org.uk
Cymdeithas Cenedlaethol Meithrinfeydd Dydd www.ndna.org.uk
Efallai y bydd rhagor o wybodaeth am y maes yma ar gael trwy Gyrfa
Cymru (www.gyrfacymru.com/) neu yn
eich llyfrgell neu'ch swyddfa gyrfaoedd lleol neu'ch ysgol.