Cyflwyniad
Hoffech chi helpu plant 10 oed i lunio mygydau Calan Gaeaf,
dyfarnu gêm bêl-droed gyfeillgar neu oruchwylio 20 o blant ar
wibdaith i amgueddfa leol? Os felly, efallai mai gweithiwr
chwarae yw'r swydd i chi. Mae gweithwyr chwarae'n rheoli
mannau chwarae y tu allan i'r ysgol a chynlluniau chwarae yn ystod
y gwyliau lle caiff plant rhwng 4 a 16 oed ddod i chwarae a
chymysgu gyda phlant a phobl ifanc eraill. Mae cyfleusterau
o'r fath yn cynnig lle diogel i blant cyn yr ysgol ac wedyn ac yn
ystod y gwyliau. Mae gan yr awdurdodau lleol ryw 1,700 o
weithwyr chwarae a threfnwyr cynlluniau chwarae gwyliau'r Pasg a'r
haf.
Amgylchiadau'r gwaith
Fel arfer, mae cynlluniau chwarae'n mynd ymlaen mewn cyfleusterau
chwarae antur, canolfannau chwarae, canolfannau cymunedol, neuaddau
ysgol a neuaddau pentref. Dim ond yn ystod tymhorau'r ysgol y
bydd rhai cynlluniau chwarae ar gael. Ar y llaw arall, dim
ond yn ystod gwyliau'r ysgol y bydd eraill yn gweithredu. Mae
rhai ar gael drwy gydol y flwyddyn. 35-39 awr yw'r wythnos
safonol i staff amser llawn fel arfer, ac mae angen gweithio gyda'r
nos yn aml i gynnal y gwasanaeth ar ôl oriau'r ysgol. Bydd y
gweithle'n un swnllyd a blêr ar adegau - ond, os ydych chi'n hoffi
bod gyda phlant, byddwch chi'n gyfarwydd â hynny. Gallai'r
gwaith fod braidd yn gorfforol - paratoi cyfarpar cyn bod y plant
yn cyrraedd, tacluso popeth ar ôl iddyn nhw adael ac, wrth gwrs,
cadw i fyny gyda nhw!
Gweithgareddau beunyddiol
Mae'r dyletswyddau'n amrywio ychydig yn ôl y math o brosiectau,
pryd a ble maen nhw'n mynd ymlaen ac oedrannau'r plant sydd
yno. Fel arfer, fodd bynnag, fe fydd gwaith o'r fath yn
ymwneud â:
- siarad â'r plant ynglŷn â sut yr hoffen nhw dreulio eu
hamser;
- llunio rhaglen symbylol o weithgareddau i'r plant;
- croesawu'r plant a'u rhieni;
- pennu rheolau sylfaenol a gofalu bod y plant yn gwybod amdanyn
nhw;
- paratoi'r lle cyn bod y plant yn cyrraedd - rhoi deunyddiau
megis papur a phaentiau ar gael a gofalu bod cyfarpar chwarae mewn
cyflwr da a diogel;
- dyfeisio syniadau ar gyfer achlysuron megis y Pasg neu Galan
Gaeaf - er enghraifft, addurno wyau neu drefnu parti gwisg
ffansi;
- trefnu gweithgareddau celfyddydau/crefftau/adrodd straeon,
gêmau timau, cystadlaethau, cerddoriaeth, gweithgareddau awyr
agored a gwibdeithiau a chymryd rhan ynddyn nhw;
- annog y plant i gymryd rhan yn y gweithgareddau;
- goruchwylio'r chwarae a hwyluso diogelwch a lles y plant;
- peth glanhau a thacluso ar ôl y gweithgareddau;
- cyflawni gorchwylion syml cymorth cyntaf lle bo angen;
- goruchwylio gweithwyr llai profiadol;
- gorchwylion sylfaenol ynglŷn â gweinyddu a rheoli arian
mân.
Medrau a diddordebau
Mae angen y canlynol:
- hoffi gweithio gyda phlant;
- llawer o egni a brwdfrydedd;
- amynedd a natur thringar;
- medrau trefnu da;
- llawer o ddychymyg;
- natur wyliadwrus;
- medrau cyfathrebu da;
- gweithio'n dda mewn tîm.
Meini prawf derbyn
Does dim angen cymwysterau academaidd o raid, er y gallai peth
profiad perthnasol megis gwaith gwirfoddol gyda phlant neu fagu
teulu fod yn fanteisiol neu'n ofynnol. Mae rhai cyflogwyr yn
mynnu cymwysterau gwaith chwarae megis Tystysgrif/Diploma CACHE,
Tystysgrif Lefel 2 'Gofal ac Addysg y Blynyddoedd Cynnar' Sefydliad
y Ddinas a'r Urddau neu Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol
(Lefel 2/3) ym maes gwaith chwarae, gofal ac addysg y blynyddoedd
cynnar neu addysg a gwaith chwarae. Mae prentisiaethau ar
gael mewn rhai ardaloedd. Unwaith eich bod mewn swydd,
efallai y bydd gofyn ichi astudio ar gyfer Cymhwyster
Galwedigaethol Cenedlaethol ym maes gwaith chwarae (lefelau 2 a 3)
neu waith chwarae a gofal a datblygu'r blynyddoedd cynnar (lefel
4). Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (Lefel 3/4)
'Gofal/Addysg y Blynyddoedd Cynnar' fyddai'n briodol i'r rhai sy'n
gyfrifol am reoli tîm.
Ymhlith y cymwysterau uwch mae Diploma Addysg Uwch (DipHE)
'Gwaith Chwarae' (cwrs amser llawn dwy flynedd) a BA (Anrh.)
'Astudiaethau Proffesiynol ym maes Gwaith Chwarae'. Mae
bwriad i bennu llwybr ymgymhwyso sy'n cydnabod profiad a dysg, ac
mae cymhwyster i weithwyr cynlluniau chwarae yn ystod gwyliau'r
ysgol ar y gweill, hefyd.
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Gall gweithwyr chwarae gael eu dyrchafu'n oruchwylwyr neu'n
rheolwyr yn ogystal â symud i rolau megis gweithiwr datblygu
chwarae, hyfforddiant chwarae a thriniaeth chwarae. Fe fyddai
profiad o'r fath yn ddefnyddiol i'r rhai a hoffai symud i feysydd
tebyg megis addysg y blynyddoedd cynnar, gofal plant, cynorthwywr
dysgu a gwaith ieuenctid, fodd bynnag. Mae modd mynd yn athro
trwy radd sylfaen, hefyd. Ar ben hynny, mae cyfleoedd i
weithwyr chwarae mewn mudiadau gwirfoddol ac ysbytai.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
SkillsActive: www.skillsactive.com
Cyngor Cymwysterau Gofal ac Addysg Plant: www.cache.org.uk
Chwarae Cymru: www.playwales.org.uk
Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y
llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd
eich ysgol.