Cyflwyniad
Mae cynorthwywyr dysgu yn gweithio yn yr ysgol gyda'r athrawon i
helpu i gynnig profiadau dysgu perthnasol i blant. Mae
amrywiaeth helaeth o enwau ar led megis cynorthwywr ystafell
ddosbarth, cynorthwywr cyffredinol, cynorthwywr cynnal dysgu ac, yn
yr Alban, mae nhw'n defnyddio'r gair 'ychwanegol' ar gyfer y staff
sy'n helpu plant ac arnyn nhw anghenion addysgol arbennig.
Mae cynorthwywyr dysgu yn gweithio i'r awdurdodau sy'n gyfrifol
am wasanaethau addysg - cynghorau sirol, awdurdodau unedol,
cynghorau dosbarth prifddinasol, bwrdeistrefi Llundain a byrddau
addysg a llyfrgelloedd Gogledd Iwerddon. Mewn gwirionedd, yr
ysgolion sy'n eu cyflogi gan amlaf. Mae amcangyfrif bod
60,000 o gynorthwywr ledled y deyrnas ac mae disgwyl y bydd y nifer
hwnnw'n cynyddu yn Lloegr a'r Alban o ganlyniad i bolisïau
llywodraethau'r gwledydd hynny.
Amgylchiadau'r gwaith
Beth bynnag fo'r enw ar eu swydd, mae cynorthwywyr dysgu yn
gweithio mewn ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig. Mewn
ysgolion cynradd ac arbennig, fe allen nhw fod yn bennaf cyfrifol
am helpu un plentyn neu gylch bychan o blant ac arnyn nhw anghenion
arbennig. Ar y llaw arall, mae modd neilltuo cynorthwywr i
ddosbarth penodol. Yn yr ysgolion cynradd, maen nhw'n fwy
tebygol o weithio gyda phlentyn ar draws pob rhan o'r
cwrícwlwm. Mae rhai cynghorau gwledig yn penodi staff i
gronfa ganolog ac yn eu hanfon i wahanol ysgolion yn ôl yr
angen.
Gweithgareddau beunyddiol
Hanfod y swydd yw helpu athrawon a disgyblion. Ymhlith y
gweithgareddau, bydd goruchwylio cylchoedd bychain o blant sydd
wrthi'n dysgu, helpu plant unigol i orffen gorchwylion dysgu,
cyflawni dyletswyddau gweinyddu'r ystafell ddosbarth, helpu i roi
trefn ar ymddygiad y disgyblion yn yr ysgol ac ymateb i ddamweiniau
mân. Gall dyletswyddau eraill gynnwys cysylltu â rhieni a
phroffesiynolion eraill, helpu pobl i ddefnyddio cyfrifiaduron yn
yr ysgol, gwylio a chofnodi cynnydd disgyblion, gwrando ar blant
sy'n darllen, helpu disgyblion i drin a thrafod meysydd penodol o'r
cwrícwlwm a goruchwylio disgyblion yn ystod amser
chwarae/cinio.
Medrau a diddordebau
Yn anad dim, rhaid i gynorthwywyr dysgu allu trin a thrafod pobl
er mwyn meithrin a chynnal perthynas dda â phlant ac oedolion fel
ei gilydd, gan gynnwys parchu plant a'u teuluoedd beth bynnag fo'u
cefndir diwylliannol. Dau rinwedd bwysig arall yw diddordeb
mewn dysgu ac agwedd hyblyg a chreadigol.
Meini prawf ymgeisio
Mae amryw gymwysterau'n berthnasol i waith cynorthwywyr dysgu ar
hyn o bryd, yn arbennig y rhai sy'n ymwneud â phlant bach.
Mewn cyfweliadau, fodd bynnag, mae tuedd i ystyried rhinweddau
personol, profiad perthnasol a'r gallu i feithrin y medrau priodol
yn bwysicach nag unrhyw gymwysterau. Mae gan sawl
awdurdod amryw raglenni hyfforddi mewnol ac mae nifer o'r rheiny
wedi'u hachredu'n allanol. Yr ysgol lle mae'r cynorthwywr yn
gweithio fydd yn penderfynu pa raglenni y dylai gymryd rhan ynddyn
nhw, fel arfer.
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Gyda'r hyfforddi a'r datblygu priodol, mae modd cael eich
dyrchafu'n gynorthwywr dysgu lefel uwch neu, mewn rhai achosion,
mynd yn athro trwy ddilyn cwrs hyfforddi athrawon. Gallai fod
yn bosibl symud i feysydd eraill o'r gwasanaethau i blant megis
gofal plant, hefyd. Mae Asiantaeth Hyfforddi a Datblygu'r
Ysgolion wedi cyhoeddi fframwaith datblygu gyrfaoedd ar gyfer staff
cymorth yr ysgolion er mwyn amlinellu rolau, cymwysterau a
hyfforddiant perthnasol. Mae rhagor o wybodaeth ar wefan yr
asiantaeth
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Gwybodaeth am gynorthwywyr dysgu lefel uwch - Dogfen safonau
arwain ar wefan Llywodraeth Cymru.
Swyddi addysg: www.eteach.com
Gwybodaeth Direct Gov am nyrsys meithrin:
www.nationalcareersservice.direct.gov.uk/advice/planning/jobprofiles/Pages/nurserynurse.aspx
Nyrsys meithrin: www.nurserynurses.co.uk
Cynorthwywr ystafell ddosbarth: www.classroom-assistant.net
Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y
llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich
ysgol.