Swyddog amwynderau'r ardal

Cyflwyniad
Mae'r awdurdodau lleol yn rheoli amryw fathau o fannau hamdden sydd ar gael i bobl y gymuned megis parciau, gerddi, meysydd chwarae a chyrsiau golff.  Mae swyddogion amwynderau'r ardal yn gweithio ym mharciau a mannau agored y cyngor i helpu i'w cynnal a'u cadw.

Amgylchiadau'r gwaith
Fydd swyddogion amwynderau'r ardal ddim yn treulio cymaint o amser yn yr awyr agored ag y gallai enw'r swydd awgrymu.  Er y byddan nhw'n mynd allan yn aml i ymweld ag amwynderau a'u harchwilio nhw, maen nhw'n treulio llawer o amser yn swyddfeydd y cyngor neu mewn cyfarfodydd.

Gweithgareddau beunyddiol
Yn aml, bydd swyddogion amwynderau'n ymwneud â monitro a goruchwylio gwaith cynnal a chadw gan gontractwyr mewn parciau a mannau agored, gan gynnwys: 

  • gofalu bod y cyngor yn cael gwerth ei arian trwy'r cytundebau;
  • gofalu bod contractwyr yn gweithio yn ôl y safonau perthnasol;
  • ymweld â safleoedd i ofalu bod contractwyr yn cyflawni'r gwaith yn briodol â'r cyfarpar cywir ac yn ôl yr amserlen y cytunodd pawb arni;
  • dirwyo contractwyr am fethu â chyflawni gwaith yn briodol;
  • trin a thrafod anfonebau contractwyr a rhoi caniatâd i'w talu.

Ar ben hynny, maen nhw'n gyfrifol am ofalu bod pawb yn cadw at reolau iechyd a diogelwch mewn parciau a mannau agored ac nad oes peryglon i'r cyhoedd yno.  Fe fydd rhai gorchwylion arferol megis gofalu bod arwyddion i rybuddio pobl am ddŵr dwfn a bod coed peryglus yn cael eu torri neu eu tynnu.  Gall sefyllfaoedd eraill godi yn achos argyfwng.  Ar ôl storm, er enghraifft, gallen nhw gael gwybod bod coed wedi cwympo neu fod llifogydd.  Mae rhan arall o'r gwaith yn ymwneud â chynnal ymchwil i weld a oes modd gwella cyfleusterau a pha welliannau hoffai trigolion y fro.  Gallen nhw gynnal arolygon o nifer a natur defnyddwyr, cyhoeddi holiaduron neu fynd i gyfarfodydd cymdeithasau preswylwyr lleol.  O ganlyniad, gallen nhw argymell newid trefn rhai rhannau o barc, adleoli rhai atyniadau, cyflwyno mannau gwerthu bwyd a diodydd neu ychwanegu mannau chwarae i blant.  Ar y llaw arall, gallen nhw argymell troi rhai parciau'n warchodfeydd natur gyda llwybrau cerdded, neu addurno parciau trwy blannu blodau a gosod seddau.  Gallen nhw benderfynu cyflwyno rhaglenni cynnal a chadw i weithwyr gwirfoddol, hefyd.

Medrau a diddordebau
Mae angen y canlynol:

  • medrau cyfathrebu da;
  • gallu ysgrifennu adroddiadau cryno;
  • cydweithio'n dda â staff o wahanol adrannau;
  • trafod telerau'n dda;
  • rhifedd a'r gallu i reoli cyllidebau.

Meini prawf ymgeisio
Gall y gofynion amrywio yn ôl y cyngor - gallai rhai ofyn am radd neu ddiploma perthnasol mewn meysydd megis rheoli cyfleusterau hamdden, garddwriaeth, rheoli tirweddau ac astudiaethau busnes.  Gallai eraill fynnu Safon Uwch, addysg uwch neu gymwysterau cyfwerth.

Gallai profiad perthnasol fod cyn bwysiced â chymwysterau ar gyfer rhai rolau.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Gallai cyngor bychan gyflogi dau swyddog amwynderau a rheolwr.  Mewn cyngor mawr, gallai fod nifer o reolwyr sy'n gyfrifol am eu hardaloedd eu hunain gyda thri neu bedwar swyddog ym mhob un.

Mae modd cael eich dyrchafu'n uwch reolwr ac, wedyn, yn gyfarwyddwr hamdden a gwasanaethau cymunedol neu'n gyfarwyddwr dros y celfyddydau, treftadaeth a hamdden (gall y teitlau amrywio o'r naill gyngor i'r llall).

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Sefydliad Breiniol Rheoli Chwaraeon a Gweithgareddau Corfforol: www.cimspa.co.uk
Lantra: www.lantra.co.uk

Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich ysgol.

Related Links