Cyflwyniad
Amgylchedd diogel yw amgylchedd glân. Does neb yn hoffi
gweld cŵn peryglus na baw ci mewn mannau cyhoeddus, na llygod na
morgrug yn y tŷ neu'r gweithle. Cyfrifoldeb gwasanaethau
rheoli'r amgylchedd a llygredd yw problemau felly, a bydd
cynorthwywyr technegol, wardeniaid cŵn a swyddogion rheoli pla'n
helpu i'w datrys. Mae ganddynt ddyletswyddau amgylcheddol
cyffredinol hefyd. Mae cyfle yma i ennill profiad mewn sawl
maes a fydd o fantais wrth ymgeisio am swyddi eraill.
Amgylchedd Gwaith
Gwaith swyddfa a gwaith yn yr awyr agored yw hwn. Bydd yn
rhaid teithio i gytiau cŵn a llawer o safleoedd eraill fel
ffermydd, siopau anifeiliaid a thai preifat, lle y mae pla i'w
gael. Mae'r amgylchiadau'n aml yn annifyr, a bydd dillad
gwarchod ar eich cyfer, gan gynnwys esgidiau diogelwch. Bydd
cynorthwywyr technegol yn cludo cyfarpar fel polion cydio a
thenynnau gyda hwy. Byddant yn gweithio am 37 awr yr wythnos
ac ar ambell i benwythnos, ac yn y nos o bryd i'w gilydd.
Gweithgareddau Dyddiol
Cŵn
Bydd cynorthwywyr technegol yn cydweithio'n ddyddiol â wardeniaid
cŵn, yn cymryd eu lle pan fyddant yn absennol ac yn rhannu eu baich
gwaith drwy ymdrin ag ambell i achos. Gorfodi deddfwriaeth ar
gyfer gwarchod yr amgylchedd a chymell perchnogion cŵn i fod yn fwy
cyfrifol yw eu prif ddyletswyddau. Mae hyn yn golygu ymateb i
gwynion (gan gynnwys cwynion am gŵn swnllyd), sicrhau bod
perchnogion cŵn yn ymwybodol o'u dyletswyddau o dan y gyfraith ac
ymweld â chartrefi pobl, siopau anifeiliaid, sefydliadau gwarchod
cŵn dros dro a chanolfannau achub.
Byddant weithiau'n helpu perchnogion drwy redeg ymgyrchoedd
ysbaddu cŵn (fel na fo cymaint o gŵn yn crwydro'r strydoedd), a
rhoi tocynnau arian i bobl ar incwm isel, er mwyn iddynt gael mynd
â'u hanifeiliaid at y milfeddyg. Byddant hyd yn oed yn trefnu
i'r cyngor gludo'r bobl hynny ar adegau. Ambell waith, bydd
gofyn hefyd iddynt gymryd rhan yn y broses
gwarantin.
Wrth orfodi Deddf Cŵn (Baeddu Tir) 1996, bydd cynorthwywyr
technegol yn helpu i gylchwylio mannau fel lonydd cefn, parciau,
meysydd chwarae a'r tir o amgylch ysgolion, lle y mae problem
gydnabyddedig. Byddant hefyd yn helpu gyda digwyddiadau fel
rasys mulod, Wythnos Genedlaethol Anifeiliaid Anwes, Wythnos y Rhaw
Faw ac ati, sy'n tynnu sylw at wasanaeth y warden cŵn a'r
cyfrifoldeb sydd ganddo am les anifeiliaid eraill a'u heffaith ar
yr amgylchedd.
Rheoli Pla
Weithiau, bydd angen mwy nag un swyddog rheoli pla ar gyfer trin
problem, e.e. pan fydd pla difrifol o siobynnau cynffon frown neu
pan fydd llygod mawr yn dod i adeiladau cyhoeddus neu dai preifat
yn sgîl llifogydd mawr. Caiff cynorthwywyr technegol hefyd
ymweld â safleoedd eu hunain - e.e. cytiau cŵn swnllyd, tai preifat
lle y mae ystlumod neu adar yn achosi problemau ac ati.
Rheoli'r amgylchedd a llygredd. Bydd cynorthwywyr technegol
yn ymwneud â llawer o faterion amgylcheddol eraill yn ogystal, gan
ennill profiad eang yn sgîl hynny. Byddant, er enghraifft
yn:
- archwilio draeniau diffygiol, asesu lefel nitrogen deuocsid yn
yr awyr a thrafod tomennydd ysbwriel a choelcerthi sy'n amharu ar y
cyhoedd;
- helpu gydag ymgyrchoedd fel Diwrnod o Hwyl Werdd i'r Teulu a
seminarau a chyrsiau iechyd amgylcheddol drwy osod arddangosfeydd a
dosbarthu taflenni.
Yn ystod eu gwaith, byddant yn cysylltu â swyddogion a
wardeniaid iechyd amgylcheddol, archwilwyr iechyd anifeiliaid,
swyddogion lles anifeiliaid, staff eraill y cyngor ac aelodau o'r
cyhoedd.
Mae gwaith gweinyddol cynorthwywyr technegol yn cynnwys:
drafftio llythyrau, ysgrifennu adroddiadau syml, llenwi ffurflenni
i'w cynnwys gyda samplau a fydd yn cael eu dadansoddi mewn labordai
a chofnodi manylion am y camau sydd i'w cymryd er mwyn gwella
system gyfrifiadurol y cyngor.
Sgiliau a Diddordebau
Er mwyn dod i ben â'r swydd dra amrywiol hon, bydd angen y
nodweddion canlynol arnoch:
- diddordeb yn yr amgylchedd;
- gallu i gydymdeimlo ag anifeiliaid (er nad ar draul pobl);
- meddwl ymarferol;
- gallu i gyd-dynnu'n dda â phobl o wahanol gefndir;
- gallu i drafod sefyllfa ymosodol mewn ffordd gadarn a
theg.
Gofynion Derbyn
Er na fydd angen unrhyw gymwysterau ffurfiol arnoch, bydd disgwyl
i chi allu ysgrifennu a chyfathrebu'n dda a dylai fod gennych
rywfaint o brofiad hefyd o drin materion amgylcheddol a gweithio
gydag anifeiliaid - fel gwirfoddolwr efallai. Fel arfer, bydd
cyfle i astudio ar gyfer cymwysterau amgylcheddol.
Rhagolygon a Chyfleoedd
Bydd llawer o gyfle i chi godi i swydd uwch drwy ddilyn
hyfforddiant ac ennill cymwysterau a phrofiad ym maes iechyd
amgylcheddol. Warden Cŵn, Swyddog Rheoli Pla, Arolygwr Iechyd
Anifeiliaid yw rhai o'r swyddi y gellwch anelu atynt. Oherwydd
natur y swydd, y mae sawl swydd arall ym maes gwasanaethau
amgylcheddol a fyddai o fewn eich cyrraedd.
Rhagor o Wybodaeth a Gwasanaethau
Cymdeithas Genedlaethol Technegwyr Pla www.npta.org.uk
Cymdeithas Genedlaethol Wardeniaid Cŵn www.ndwa.co.uk
Cymdeithas Rheoli Pla Prydain www.bpca.org.uk
Sefydliad Siartredig Iechyd Amgylcheddol www.ehcareers.org/default.aspx
Cewch ragor o wybodaeth am y maes hwn drwy gysylltu â Gyrfa
Cymru (www.careerswales.com/),
eich llyfrgell leol, eich swyddfa yrfaoedd a llyfrgell yrfaoedd
eich ysgol.