Cynorthwy-ydd technegol, iechyd amgylcheddol

Cyflwyniad
Bydd swyddogion iechyd amgylcheddol yn archwilio safleoedd er mwyn sicrhau bod mannau byw pobl yn ddiogel ac yn lân, a safonau iechyd yn cael eu cynnal. Mae graddau a chymwysterau proffesiynol gan swyddogion iechyd amgylcheddol. Byddant yn cael eu cefnogi yn eu gwaith gan gynorthwywyr technegol.  Bydd cynorthwywyr technegol yn gweithio i gynghorau dosbarth/bwrdeistref ac unedol a chynghorau prifddinasoedd.  Bydd eu dyletswyddau fel arfer yn newid o gyngor i gyngor.  Ni fydd cynorthwywyr technegol o gwbl mewn rhai cynghorau ac o dan amgylchiadau felly swyddogion technegol neu orfodi sy'n gwneud y gwaith.

Amgylchedd Gwaith
Mae cynorthwywyr technegol wedi'u lleoli mewn swyddfeydd yn yr adran iechyd amgylcheddol.  Serch hynny, byddant yn treulio cyfran helaeth o'u hamser ar ymweliadau.  Bydd yn rhaid iddynt weithiau ymweld â mannau annifyr a mannau a allai fod yn beryglus.  Pan fo angen, byddant yn gwisgo mygydau a dillad ac esgidiau gwarchod.  Byddant fel arfer yn gweithio am 37 awr yr wythnos, ac o bryd i'w gilydd, bydd disgwyl iddynt gynnal ymweliadau ben bore ac ar y penwythnos. 

Gweithgareddau Dyddiol
Bydd cynorthwywyr technegol yn gweithio mewn un neu ragor o'r meysydd hyn: arolygon hylendid bwyd; arolygon iechyd a diogelwch; arolygon grantiau tai; arolygon trwyddedu; gwaith archwilio cwynion a'r drefn orfodi.  Er bod ganddynt hawl i drafod gwaith achos lle nad oes llawer o berygl, ni chaniateir iddynt gymryd camau gorfodi eu hunain nac ysgogi achosion cyfreithiol.  Serch hynny, byddant weithiau'n gweithredu fel 'tystion ffeithiau' mewn achosion llys pan fydd y cyngor yn erlyn aelod o'r cyhoedd.  Bydd cynorthwywyr technegol sy'n archwilio hylendid bwyd neu iechyd a diogelwch, weithiau'n 'gweithio yn y maes' mewn ardal ddaearyddol neu grŵp o adeiladau penodol.  Rhennir adeiladau i wahanol gategorïau yn ôl perygl.  Y cynorthwywyr technegol fydd yn archwilio'r adeiladau lle nad oes llawer o berygl - siopau cornel lle nad oes bwyd sydd heb ei orchuddio, er enghraifft - tra bod swyddogion iechyd amgylcheddol yn ymweld â phoptai a ffatrïoedd lle mae bwyd yn cael ei brosesu.  Byddant yn cyflwyno adroddiadau ac argymhellion i'w swyddog iechyd amgylcheddol neu arweinydd tîm wedyn, a fydd o bosibl yn cymryd camau pellach.

Bydd cynorthwywyr technegol hefyd yn ymweld â siopau anifeiliaid, mannau gwarchod anifeiliaid dros dro a mannau adloniant cyhoeddus pan fydd arnynt angen adnewyddu eu trwyddedau blynyddol.  Pan fydd unrhyw broblemau iechyd a diogelwch amlwg - gwifrau trydan ar hyd y llawr, er enghraifft - neu lefel sŵn annerbyniol mewn disgo - byddant yn rhoi gwybod ar unwaith i'w harweinydd tîm.

Caiff perchnogion tai ymgeisio i'r cyngor am grantiau ar gyfer adnewyddu neu drwsio eu heiddo.  Bydd cynorthwywyr technegol sy'n arbenigo mewn gwaith grantiau tai'n darllen y ffurflenni cais hyn ac yn mynd ati i asesu'r eiddo dan sylw.  Os ydynt o'r farn y dylid gwneud y gwaith, byddant yn gofyn am fanylion incwm yr ymgeiswyr am fod grantiau'n cael eu seilio ar brawf moddion.  Byddant yn bwrw golwg dros yr holl waith papur wedyn ac efallai'n argymell cymeradwyo'r grant.  Bydd y cynorthwywyr technegol yn hysbysu'r perchennog o'r swm sy'n cael ei gynnig ac yn gofyn am amcangyfrif o gost y gwaith.  Caiff yr holl fanylion ariannol eu cymeradwyo gan uwch reolwr wedyn.  Yn olaf, bydd y cynorthwyydd technegol yn sicrhau bod y gwaith wedi'i wneud yn gywir.  Dyma un adeg yn ystod archwiliad iechyd amgylcheddol y bydd perchennog yn falch o gael clywed nad yw ei eiddo wedi cyrraedd y safon!

Sgiliau a Diddordebau
Mae'n rhaid i gynorthwywyr technegol:

  • fod yn ofalus ac yn drefnus;
  • allu cofnodi manylion yn fanwl gywir;
  • allu ysgrifennu adroddiadau eglur;
  • allu cyfathrebu'n rhagorol;
  • allu cyd-dynnu â phobl o bob cefndir;
  • fod yn ddigyffro ac yn foneddigaidd bob amser - gall perchennog weithiau fod yn ymosodol pan fydd rhywun yn ymweld â'i eiddo; 
  • fod yn ddyfal ac yn hyderus.

Bydd angen gwybodaeth wyddonol a thechnegol arnynt yn ogystal â dealltwriaeth o hylendid bwyd a rheolau iechyd a diogelwch hefyd pan fo hynny'n berthnasol.

Gofynion derbyn
Mae'r rheiny'n amrywio; gallai cynghorau ofyn am amryw o gymwysterau TGAU/Graddau Safonol neu Safonau Uwch/Raddau Uwch.  Weithiau bydd yn well ganddynt petai gan ymgeiswyr hefyd rywfaint o brofiad a chymwysterau addas fel Tystysgrif Archwilio Safleoedd Bwyd, Tystysgrif Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith neu Ddiploma mewn Materion Defnyddwyr.

Rhagolygon a Chyfleoedd
Cewch ddilyn hyfforddiant er mwyn ymgymhwyso fel swyddog iechyd amgylcheddol.   Weithiau, bydd cynghorau'n noddi rhai sy'n ymgymhwyso ar gyfer dilyn cwrs gradd mewn Iechyd Amgylcheddol.  (Fel arfer, bydd angen safonau Uwch yn y Gwyddorau neu gymwysterau cyfatebol arnoch, ond bydd rhai prifysgolion yn derbyn ymgeiswyr profiadol heb gymwysterau safonol).  Cewch hefyd wneud cwrs gradd rhan-amser dros gyfnod o bump neu chwe blynedd.

Rhagor o Wybodaeth a Gwasanaethau
Sefydliad Siartredig Iechyd Amgylcheddol www.ehcareers.org/default.aspx

Cewch ragor o wybodaeth am y math hwn o waith drwy gysylltu â Gyrfa Cymru (www.careerswales.com/), eich gwasanaeth lleol, eich swyddfa yrfaoedd neu lyfrgell yrfaoedd eich ysgol.

Mae Gyrfa Cymru wedi cynhyrchu Sbotolau erthygl ar yrfaoedd mewn STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg): https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-stem/

Related Links