Cyflwyniad
Mae gwasanaethau seicoleg addysgol y cynghorau lleol yn hybu dysg,
cyrhaeddiad a datblygiad teimladol iach plant a phobl ifanc hyd 19
oed trwy ddefnyddio seicoleg. Mae seicolegwyr addysgol yn
cynnig asesiadau, cynghorion a chymorth i rieni, pobl ifanc ac
athrawon pan fo pryder am y modd mae plant a phobl ifanc yn
datblygu, yn dysgu neu'n ymddwyn. Fel arfer, mae gan bob
seicolegydd addysgol gyfrifoldeb am roi cymorth i nifer o wahanol
ysgolion mewn ardal. Mae seicolegwyr ym mhob math o
awdurdodau ar wahân i gynghorau dosbarth.
Amgylchiadau'r gwaith
Mae seicolegwyr addysgol yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser nhw
mewn ysgolion a sefydliadau addysgol eraill. Rhaid treulio
peth amser yn swyddfeydd y cyngor, hefyd. 37 awr yw'r wythnos
safonol er y gallai fod angen gweithio gyda'r nos a thros y
Sul.
Gweithgareddau beunyddiol
Mae seicolegwyr addysgol yn gweithio mewn meithrinfeydd, ysgolion,
colegau ac unedau addysg arbennig gyda phlant a'u teuluoedd,
athrawon, amryw swyddogion yr awdurdodau lleol ac asiantaethau
eraill. Eu nod yw gwella dysg plant - gan alluogi'r athrawon
i ddeall problemau teimladol y plant a rhoi unrhyw gymorth
ychwanegol y gallai fod ei angen arnyn nhw. Rhaid trin a
thrafod sawl mater yn y gwaith. Mae ar rai plant anawsterau
dysgu darllen ac ysgrifennu ac mae gan blant eraill broblemau
cymdeithasol a theimladol sy'n effeithio ar eu hymddygiad yn yr
ystafell ddosbarth, Mae gan eraill anableddau dysgu penodol
megis dyslecsia, hefyd. Weithiau, fe fydd seicolegwyr
addysgol yn ymwneud â phlant dawnus iawn sy'n ei chael hi'n anodd
ymdopi â disgwyliadau eu rhieni neu eu hathrawon. Bydd
seicolegydd addysgol yn edrych ar anghenion disgybl yn yr ysgol ac
yn y cartref fel ei gilydd. Wrth asesu ym maes seicoleg
addysgol, gall fod angen gweithio'n uniongyrchol gyda'r plant
a/neu'n anuniongyrchol gyda'r athrawon a'r rhieni.
Mae gwaith uniongyrchol yn ymwneud â:
- gwylio ymddygiad plentyn yn yr ysgol - wrth astudio a chwarae
fel ei gilydd;
- siarad yn uniongyrchol â'r plentyn;
- profi plentyn i asesu ei fedrau a'i ddatblygiad deallusol.
Mae gwaith anuniongyrchol yn ymwneud â:
- trafod lles y plentyn gyda'r rhieni, yr athrawon a phobl eraill
sy'n ei adnabod;
- adolygu gwaith mae'r plentyn wedi'i wneud yn yr ysgol;
- ymgynghori ag arbenigwyr eraill megis gweithwyr cymdeithasol a
meddygon.
Ar ôl asesu'r plentyn, rhaid argymell camau megis:
- cwnsela neu sesiynau therapi teuluol;
- llunio rhaglenni dysgu ar y cyd ag athrawon;
- hyfforddi athrawon ynglŷn â thrin a thrafod problemau
ymddygiadol.
Mae rôl hanfodol i seicolegwyr addysgol ynglŷn â llunio polisïau
addysg y cynghorau lleol hefyd, ac maen nhw'n ymwneud â'u hadolygu,
eu hysgrifennu a'u cyflwyno. At hynny, maen nhw'n ymwneud yn
aml â gweithgorau amlasiantaethol i lunio polisïau a chynnal
ymchwil strategol a gweithgareddau cynllunio lleol a gwladol fel ei
gilydd.
Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai hanfodol:
- medrau rhagorol o ran cyfathrebu a thrin a thrafod pobl fel y
gallwch chi feithrin perthynas â phlant, rhieni ac athrawon;
- awydd i helpu pobl ifanc i ddatrys anawsterau dysgu ac
ymddwyn;
- gallu datrys problemau;
- agwedd dringar ac amynedd;
- gallu ysgrifennu adroddiadau a threfnu gwaith;
- gallu ymaddasu yn ôl gorchwylion cyfnewidiol;
- medrau ardderchog o ran ymchwil a datblygu;
- gwybod yr ymchwil, y dystiolaeth, y damcaniaethau a'r arferion
diweddaraf.
Meini prawf derbyn
Mae angen gradd ym maes seicoleg (i fod yn aelod o Gymdeithas
Seicoleg Prydain) yn ogystal â phrofiad o weithio gyda phlant mewn
cyfleusterau addysg, gofal plant neu gymunedol. Ar ben hynny,
mae angen tair blynedd o hyfforddiant meddygol ym maes seicoleg
addysg (cyfuniad o astudio mewn prifysgol a gweithio mewn
cyngor).
Dyma'r sefydliadau sy'n cynnig doethuriaeth seicoleg addysg yng
Nghymru a Lloegr:
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Mae llwybr gyrfa eglur o lefel cynorthwywr at brif seicolegydd
addysg. Ar ben hynny, gallai fod cyfle i reoli adrannau
eraill ym meysydd addysg a gwasanaethau i blant.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Cymdeithas Seicoleg Prydain: www.bps.org.uk
Adran Addysg San Steffan: www.education.gov.uk
eTeach www.eteach.com
New Scientist: www.newscientist.com
Psychology Today: www.psychologytoday.com
The Psychologist: www.thepsychologist.org.uk
Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y
llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd
eich ysgol.