Rheolwr hostel

Cyflwyniad
Mae merched heb gartref yn arbennig o agored i niwed megis cyffuriau, cam-drin corfforol a meddyliol, a phroblemau iechyd.  Mae gwir angen cymorth arnyn nhw yn hytrach na dirmyg ein cymdeithas.  Mae pob awdurdod lleol yn cynnal hostelau a chartrefi gofal er mwyn cynnal gwasanaethau brys i bobl sy'n agored i niwed.  Gelwir rheolwr hostel yn gydlynydd mewn rhai awdurdodau.  Mae'n perthyn i adran anghenion tai'r gwasanaethau tai er bod cryn dipyn o orgyffwrdd â'r gwasanaethau cymdeithasol.

Amgylchiadau'r gwaith
Mewn hostel y byddech chi'n gweithio.  Gall rhai preswylwyr fod yn frwnt ac yn ymosodol a gallai'r amgylchiadau fod yn aflonyddus.  Mae trefniadau arbennig ar gyfer ymdopi â'r cyfryw broblemau ac unrhyw drais allai ddigwydd.  Fel arfer, byddech chi'n byw yn yr hostel ac mae gofyn i weithio shifftiau anghymdeithasol yn ôl wythnos safonol 37 awr, er bod rhaid bod yn hyblyg yn ôl yr angen beth bynnag fo'ch oriau gwaith.

Gweithgareddau beunyddiol
Yn rhan o'r cyfrifoldeb cyffredinol am reoli cyfleuster argyfwng 24 awr megis hostel i ferched heb gartref, mae gofyn i reolwyr wneud y canlynol:

  • defnyddio'r llety sydd ar gael i'r eithaf trwy ddyrannu ystafelloedd yn rhesymegol;
  • helpu preswylwyr i gael gafael ar y budd-daliadau mae gyda nhw hawl i'w mynnu;
  • codi a derbyn taliadau achos nad yw'r llety'n rhad ac am ddim heb amgylchiadau arbennig;
  • trefnu staff ddydd a nos, gan gynnwys gweithio yn ôl rhestr shifftiau, a bod yn fodlon gweithio shifftiau pan fo angen;
  • goruchwylio a datblygu staff;
  • datblygu timau effeithiol i weithio yn ôl gofynion y gyfraith o ran pobl ddigartref;
  • cadw cofnodion a nodi manylion yr hyn sy'n digwydd bob dydd;
  • cymryd camau penderfynol pan nad yw preswylwyr yn cadw at amodau'r hostel.

Ar ben hynny, mae rheolwyr yn gyfrifol am y canlynol:

  • rheoli stoc ac archebu offer a bwyd;
  • gofalu bod eiddo mewn cyflwr da a bod preswylwyr yn rhoi yn ôl yr holl gyfarpar oedd ar fenthyg iddyn nhw (deunydd coluro, llyfrau, lampau, offer coginio ac ati) cyn gadael;
  • gofalu bod y preswylwyr a'r staff yn cadw'r hostel yn lân a bod pob ystafell yn cael ei glanhau'n drylwyr pan fo'n wag;
  • cadw'r adeilad yn ddiogel bob amser;
  • meithrin perthynas dda â'r gymuned o amgylch yr hostel trwy helpu clientiaid i fyw mor arferol ag y bo modd y tu allan iddo a thrwy - o bosibl - cynnal diwrnod agored a gwahodd trigolion y fro i mewn fel y gallan nhw weld yr hyn sy'n digwydd yno.

Fydd y cyngor lleol ddim yn annog y merched i ystyried yr hostel yn gartref parhaol.  Bydd y rheolwr yn eu helpu i ddygymod â'r syniad o ddychwelyd i ffordd arferol o fyw trwy drefnu tai priodol.  Paratoir cynlluniau ailgartrefu ar y cyd â thimau eraill yn adran y gwasanaethau digartrefedd/cynghori, cymdeithasau tai, swyddfeydd rheoli tai a mudiadau gwirfoddol megis Shelter.  Bydd ailgartrefu'n mynd rhagddo yn ôl anghenion a dyheadau'r unigolyn dan sylw gyda chymorth cynlluniau tai'r cyngor lleol a mudiadau gwirfoddol.  Does dim rhaid i ferched oedd yn ddigartref ddechrau eu cynnal eu hunain yn sydyn.  Proses raddol yw honno.
 
Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai hanfodol:

  • goruchwylio, cynorthwyo ac ysgogi staff;
  • cyfathrebu'n dda - ar lafar ac ar bapur - â phreswylwyr, cydweithwyr ac asiantaethau allanol;
  • cydweithio'n effeithiol ag asiantaethau gwladol, preifat a gwirfoddol;
  • gweithio o'ch pen a'ch pastwn eich hun heb lawer o oruchwyliaeth;
  • datrys problemau'n adeiladol;
  • hyrwyddo a meithrin meddylfryd gwaith tîm;
  • amlygu agwedd dringar at bobl ddigartref;
  • dangos cadernid, hyblygrwydd a'r gallu i ymaddasu.

Mae disgwyl gwybod y canlynol, hefyd:

  • deddfau a chanllawiau ynglŷn â digartrefedd;
  • sut mae gweithio gyda phobl ddigartref a chynnig gwasanaethau brys;
  • cofnodi a chyflwyno data ystadegol yn eglur;
  • pennu cyllidebau;
  • trefnu gorchwylion fel y bydd staff ar gael drwy'r amser.

Meini prawf derbyn
Mae gan rai ymgeiswyr radd mewn maes megis tai, astudiaethau busnes, gweinyddu cyrff cyhoeddus, gwyddorau cymdeithasol neu waith cymdeithasol.  Gall addysg gyffredinol dda (TGAU A*-C Cymraeg/Saesneg a mathemateg) fod yn ddigonol os oes profiad perthnasol gyda chi.  Byddai'n well gan sawl awdurdod dderbyn ymgeisydd aeddfed a chanddo brofiad (cyfrifoldebau rheoli sylweddol mewn mudiad megis Shelter, llochesau i ferched neu unrhyw orchwylion gofal cymuned, er enghraifft) yn hytrach na chymwysterau.  Byddai'r wybodaeth a'r medrau sydd wedi'u nodi uchod yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.  Byddai o gymorth pe bai ymgeisydd yn gyfarwydd â materion iechyd a diogelwch, y GIG, Deddf y Gofal Cymuned a Deddf y Plant hefyd, yn ogystal â phrofiad o reoli gan gynnwys denu a dewis staff newydd.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Y cam nesaf yw cydlynydd gwasanaethau brys ac mae cyfleoedd mewn rhannau eraill o faes rheoli eiddo/gofal megis swyddog anghenion tai.  Mae cyfleoedd i weithio mewn cymdeithas dai neu arbenigo mewn rhannau eraill o faes tai yn y sector cyhoeddus a'r tu allan iddo fel ei gilydd.  Yn y gwasanaethau cymdeithasol, mae cyfleoedd ym maes gwaith cymunedol ond fe fyddai angen rhagor o hyfforddiant a chymwysterau perthnasol.  Dyma faes sydd ar gynnydd ac mae prinder staff mewn sawl lle.  Mae'n waith ymestynnol ond mae rhaglenni datblygu proffesiynol ar gael yn ogystal â hyfforddiant yn y swydd.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Asset Skills: www.assetskills.org
Cyngor Gofal Cymru: www.ccwales.org.uk
Sefydliad Breiniol Rheolwyr: www.managers.org.uk
Gofal Cymuned: www.communitycare.co.uk
Gwirfoddolwyr Gwasanaeth Cymuned: www.csv.org.uk/socialhealthcare
Cyngor Proffesiynolion Iechyd a Gofal: www.hpc-uk.org
Inside Housing: www.insidehousing.co.uk
Sefydliad Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol: www.iosh.co.uk
Cymdeithas Gofal Cymdeithasol: www.socialcareassociation.co.uk

Efallai bod rhagor am hyn ar wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), yn llyfrgell eich bro neu yn swyddfa/llyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links