Rheolwr gwasanaethau dydd

Cyflwyniad
Dyma swydd gofal cymdeithasol ac iechyd nad oes angen cymhwyster gweithiwr cymdeithasol ar ei chyfer.  Mae rheolwyr gwasanaethau dydd yn rhedeg canolfannau adnoddau i oedolion sydd ag anableddau dysgu a chorfforol.  Mae'r rôl yn cynnwys goruchwylio gofal cleientiaid, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, drefnu trafnidiaeth a gweithgareddau ysgogol, cinio poeth a gofal personol yn ôl y gofyn.  Mae swydd o'r fath yn bresennol ym mhob awdurdod lleol.

Amgylchedd Gwaith
Mae rheolwyr gwasanaethau dydd yn gyfrifol am un ganolfan ddydd yn benodol, ond gallant weithio mewn amryw leoliadau fel neuaddau cymunedol, dosbarthiadau addysg cymunedol a lleoliadau chwaraeon.  Gallai fod angen iddynt deithio i gyfarfodydd lleol hefyd.  Disgwylir iddynt wisgo'n drwsiadus.

Gweithgareddau Dyddiol
Mae rheolwyr gwasanaethau dydd yn gyfrifol am yr adnoddau a'r staff sy'n cynnig cymorth i gleientiaid.  Gellir helpu pobl ddall a rhannol ddall, a phobl fyddar, mud neu barlysedig i fwynhau amrywiaeth o weithgareddau - crochenwaith, celf, cerddoriaeth, chwaraeon, trafodaethau, coginio, nofio a marchogaeth, sydd yn addysgol a therapiwtig.  Ochr yn ochr â ffisiotherapi a chyngor ar gyflogaeth - yn dibynnu ar ddifrifoldeb yr anabledd - caiff cleientiaid eu helpu i gyrraedd eu potensial er gwaethaf eu hanableddau.

Mae swyddogion gwasanaethau dydd (nad oes ganddynt gymwysterau o reidrwydd, er y gallant fod yn gweithio tuag at NVQ) yn darparu'r gwasanaeth mewn canolfannau galw heibio a lleoliadau cymunedol dan reolaeth rheolwr y gwasanaeth dydd/canolfan adnoddau.  Gall rheolwyr hefyd weithio ar brojectau arbennig fel datblygu gwasanaethau i bobl ag anghenion cymhleth neu gyfleoedd cyflogaeth i gleientiaid ag anableddau. Mae eu dyletswyddau - a gyflawnir yn wythnosol yn aml - yn cynnwys llunio ffurflenni ar bresenoldeb staff, hawliadau arian mân, cyflogaeth drwy asiantaethau a siarad â grwpiau a chyfoedion ym maes gofal ac iechyd.  Mae'r bobl y maent yn cysylltu â hwy o ddydd i ddydd yn cynnwys rhieni, gofalwyr, gweithwyr cymdeithasol, meddygon, ffisiotherapyddion a therapyddion iaith, therapyddion galwedigaethol, seicolegwyr, tiwtoriaid a phersonél adnoddau dynol.

Sgiliau a Galluoedd
I gyflawni'r swydd hon bydd angen y canlynol arnoch:

  • sgiliau rheoli project; 
  • sgiliau datrys problemau a dadansoddi; 
  • sgiliau rhifedd;
  • hyder;
  • y gallu i ddeall eraill a'u trin â pharch; 
  • sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar.

Mae hefyd yn bwysig i chi allu nodi anghenion a sgiliau gwahanol mewn grwpiau cleientiaid a staff.

Gofynion Mynediad
Mae cymwysterau rheoli a phrofiad o weithio gyda phobl ag anableddau dysgu yn hanfodol.  Byddai cymhwyster gwaith cymdeithasol yn ddefnyddiol ond nid yn hanfodol.

Cyfleoedd yn y Dyfodol
Nid oes llwybr dyrchafu clir, ond y cam nesaf fyddai cael swydd fel Rheolwr Uned Gwasanaethau.  Mae'n faes twf posibl ac mae sgiliau gofal cymdeithasol yn drosglwyddadwy i swyddi rheoli eraill yn y gwasanaeth.  Ceir cyfleoedd mewn sefydliadau gofal cymdeithasol ac iechyd preifat sydd â thâl uwch, ond byddai disgwyl i chi gael profiad ymarferol mewn llywodraeth leol.

Rhagor o Wybodaeth a Gwasanaethau
Cyngor Gofal Cymru www.ccwales.org.uk
Gofal Cymunedol 
Gwirfoddolwyr Gwasanaethau Cymunedol www.csv.org.uk/socialhealthcare
Yr Adran Iechyd www.dh.gov.uk
Cyngor Iechyd a Phroffesiynau Gofal www.hpc-uk.org
Asiantaeth Cartrefi a Chymunedau www.homesandcommunities.co.uk
Sgiliau Gofal www.skillsforcare.org.uk
Cymdeithas Gofal Cymdeithasol www.socialcareassociation.co.uk

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y maes gwaith hwn drwy Yrfa Cymru (www.gyrfacymru.com) neu yn eich llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links