Rheolwr grŵp, cyfrifeg

Cyflwyniad
Efallai ei fod yn ystrydeb ond mae'n wir - 'arian sy'n gwneud y byd i droi'. Mae llwyddiant mewn busnes yn dibynnu ar gadernid ariannol y cwmni ac nid yw sefydliadau anfasnachol, megis llywodraeth leol, yn wahanol. Mae gan Gynghorau adrannau cyfrifeg canolog, sy'n cael eu galw weithiau y trysorlys, ble mae cyfrifwyr cymwys a'u cynorthwywyr yn gweithio.  Mi allen nhw hefyd fod yn gweithio mewn adrannau eraill, megis y gwasanaethau cymdeithasol neu addysg, sy'n rheoli'u cyllidebau eu hunain.  Mae'r rheolwr grŵp, cyfrifeg, yn cydlynu'r gwasanaethau cyfrifeg ar draws y cyngor cyfan i sicrhau y cedwir at safonau a bod y defnydd gorau'n cael ei wneud o arian cyhoeddus. Mae adrannau cyfrifeg ym mhob math o awdurdod lleol.

Amgylchedd Waith
Mae'r rhan fwyaf o'r gwaith yn cael ei wneud mewn swyddfa, gydag ymweliadau ag adrannau eraill, ond yn aml mae angen rhywfaint o weithio gartref. Mae llawer iawn o amser yn cael ei dreulio o flaen sgrȋn cyfrifiadur.

Gweithgareddau Pob Dydd
Y prif dasgau a chyfrifoldebau yw paratoi cyfrifon blynyddol cyfunol y cyngor, cynnal strwythurau cyfrifeg a chysoni'r cyfrifon banc.  Mae rheolwyr yn cynghori staff ariannol - cyfrifwyr, cynorthwywyr, technegwyr cyfrifeg, swyddogion cyllid a chlercod - ledled y cyngor yn rheolaidd ar yr holl faterion ariannol ac yn cadw llygad ar gyfrifon banc y cyngor. Mae hynny'n cynnwys monitro cyfrifon am dwyll neu gamgymeriad a rhedeg systemau incwm y cyngor. Mae rheolwyr grŵp yn cydlynu'n ddyddiol gyda'u tȋm eu hunain ac adrannau ariannol eraill gyda'r amcan cyffredinol o wella targedau a rhedeg y gwasanaeth mewn ffordd fwy economaidd. Yn achlysurol, byddant yn cyfarfod ag aelodau'r cyhoedd ac aelodau etholedig.

Mae rheolwyr hefyd yn gweithio ar brosiectau arbennig. Efallai bod yna broblemau megis adolygiad o strwythur côd cyfrifeg neu ail godi tâl mewnol ar gyfarwyddiaethau eraill. Mae'n rhaid cyfarfod â therfynau amser sy'n cael eu penderfynu gan fandad statudol, er enghraifft, diwedd y flwyddyn dreth.

Sgiliau a Diddordebau
Dylai'r rhain fod yn rhinweddau rheoli a chyfrifo ac yn cynnwys:

  • Gallu ymarferol
  • Y gallu i ddatrys problemau manwl
  • Sgiliau rheoli prosiect 
  • Pen am ffigyrau
  • Yn gallu cyd-fynd â phobl o bob math o gefndiroedd
  • Dawn am drefnu a chynllunio

Gofynion Mynediad i'r Swydd
Cymdeithas Siartredig y Cyfrifwyr Ardystiedig (ACCA) neu gymhwyster ariannol proffesiynol perthnasol, er enghraifft gan y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifeg (CIPFA) - awgrymir y canlynol: Mae sawl llwybr mynediad ar gael gyda gwahanol gymwysterau ac sy'n cydnabod cyraeddiadau blaenorol.

Llwybrau mynediad

  • Llwybr Arholiad Proffesiynol ACCA

Dros 18 mlwydd oed gyda naill ai:

  • 2 Lefel A a 3 TGAU (5 pwnc gwahanol gan gynnwys Mathemateg a Saesneg)
  • Technegydd Cyfrifeg Ardystiedig (CAT) - wedi cwblhau hyd at Lefel B 
  • AAT (DU) wedi cwblhau hyd at lefel canolradd 
  • Uwch GNVQ (unrhyw bwnc)
  • Tystysgrif Genedlaethol BTEC
  • NVQ Lefel 3 / 4 (unrhyw bwnc)
  • Gradd o sefydliad cydnabyddedig mewn unrhyw bwnc
  • Llwybr Mynediad Myfyriwr Aeddfed ACCA

Yr unig ofyniad yw y dylai ymgeiswyr fod dros 21 mlwydd oed ac wedi cwblhau dau bapur o faes llafur ACCA o fewn dwy flynedd (wedi eistedd 4 arholiad) cyn eistedd unrhyw bapurau ychwanegol. Eithriadau - gallai cymwysterau blaenorol roi hawl i fyfyrwyr gael eu heithrio o arholiadau ACCA. Mae eithriadau'n cael eu dyfarnu ar sail cymwysterau sy'n berthnasol i bapurau ACCA rhannau 1 a 2.

Ni ddyfarnir eithriadau yn rhan 3.  Enghreifftiau o eithriadau:

  • Gradd mewn cyfrifeg/cyfrifeg a chyllid
  • Graddau mewn pynciau'n gysylltiedig â busnes
  • Gradd yn y Gyfraith
  • Gradd mewn TG

Hyfforddiant ymarferol - yn ogystal â chwblhau 14 arholiad ACCA, mae gofyn i fyfyrwyr hefyd gael tair blynedd o brofiad dan oruchwyliaeth cyn bod yn gymwys am aelodaeth. Gellir ennill y profiad mewn unrhyw un o nifer o sectorau (diwydiant, masnach, y sector cyhoeddus neu mewn practis) a hynny cyn, yn ystod neu ar ôl cwblhau arholiadau ACCA. Mae'r rhan fwyaf o bobl, ble bo'n bosibl, yn cyfuno'r gofyniad am brofiad gwaith ac am arholiadau yr un pryd.

Rhagolygon a chyfleoedd ar gyfer y dyfodol
Mae ystod eang o gyfleoedd ac mae'r rhagolygon yn dda, hyd yn oed os yw'n faes cystadleuol heb unrhyw lwybr dyrchafiad diffiniedig clir. Weithiau mae angen symud adrannau neu gynghorau neu fynd at asiantaethau cyhoeddus, megis yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol neu i'r sector breifat i symud ymlaen - ac fel arfer, byddai hynny'n cynnwys cyfrifoldebau rheoli uwch. Y cam nesaf i reolwr grŵp yw Pennaeth Rheoli Cyllid (Cyfarwyddwr Cynorthwyol) a'r brif swydd yn y cyngor yw Cyfarwyddwr Cyllid.

Gwybodaeth a Gwasanaethau Pellach
Accountancy Age journal www.accountancyage.com/
Cymdeithas Siartredig y Cyfrifwyr Ardystiedig www.accaglobal.com
Cymdeithas Technegwyr Cyfrifeg www.aat.co.uk
Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr www.icaew.co.uk
Sefydliad Siartredig Cyfrifwyr Rheoli www.cimaglobal.com
Sefydliad Siartredig Cyllid a Chyfrifeg Cyhoeddus www.cipfa.org.uk

Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/) y llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich ysgol.

Mae Gyrfa Cymru wedi cynhyrchu Sbotolau erthygl ar yrfaoedd mewn STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg): https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-stem/

Related Links