Cyfrifydd

Cyflwyniad
Gwaith cyfrifydd yw gofalu bod y cyngor yn rheoli arian yn dda ac yn defnyddio arian y trethdalwyr yn y modd gorau.  Mae tua 18,000 o gyfrifyddion ym myd llywodraeth leol y Deyrnas Gyfunol.  Maen nhw'n gweithio mewn awdurdodau o bob math.  Mae nifer sylweddol o brif weithredwyr yn gyfrifyddion cymwysedig.

Amgylchiadau'r gwaith
Mae'r rhan fwyaf o'r gwaith yn mynd rhagddo yn y swyddfa, er y gallai fod angen teithio i gyfarfodydd weithiau.

Gweithgareddau beunyddiol
Mae rheolaeth ariannol gadarn yn hanfodol i reoli gwasanaethau awdurdod lleol yn dda.  Felly, dylai cyfrifydd gadw llygad barcud ar y modd mae arian y trethdalwyr yn cael ei ddefnyddio.  Mae'r cyfrifoldeb hwn yn cwmpasu sawl gorchwyl megis pennu cyllidebau adrannol a llunio argymhellion am brosiectau mawr (er enghraifft, adeiladu ffyrdd).  Mae cyfrifyddion yn gyfrifol am reoli adnoddau'n effeithiol a gofalu bod pob perygl ariannol yn cael ei adnabod a'i leddfu, hefyd.

  • Asesu a chynghori ynglŷn ag amcangyfrifon am ariannu prosiectau a chostau cynnal parhaus.
  • Rheoli cyllidebau cyfalaf a chyllid pob adran.
  • Paratoi cyfrifon blynyddol i'w rhoi gerbron archwilydd.
  • Archwilio mewnol megis adolygu cyflogau neu wirio bod awdurdod lleol yn neilltuo arian yn briodol.
  • Gweithredu'n ddolen gyswllt rhwng yr adran ariannol a gwasanaethau eraill.

Medrau a diddordebau
Mae rhifedd a medrau cyfathrebu ardderchog yn hanfodol, yn ogystal â'r gallu i drin a thrafod gwybodaeth a data.  Gan fod angen cydweithio ag amrywiaeth eang o bobl megis proffesiynolion eraill, cynghorwyr a gweithwyr cynorthwyol, dylai cyfrifyddion allu trin a thrafod pobl, hefyd.  Ar ben hynny, mae angen meddwl creadigol, craff a chwilfrydig.  Mae'r gallu i gynnig cyngor gwrthrychol wrth drin a thrafod gwybodaeth gyfrinachol yn bwysig.

Meini prawf derbyn
Ar ôl ennill dwy dystysgrif Safon Uwch a phum TGAU (A-C), gan gynnwys Saesneg a mathemateg, mae tair prif ffordd o ymgymhwyso'n gyfrifydd:

  • Dilyn cwrs sylfaenol cyn astudio ar gyfer arholiad y Sefydliad Breiniol dros Gyfrifeg a Chyllid Cyhoeddus (CIPFA).
  • Ennill gradd berthnasol a sefyll arholiad Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifeg (does dim rhaid i aelodau o'r gymdeithas wneud cwrs sylfaenol CIPFA).
  • Ennill gradd mewn pwnc nad yw'n ymwneud â'r maes hwn a gorffen rhannau o gwrs sylfaenol CIPFA cyn astudio ar gyfer yr arholiadau proffesiynol.

Does dim cymwysterau academaidd penodol i ymgeiswyr dros 21 oed.  Mae cynllun hyfforddi Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifeg yn agored i bawb (dwy flynedd amser llawn a thair blynedd rhan-amser).  Mae cymwysterau galwedigaethol cenedlaethol ar lefelau 2, 3 a 4.  Mae'r rhan fwyaf o gyfrifyddion yn astudio ar gyfer arholiadau'r Sefydliad Breiniol dros Gyfrifeg a Chyllid Cyhoeddus (CIPFA) neu Gymdeithas Freiniol y Cyfrifyddion Ardystiedig (ACCA).

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Mae'r cynghorau'n cyflogi llawer o gyfrifyddion a thechnegwyr cyfrifeg.  Mae'n bosibl cael eich dyrchafu fel a ganlyn: uwch gyfrifydd; prif gyfrifydd; dirprwy gyfarwyddwr ariannol; cyfarwyddwr ariannol.  Mae llawer yn cyrraedd lefel prif weithredwr.  Bydd y rhan fwyaf o gyfrifyddion yn symud i gynghorau eraill i gael dyrchafiad yn ystod eu gyrfaoedd, ond gan fod cyfrifyddion yn gweithio mewn cynghorau o bob math, mae'n bosibl na fydd angen symud allan o'ch rhanbarth chi.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Cymdeithas Technegwyr Cyfrifeg: www.aat.co.uk
Sefydliad Breiniol Cyfrifyddion Rheoli: www.cimaglobal.com
Sefydliad Cyfrifyddion Breiniol Cymru a Lloegr: www.icaew.com
Cymdeithas Cyfrifyddion Breiniol Ardystiedig: www.acca.co.uk
Sefydliad Breiniol Cyfrifeg a Chyllid Cyhoeddus: www.cipfa.org.uk

Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Mae Gyrfa Cymru wedi cynhyrchu Sbotolau erthygl ar yrfaoedd mewn STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg): https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-stem/

Related Links