Swyddog technegol, iechyd a diogelwch

Cyflwyniad
Un o'r agweddau pwysicaf ar ddiogelu'r amgylchedd yw Iechyd a Diogelwch.
Bydd swyddogion technegol yn meithrin ymdeimlad cryf o'r hyn sydd angen ei wneud er mwyn sicrhau bod y gweithle'n ddiogel. Mae hyn yn berthnasol i weithwyr ac i unrhyw aelod o'r cyhoedd a allai ymweld ag ardaloedd lle ceir risgiau a pheryglon posibl. Bydd Swyddogion Technegol yn cynorthwyo i atal a lleihau nifer y damweiniau yn y gweithle drwy gynghori cyflogwyr ynghylch amodau iechyd a lles mewn ffatrïoedd, swyddfeydd a safleoedd gwaith eraill - er mwyn gweld y broblem cyn i'r ddamwain ddigwydd, pan fydd hi'n rhy hwyr!   Mae hyn yn golygu y bydd swyddogion technegol yn treulio llawer iawn o'u hamser yn ymweld â safleoedd gwaith, gan roi cyngor ynghylch amodau, ymchwilio i ddamweiniau ac unrhyw gwynion y gallent fod wedi'u cael gan gyflogeion neu'r cyhoedd am faterion iechyd a diogelwch.  Ynghyd â chydweithwyr yn adran y gwasanaethau amgylcheddol, eu nod yw hyrwyddo amgylchedd diogel ac iach i weithwyr, ymwelwyr a'r gymuned gyfagos.

Amgylchedd Gwaith
Mae'r gwaith wedi'i gyfyngu i ardal yr awdurdod lleol, lle bydd swyddogion yn teithio i archwilio swyddfeydd, siopau, warysau, tafarndai, caffis, bwytai, clybiau chwaraeon a stadia, theatrau, canolfannau teiars a phibellau gwacáu cerbydau modur ac ati. Yn aml ni fyddant yn gwybod beth i'w ddisgwyl, ar wahân i'r posibilrwydd y gallai'r safleoedd hyn fod yn fudr neu'n swnllyd ac y gallai'r tywydd amrywio. Gallent hefyd gynnwys peryglon a chyflogwyr ymosodol. Gallai olygu gweithio mewn amgylchiadau ynysig a cherdded a dringo wrth gario cyfarpar profi. Ond ni fydd y gwaith fyth yn ddiflas - a byddwch yn cael dillad diogelwch smart a phob cefnogaeth gan yr awdurdod lleol.   Bydd Swyddogion Technegol fel arfer yn gweithio tua 36 awr yr wythnos gydag oriau anghymdeithasol ar adegau, ond ni cheir unrhyw waith shifft.

Gweithgareddau Dyddiol
Gan fod angen cynnal archwiliadau iechyd a diogelwch bob dydd, mae'n ddigon posib y bydd swyddogion technegol yn cario'u cyfarpar drwy gydol yr amser. Bydd arnynt angen offer profi trydanol, mesuryddion lefelau sain, thermomedrau, dyfeisiau profi gollyngiadau o ficrodonnau, camerâu a chamerâu fideo ac ati. Wrth gynorthwyo i wella ansawdd bywyd yn y gweithle, bydd y swyddog technegol yn cael llawer iawn o foddhad yn ei swydd. Er ei bod hi'n bosibl y daw amrywiaeth eang o broblemau i'r amlwg - na ellir eu datrys drwy un ymweliad yn unig - bydd rheolwyr busnes a diwydiannau'n croesawu'r gefnogaeth a'r arweiniad a gânt. Gallai'r gwaith gynnwys unrhyw un o'r canlynol:

  • monitro contractwyr sy'n tynnu asbestos; 
  • erlyn cyflogwyr am dorri'r gyfraith; 
  • gweithio gyda chyrff eraill ar brosiectau arbennig, er enghraifft ymchwiliadau i boen cefn a risgiau eraill yn gysylltiedig ag anafiadau straen ailadroddus; 
  • lleihau'r risg y bydd pobl yn llithro neu'n syrthio; 
  • profi dyfeisiau trydanol; 
  • gweithio gyda chyflogwyr i sefydlu rhaglen arolygu a system graddnodi risg sy'n cynnwys graddfeydd amser penodedig ar sail wythnosol/dyddiol; 
  • llunio adroddiadau a chyflwyno argymhellion;
  • disgwylir i swyddogion technegol allu gweithio ar eu cymhelliant eu hunain, meddu ar wybodaeth dechnegol, a gweithio'n unigol neu fel aelod o dîm wrth gyflawni polisi cyffredinol yr awdurdod lleol ar iechyd yr amgylchedd.

Mae hyn yn golygu y byddant yn cysylltu â chydweithwyr o'u hadran eu hunain a chyflogeion eraill y gwasanaethau cyhoeddus ar bob lefel, y frigâd dân, yr heddlu, y GIG, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. ASau a chynghorwyr lleol; rheolwyr a chyfarwyddwyr cwmnïau. Ond nid rôl arolygu lawdrwm yn unig sydd ganddynt. Fe'u hystyrir yn rhan o'r ateb yn hytrach nag yn rhag o'r broblem.

Sgiliau a Diddordebau
Er mwyn cyflawni'r swydd hon, bydd angen:

  • gallu gwneud gwaith manwl; 
  • gallu ymarferol; 
  • natur ofalgar; 
  • sgiliau rheoli prosiect; 
  • medrusrwydd wrth drin ffigurau; 
  • hyder a'r gallu i 'fagu croen'; 
  • y gallu i gyd-fynd â phobl o wahanol gefndiroedd ac o wahanol lefelau proffesiynol; 
  • sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig ac ar lafar; 
  • doethineb ac amhleidioldeb; 
  • dull trefnus o ganfod ffeithiau.

Mae ymdrin â phobl yn rhan annatod o'r swydd, ac mae'n hanfodol bod yn amyneddgar, yn dawel, yn rhesymegol, yn ddarbwyllol ac yn sensitif i'r rhai hynny sydd wedi profi colled neu anaf. Wrth ymdrin â materion iechyd a diogelwch, mae angen arfer barn sy'n gadarn ond yn deg, a rhaid i'r swyddog technegol ddysgu sut i ymdopi ag ymddygiad ymosodol heb droi'n ymosodol ei hun. Rhaid iddo ymddangos fel pe bai'n gwneud gwahaniaeth i iechyd a diogelwch y gweithle. Mae profiad gwyddonol a thechnegol blaenorol yn ddefnyddiol.

Gofynion Mynediad
Fel arfer, bydd angen profiad a chymhwyster ymarferol, er enghraifft mewn gwaith trydanol.  Diploma NEBOSH City and Guilds mewn Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol (rhan 2).  Disgwylir i'r swyddog dderbyn hyfforddiant yn y gwaith tuag at gymwysterau galwedigaethol a datblygiad proffesiynol pellach drwy sefydliad proffesiynol, fel y Sefydliad Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol, er enghraifft.

Rhagolygon a chyfleoedd i'r dyfodol
Dyma faes gwaith sy'n tyfu ac ynddo amrywiaeth eang o gyfleoedd am ddyrchafiad i swyddi uwch swyddog, pennaeth a phrif swyddog ym maes iechyd yr amgylchedd. Fodd bynnag, yn aml bydd angen symud i awdurdodau eraill i ddechrau er mwyn cael profiad ehangach.

Gwybodaeth a Gwasanaethau Pellach
Gwybodaeth am yrfaoedd iechyd yr amgylchedd www.ehcareers.org
Y Sefydliad Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol www.iosh.co.uk 
Y Bwrdd Arholi Cenedlaethol ar gyfer Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol http://www.nebosh.org.uk/

Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich ysgol.

Mae Gyrfa Cymru wedi cynhyrchu Sbotolau erthygl ar yrfaoedd mewn STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg): https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-stem/

Related Links