Error loading Razor Script CaseStudyLink.cshtml

Cyflwyniad
Fel arfer, mae cynorthwywyr cyfrifeg yn gweithio yn adran ariannol y cyngor ochr yn ochr â'r cyfrifyddion.  At hynny, gallai cyfrifyddion a'u cynorthwywyr weithio yn rhai o adrannau eraill y cyngor megis addysg, gwasanaethau amgylcheddol a hamdden gan reoli cyllidebau gwasanaethau unigol.  Mae nifer o enwau eraill ar y swydd hon megis cynorthwywyr ariannol a chlercod ariannol.  Byddai cynorthwywr cyfrifeg yn helpu i gyflawni amryw orchwylion ynghylch cyfrifeg ac arian megis paratoi cyfrifon, cydlynu adroddiadau a gofalu bod pawb yn cadw at safonau a chanllawiau'r cyngor.

Amgylchiadau'r gwaith
Mae cynorthwywyr cyfrifeg yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser wrth gyfrifiadur yn eu swyddfa.  Gallai fod angen iddyn nhw ymweld â rhai o adrannau eraill y cyngor bob hyn a hyn, hefyd.  37 awr yw'r wythnos safonol, ond rhaid bod yn hyblyg.  Efallai y bydd modd gweithio oriau ychwanegol, gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.

Gweithgareddau beunyddiol
Dyma rai o ddyletswyddau cynorthwywr cyfrifeg:

  • helpu i bennu a monitro cyllidebau;
  • cadw cofnodion ariannol;
  • paratoi a dadansoddi ystadegau i gyfrifyddion a rheolwyr adrannau;
  • helpu i baratoi ac archwilio cyfrifon;
  • gwirio anfonebau;
  • gwirio a phrosesu ceisiadau swyddogion am dreuliau teithio;
  • paratoi adroddiadau TAW bob mis;
  • monitro llif arian a threfnu benthyciadau ac adneuon tymor byr (tîm cyfalaf a thrysorlys);
  • helpu i baratoi ceisiadau ac adroddiadau yn ôl canllawiau;
  • monitro a chysoni cyfrifon a chadw cyfrifon, canllawiau a chofrestri y tu allan i brif gyfundrefnau cyfrifeg;
  • helpu i gynghori a dadansoddi ynglŷn â materion ariannol;
  • goruchwylio gwaith staff clercaidd a'r rhai dan hyfforddiant;
  • helpu i hyfforddi a datblygu staff llai profiadol a'r rhai dan hyfforddiant.

Mae rhai cynorthwywyr cyfrifeg yn helpu i baratoi cyllidebau blynyddol neu geisiadau am grantiau Llywodraeth San Steffan neu Undeb Ewrop.  Mae eraill yn gweithio'n rhan o dim archwilio sy'n monitro cyfundrefn cyfrifeg y cyngor.  Byddan nhw'n ymweld â'r gwahanol adrannau, edrych ar ffurflenni a chofnodion ariannol a gofalu eu bod wedi'u paratoi'n gywir.  Bydd eu dyletswyddau'n amrywio yn ôl ble maen nhw'n gweithio - yn adran ariannol y cyngor neu un o'r adrannau eraill.  Er enghraifft, gallai'r rhai sydd yn adran y gwasanaethau cymdeithasol drin a thrafod taliadau i gwmnïau sy'n ymwneud ag offer i gartrefi gofal.  Yn adran addysg y cyngor, gallen nhw helpu i bennu cyllideb flynyddol pob ysgol.  Yng ngharfan y pensiynau, gallen nhw helpu i dynnu cyfraniadau oddi wrth gyflogau gweithwyr a'u rhoi yng nghronfa'r pensiynau.
 
Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai hanfodol:

  • medrau rhifedd cryf;
  • manwl gywirdeb;
  • gallu gweithio yn ôl amserlenni ymestynnol;
  • medrau cyfathrebu da - ar lafar ac ar bapur fel ei gilydd;
  • hyder wrth siarad dros y ffôn;
  • gallu gweithio heb oruchwyliaeth drylwyr;
  • adnabod sustemau cyfrifeg cyfrifiadurol yn dda.

Meini prawf derbyn
Does dim meini prawf penodol.  Bydd cynghorau'n mynnu o leiaf 5 TGAU (A-C) gan gynnwys Saesneg a mathemateg, fodd bynnag.  Ymhlith cymwysterau eraill allai fod yn dderbyniol mae Safon Uwch, gradd, cymhwyster galwedigaethol cenedlaethol ar lefel 2 neu brofiad o waith lle bu angen llythrennedd a rhifedd.  Mae cynorthwywyr cyfrifeg yn cael hyfforddiant yn y gwaith a gallai fod cyfle i astudio ar gyfer arholiad lefelau 2-4 Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol 'Cyfrifeg'.  Ar ôl llwyddo ynddo a chael profiad cymeradwy yn y gwaith, gallai fod modd ymuno â Chymdeithas y Technegwyr Cyfrifeg.  Gallai profiad o weithio mewn swyddfa ariannol a chreu a chynnal taenlenni fod o fantais ynglŷn â rhai swyddi.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Gallai cyngor bychan gyflogi hyd at 20 o gynorthwywyr cyfrifeg.  Mewn cyngor mawr, gallai fod dros 100 yn yr amryw adrannau.  Mae'n bosibl cael eich dyrchafu'n brif dechnegydd cyfrifeg neu'n brif swyddog ariannol lle byddwch chi'n gyfrifol am waith nifer o gynorthwywyr cyfrifeg.  Mae rhai cynorthwywyr cyfrifeg sy'n cael ymuno â Chymdeithas y Technegwyr Cyfrifeg yn astudio ymhellach i fod yn gyfrifyddion.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifeg: www.aat.co.uk
Sefydliad Breiniol Cyfrifyddion Rheoli: www.cimaglobal.com
Sefydliad Cyfrifyddion Breiniol Cymru a Lloegr: www.icaew.com
Cymdeithas Cyfrifyddion Breiniol Ardystiedig: www.acca.co.uk
Sefydliad Breiniol Cyfrifeg a Chyllid Cyhoeddus: www.cipfa.org.uk

Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Mae Gyrfa Cymru wedi cynhyrchu Sbotolau erthygl ar yrfaoedd mewn STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg): https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-stem/

Related Links