Pennaeth adran ysgol

Cyflwyniad
Yn ogystal â bod yn athro, mae pennaeth adran ysgol yn weinyddwr ac yn rheolwr.  Rhaid cyflawni rôl mentor hefyd, yn arbennig i athrawon sydd ar brawf.  Pan fydd anawsterau ynglŷn â dosbarthiadau, disgyblion unigol neu gwrícwlwm cymhleth, gall fod yn anodd i athro ddod i delerau â swydd newydd.  Gall athrawon helpu i ddewis gyrfa, hefyd.

Mae pennaeth adran ar gyfer pob pwnc pwysig yn ysgolion yr awdurdodau lleol.

Amgylchiadau'r gwaith
Yn yr ystafell ddosbarth gan amlaf, er y bydd peth gwaith allanol.  Bydd rhaid mynd i gyfarfodydd yn yr ysgol a'r tu allan iddi.  Yn ôl natur y swydd, gall fod angen trefnu teithiau astudio.  Er enghraifft, efallai y byddai athro bywydeg neu ddaearyddiaeth yn ymwneud â theithiau cenedlaethol neu ryngwladol a gallai fod rhaid i athro hanes drefnu ymweliadau ag amgueddfeydd neu safleoedd o ddiddordeb hanesyddol.

Yr wythnos safonol yw 20 awr yn yr ystafell ddosbarth a rhyw 20 awr o weinyddu.  Yn ogystal â sefyll o flaen dosbarth drwy'r dydd, rhaid i bennaeth adran fynd i noson rhieni ac, weithiau, cyfarfodydd mewn adeiladau dinesig.  Bydd rhaid gweithio yn ôl amserlen gan amlaf.

Gweithgareddau beunyddiol
Y prif orchwylion yw dysgu'r plant a marcio eu gwaith.  Mae dyletswyddau eraill gan bennaeth adran, fodd bynnag: rheoli athrawon a thechnegwyr, trafod materion ariannol megis costau offer, trefnu ymweliadau, cadw golwg ar nifer y staff (rhaid trefnu i athrawon llanw gymryd lle athrawon sy'n absennol, er enghraifft) a llywio cyfarfodydd (dau neu dri chyfarfod yr wythnos, o bosibl).

Mae addysg yn gyfnewidiol ac mae rhaid tywys athrawon trwy ofynion ymestynnol cwrícwlwm cymhleth.  Yn ogystal â hyfforddiant arwain trwy deithiau, efallai y bydd pennaeth adran yn ymwneud â phrosiectau arbennig eraill megis paratoi cynlluniau gwaith newydd yn ôl meini prawf y cwrícwlwm gwladol.  Rhaid paratoi ar gyfer yr arolygiadau allanol, hefyd.  Cyfrifoldeb pennaeth yr adran yw arwain materion o'r fath.

Yng nghanol hynny i gyd, rhaid i bennaeth adran osgoi'r perygl y gallai golli golwg ar graidd y swydd - helpu disgyblion i gyflawni eu llawn dwf a'u paratoi ar gyfer bywyd, gan gynnwys cael y canlyniadau gorau yn yr arholiadau.

Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai hanfodol:

  • medrau gweinyddu a rheoli;
  • manwl gywirdeb;
  • gallu rheoli prosiectau;
  • hyder;
  • gallu cyd-dynnu â phobl o bob lliw a llun;
  • medrau cyfathrebu;
  • medrau datrys problemau;
  • cymeriad aeddfed a sefydlog;
  • awydd i ofalu am bobl ifanc a meithrin eu galluoedd.

Meini prawf derbyn
Gradd berthnasol a chymhwyster ar ôl graddio yn ogystal â chymhwyster athro.  Er na fyddai profiad o reoli yn hanfodol, byddai o gymorth.  Bydd gofyn ichi barhau i ddatblygu'n broffesiynol.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Mae amrywiaeth helaeth o gyfleoedd ym maes dysgu, ond mae'n fwy cystadleuol ar y lefelau uwch.  Ar ôl pennaeth adran, y camau nesaf yw pennaeth cyfadran a phrif athro.  Rhaid symud ar gyfer dyrchafiad fel arfer, a bydd angen profiad i gael swydd well.  Yn y swyddi uwch, bydd rhaid rheoli pobl hefyd, yn aml.  Mae swyddi y tu allan i'r awdurdodau lleol megis rhai yn y byd masnachol, prifysgolion, colegau hyfforddi, y gwasanaeth gwladol a'r cyfryngau.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Pob awdurdod addysg lleol
Hyfforddiant ac Addysg Athrawon Cymru: www.teachertrainingcymru.org
Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru: www.gtcw.org.uk
Cofrestr Athrawon Cymwysedig: www.gttr.ac.uk
Swyddi ym maes addysg: www.eteach.com

Gallai fod rhagor o wybodaeth ar wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), yn llyfrgell eich bro neu yn swyddfa/llyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links