Pen gofalwr lleiniau/pen gweithiwr, cwrs golff y cyngor lleol

Cyflwyniad
Dyma swydd sy'n ymwneud â thrin a thrafod meysydd chwarae.  Cyfrifoldeb am ardd enfawr!  Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am lunio a rheoli amryw fannau yn yr awyr agored megis coetir, parciau, mannau cerddwyr a gerddi adeiladau cyhoeddus.

Mae gofalwr cwrs golff yn gyfrifol am gynnal a chadw tair neu bedair milltir o ardal wledig ar gyfer y chwaraewyr a phobl eraill allai fynd am dro yno gyda eu cŵn.  Er mai cwrs golff yw e yn llygaid rhai, mae'n hawl tramwy i bobl eraill.  Weithiau, bydd y ddwy garfan yn groes i'w gilydd.  Mae'r cŵn yn hoff iawn o'r tywod a'r glaswellt!

Mae gweithwyr meysydd chwarae ym mhob cyngor lleol, er bod cwmnïau preifat yn cyflawni rhai gorchwylion - megis clirio coetir garw - trwy gytundeb.  'Garddwr' yw enw'r swydd hon mewn rhai cynghorau lleol.

Amgylchiadau'r gwaith
Mae'n anochel y byddwch chi yn yr awyr agored gan amlaf oni bai bod y tywydd heb ganiatáu hynny.  Mewn tywydd gwael, cewch chi gyfle i gynnal a chadw'r offer.  Fe fydd digon o gerdded ar hyd y cwrs hefyd, a thipyn o waith dwylo â'r offer er bod cerbydau torri glaswellt ar gyfer y lleiniau.  Mae ffordd wahanol o gynnal a chadw'r cyrsiau ar lan y môr gan eu bod braidd yn wastad a thywodlyd fel arfer.  Bydd cerbyd ar gyfer cludo'r offer a'r gweithwyr trwy'r parc.

Ar wahân i waedd y golffwyr, dim ond yr adar a'r gwynt sy'n cadw sŵn yno.  Mae'n weithle iach er y gallai fod yn anodd ar adegau achos bod y tywydd yn gyfnewidiol, yr un fath â hwyliau rhai chwaraewyr a allai'ch beirniadu'n hallt os nad ydyn nhw'n fodlon ar gyflwr y lleiniau.  Mae dillad ac esgidiau diogelu ar gael.  Bydd yr oriau'n amrywio - 45 bob wythnos yn ystod yr haf a 32 bob wythnos yn y gaeaf.  Bydd rhaid dechrau'r gwaith yn gynnar drwy gydol y flwyddyn, ar yr amod bod y tywydd yn dda.

Gweithgareddau beunyddiol
Y prif orchwylion yw torri'r glaswellt a bodloni'r cyngor lleol a'r golffwyr trwy osgoi ymyrryd yn y chwarae.  Gall fod yn anodd gweithio o gwmpas chwaraewyr gan fod angen torri ar draws y gwaith nes eu bod wedi mynd heibio.

Mae llawer mwy i'r swydd na hynny, fodd bynnag.  Rhaid gofalu am y lleiniau trwy dynnu gwlith a baw cwningod a thrin y glaswellt â chemegion arbennig fel y bydd yn tyfu'n addas.  Rhaid clirio a thacluso'r tywod hefyd, yn ogystal â chodi sbwriel a gwagio'r biniau bob dydd.  Mae arferion mochyn daear ac anifeiliaid eraill yn effeithio ar rai nodweddion.  Rhaid ailwampio twmpathau bob hydref a gwanwyn, ehangu'r mannau cychwyn a gosod glaswellt newydd.  Y prif amcan yw gwella'r cwrs golff yn ôl amodau cyllidebol llym y cyngor lleol.

Bydd gweithiwr meysydd chwarae yn cwrdd â rheolwyr y cyngor, pwyllgor y cwrs, golffwyr a cherddwyr yn fynych.  Rhaid gweithio ar eich pen eich hun ac yn rhan o dîm fel ei gilydd.
 
Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai hanfodol:

  • gallu ymarferol;
  • manwl gywirdeb;
  • diddordeb yng nghefn gwlad;
  • gallu trin a thrafod symiau;
  • agwedd dringar a'r gallu i gyd-dynnu â phobl.

Rhaid gweithio o'ch pen a'ch pastwn eich hun am y gallech chi fod ar eich pen eich hun drwy'r dydd.  Ar ôl gorffen gorchwyl, dylech chi allu penderfynu beth i'w wneud nesaf yn ôl yr amser a'r tywydd heb gyfarwyddiadau.  Rhaid bod yn heini, hefyd!

Meini prawf derbyn
Dechreuodd y rhan fwyaf o weithwyr meysydd chwarae yn hyfforddeion yn syth ar ôl gadael yr ysgol.  Er nad oes angen cymwysterau galwedigaethol, bydd y rhan fwyaf o weithwyr yn astudio mewn coleg ar gyfer tystysgrif Sefydliad y Ddinas a'r Urddau.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Dyma faes cyfyng a chystadleuol.  Ar ôl cyrraedd swydd pen gweithiwr, y cam nesaf fyddai rheolwr cwrs golff, o bosibl.  Mae modd cael dyrchafiad trwy symud i adran sy'n ymwneud â chynnal a chadw mathau eraill o feysydd, symud i gyngor arall neu symud i erddi/cyrsiau golff preifat.  Rheolwr cytundebau yw'r swydd uchaf.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Sefydliad y Ddinas a'r Urddau: www.city-and-guilds.co.uk
Sefydliad Gweithwyr Meysydd Chwarae: www.iog.org
Lantra: www.lantra.co.uk
Cymdeithas Gofalwyr Cyrsiau Golff Prydain: www.bigga.org.uk

Gallai fod rhagor o wybodaeth ar wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), yn llyfrgell eich bro neu yn swyddfa/llyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links