Gweithiwr mynwent/torrwr beddau

Cyflwyniad
Mae Gweithiwr Mynwent a Thorrwr Beddau yn gyfrifol am gloddio beddau a gwaith cynnal a chadw cyffredinol o ddydd i ddydd ar fynwentydd ac ardaloedd eraill.

Amgylchedd Gwaith
Caiff y gwaith ei gyflawni yn yr awyr agored mewn mynwentydd amrywiol y mae'r awdurdod lleol yn gyfrifol amdanynt, a chaiff y rhain eu lleoli ar draws ardal ddaearyddol yr awdurdod lleol, nid dim ond mewn un lleoliad.  Am fod y gwaith yn digwydd yn yr awyr agored rhaid cwblhau pob tasg waeth beth fo'r tywydd. Mae'r gwaith hefyd yn gofyn am ymdrech gorfforol sylweddol, er enghraifft cario offer a deunydd i fyny ac i lawr ysgolion.

Gweithgareddau Dyddiol
Gallai'r dyletswyddau gynnwys:

  • lleoli, marcio a thyllu beddau yn unol â map y fynwent a'r Code of Safe Working Practice for Cemeteries. Caiff y gwaith tyllu ei wneud gan beiriant mecanyddol, ond efallai y bydd angen cloddio rhywfaint â llaw hefyd;
  • ategu, cynnal a rhoi caead ar fedd sydd wedi'i dyllu yn unol â deddfwriaeth a chanllawiau iechyd a diogelwch, a bydd hyn yn cynnwys gweithio mewn gofod bychan hyd at saith troedfedd o ddyfnder;
  • helpu aelodau'r cyhoedd pan fo angen i ddod o hyd i blot neu fedd;
  • helpu trefnwyr angladdau a seiri meini gyda lleoliadau a threfnu angladdau;
  • cynnal yr ardaloedd amgylchynol, sy'n cynnwys torri glaswellt, trimio perthi, plannu blodau a llwyni a thocio perthi a choed;
  • cynnal gwelyau llwyni a rhai blynyddol o fewn y fynwent;
  • gwaith casglu sbwriel a gwacáu biniau cyffredinol yn y fynwent;
  • ailosod pridd a hadu beddau yn dilyn eu llenwi;
  • ysgubo llwybrau;
  • cloi a chynnal cabanau a thoiledau;
  • cydymffurfio â'r rheoliadau Control of Substances Hazardous to Health wrth ddefnyddio cemegolion neu sylweddau;
  • cloi a datgloi llidiardau'r fynwent ac unrhyw adeiladau eraill ar safle'r fynwent.

Sgiliau a Diddordebau
Bydd Gweithiwr Mynwent a Thorrwr Beddau yn:

  • ffit yn gorfforol;
  • meddu ar sgiliau gofal cwsmer cryf;
  • arddangos urddas a thrugaredd wrth ymdrin â theuluoedd mewn galar;
  • yn ychwanegol at yr amrediad arferol o offer, gallu defnyddio offer llaw trydanol ac offer garddio mawr megis torrwr glaswellt;
  • gallu gweithio yn yr awyr agored ymhob tywydd yn cynnwys amodau tywydd garw.

Gofynion Mynediad
Mae angen i Weithiwr Mynwent - Torrwr Beddau gael sgiliau allweddol lefel 1 neu gyfatebol.

Cyfleoedd a Rhagolygon ar gyfer y Dyfodol
Gallai'r swydd arwain at swyddi eraill o fewn maes garddwriaeth. Mae'n bosibl y byddai rhai awdurdodau lleol yn eich rhyddhau o'r gwaith am rai dyddiau penodol ar gyfer astudio ar gyfer cymwysterau garddwriaeth proffesiynol.

Gwasanaethau a Gwybodaeth Bellach
Institute of Cemetery and Crematorium Management www.iccm-uk.com
Gallwch gael gwybodaeth bellach ar y maes gwaith hwn drwy Gyrfa Cymru (www.gyrfacymru.com) neu yn eich llyfrgell leol, y swyddfa yrfaoedd neu lyfrgell yrfaoedd eich ysgol.

Related Links