Cyflwyniad
Mae cynnal a chadw'r ffyrdd yn rhan arbenigol o beirianneg
sifil. Mae peirianwyr cynnal a chadw yn gweithio ochr yn ochr
â chynllunwyr trefol a pheirianwyr rheoli trafnidiaeth a chludiant
i ofalu am gyflwr ein ffyrdd. Wrth reoli gwaith cynnal a
chadw'r ffyrdd, maen nhw'n gyfrifol am fonitro gorchwylion
cynllunio, adeiladu a thrwsio.
Amgylchiadau'r gwaith
Bydd peth gwaith yn y swyddfa a pheth gwaith ar y ffyrdd. 37
awr yw'r wythnos safonol er bod rhaid gweithio dros y Sul a chyda'r
nos, hefyd. Mae dillad diogelu megis hetiau caled, esgidiau
cadarn a chotiau gweladwy ar gael. Bydd peiriannydd yn cario
arfau a chyfarpar bob amser wrth ymweld â safleoedd.
Gweithgareddau beunyddiol
Hanfod cynnal a chadw'r ffyrdd ar y cyfan yw cadw golwg ar gyflwr
y ffyrdd yn ogystal â meithrin perthynas dda â'r cyhoedd, y
cynghorau lleol a'r ymgynghorwyr. Mae pawb yn defnyddio'r
ffyrdd ac mae hawl gan bawb i fynegi barn ynglŷn â beth ydyn nhw a
ble maen nhw. At hynny, bydd y peiriannydd yn cydweithio â
rheolwyr a staff cwmnïau nwy, dŵr a thrydan achos y gallai unrhyw
waith ar y ffyrdd groesi pibau, ceblau a pheilonau cyfredol.
O safbwynt amgylcheddol, rhaid i'r peirianwyr cynnal a chadw
ystyried effeithiau unrhyw fwriad i adeiladu neu atgyweirio ffyrdd
yn ogystal â gofalu bod ffyrdd cyfredol mewn cyflwr da. Rhaid
cadw mewn cof y goblygiadau o ran diogelwch, cludo, mynediad a
thirweddau trefol a gwledig. Dyma brif gyfrifoldebau
peiriannydd cynnal a chadw:
Llunio rhaglenni: Cynnal a chadw'r ffyrdd cyhoeddus yn
gost-effeithiol. Bydd y peirianwyr yn archwilio cyflwr ffyrdd
ac yn argymell ailadeiladu rhai neu osod wynebau newydd arnyn nhw
yn ôl gofynion a chostau maen nhw wedi'u pennu.
Cynnal rhaglenni: Llunio a chynnal rhaglenni fydd yn mynnu'r
rhan fwyaf o amser peiriannydd. Ar y cyd â'r sawl sy'n
gyfrifol am gyflawni'r gwaith (y darparwr), bydd peirianwyr yn
paratoi cynlluniau cynnal a chadw blynyddol fel y bydd y ffyrdd yn
ddiogel, gan gynnwys:
- deunyddiau a gweithdrefnau gosod wynebau;
- nodi pwy sy'n gyfrifol am roi cyfarwyddiadau am amryw rannau
o'r gwaith;
- cytuno ar yr amserlen;
- ffiniau cyllidebol;
- gweithredu yn ôl gofynion y gyfraith ym maes iechyd a
diogelwch;
- manylion trefnu gwaith cynnal, cadw ac atgyweirio dros y gaeaf
ac mewn argyfwng;
- gweithdrefnau monitro'r hyn sydd wedi'i gyflawni yn ôl amodau'r
cytundeb.
Perthynas â chwsmeriaid: Cynrychioli'r awdurdod ym mhob bro;
trin a thrafod gohebiaeth, hybu perthynas dda â'r cyhoedd, y
cyfryngau, yr heddlu, y cynghorwyr, awdurdodau lleol eraill a
chyrff cyhoeddus, proffesiynol a phreifat. Y nod yw ymdrin yn
effeithiol â chwynion a helpu pobl i ddeall polisïau'r cyngor lleol
a chyfyngiadau prinder adnoddau.
Goruchwylio a monitro contractwyr ac ymgynghorwyr: Gofalu bod
gwaith yn cael ei gyflawni yn ôl y gofynion, yr amserlenni a'r
cyllidebau. Bydd peirianwyr cynnal a chadw yn cofnodi'r hyn
mae darparwyr wedi'i gyflawni gan asesu a fyddan nhw'n addas ar
gyfer gwaith yn y dyfodol a phwy ddylai fod ar restr y rhai mae
gwahoddiad i gyflwyno cynnig am gytundeb.
Staff: Mae peirianwyr cynnal a chadw yn gyfrifol am oruchwylio a
hyfforddi staff ac arwain tîm yn ôl disgyblaeth a chymhelliant
priodol. At hynny, byddan nhw'n hyfforddi staff clientiaid i
sefydlu gweithdrefnau o'r radd flaenaf ar gyfer arolygu,
goruchwylio a chofnodi.
Rheoli gweithgareddau ar y ffyrdd: Goruchwylio unrhyw waith
preifat a defnydd o offer ar y ffordd lle bo hynny'n effeithio ar
weithgareddau'r cyngor lleol. Felly, gallai fod angen trin a
thrafod ceisiadau am ganiatâd i weithio ar ffordd neu osod sgipiau
sbwriel, sgaffaldwaith ac offer.
Rheoli datblygu: Cysylltu ag adran datblygu'r cyngor lleol i
archwilio unrhyw ffyrdd a llwybrau mae adeiladwyr wedi'u gosod cyn
eu mabwysiadu i ddibenion cyhoeddus. Er enghraifft, bydd gan
beiriannydd y gair olaf wrth benderfynu a fydd modd defnyddio safle
unedau diwydiannol yn ffordd gyhoeddus a pha gyfyngiadau allai fod
yn berthnasol.
Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai hanfodol:
- gallu ymarferol;
- gallu datrys problemau - a mwynhau gwneud hynny;
- meddwl creadigol;
- gallu meddwl yn rhesymegol;
- gallu gweithio mewn tîm;
- medrau ieithyddol a mathemategol effeithiol;
- gallu trin a thrafod cyfrifiadur.
Meini prawf derbyn
Mae gradd neu Uwch Dystysgrif Genedlaethol (neu gymhwyster
cyfatebol) ym maes peirianneg yn hanfodol. Gan fod y swydd yn
ymwneud â pheirianneg sifil, gallai fod angen ymgymhwyso'n
broffesiynolyn yn ôl cynllun Sefydliad y Peirianwyr Sifil - gan
gynnwys hyfforddiant, arholiadau a phrofiad ymarferol. Ar ôl
ymgymhwyso, dylech chi fod wedi gweithio fel arfer yng ngorchwylion
technegol peirianneg cynnal a chadw a/neu mewn maes cysylltiedig
megis peirianneg cludiant.
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Dyma rai posibiliadau ym maes adeiladu a diwydiannau
cysylltiedig:
- contractwyr adeiladu;
- cwmnïau peirianneg ymgynghorol;
- adrannau gwladol;
- adrannau gweithiau cyhoeddus ac iechyd amgylcheddol;
- datblygwyr eiddo;
- cwmnïau nwy, dŵr a thrydan;
- peirianneg trafnidiaeth a chludiant.
Bydd sawl cwmni'n cynnig prentisiaethau i ddisgyblion sy'n
gadael yr ysgol, yn ogystal â noddi myfyrwyr. Mewn cwmnïau
o'r fath, yr un fath â'r awdurdodau lleol, gallai peiriannydd gael
ei ddyrchafu maes o law yn rheolwr prosiectau, prif beiriannydd neu
beiriannydd y sir. Mae gyrfa yn ddarlithydd mewn prifysgol
neu goleg yn ddewis arall i'r sawl a chanddo gymwysterau
priodol.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Cyngor Peirianneg: www.engc.org.uk
Sefydliad Peirianwyr y Ffyrdd: www.theihe.org
Sefydliad Peirianwyr Sifil: www.ice.org.uk
SEMTA: www.semta.org.uk
Efallai bod rhagor am hyn ar wefan Gyrfaoedd Cymru
(www.careerswales.com/), yn llyfrgell eich bro neu yn
swyddfa/llyfrgell materion gyrfaoedd eich ysgol.