Mentor dysgu

Cyflwyniad
Mae mentoriaid dysgu'n helpu pobl sy'n wynebu meini tramgwydd ynglŷn â dysgu a chyflawni eu llawn dwf.  Gallen nhw weithio gydag oedolion mae angen cymorth arnyn nhw i feithrin medrau gydol oes.  Ar y llaw arall, efallai y byddan nhw'n nodi plant a phobl ifanc mae perygl y gallen nhw gefnu ar addysg ac yn gweithio gyda nhw i osgoi hynny.  Mae'n bosibl y byddan nhw'n gweithio gyda phlant ac oedolion ac arnyn nhw anableddau dysgu neu gorfforol, hefyd.

Amgylchiadau'r gwaith
Bydd mentor dysgu yn gweithio mewn ysgol gynradd neu uwchradd, yn aml.  Efallai y bydd yn treulio amser yn ymweld â chlientiaid a'u teuluoedd yn eu cartrefi, hefyd.  Fe fydd oriau gwaith yn amrywio ond byddwch chi'n gweithio yn ôl oriau ysgol gan amlaf.   Mae rhai mentoriaid dysgu'n gweithio 37 awr yr wythnos ac mae eraill yn gweithio'n rhan-amser neu'n rhannu swydd.  Bydd angen gweithio gyda'r hwyr weithiau i ymweld â rhieni sydd yn y gwaith drwy'r dydd, er enghraifft.

Gweithgareddau beunyddiol
Mae mentoriaid dysgu'n cynorthwyo athrawon a gweithwyr bugeilio ysgolion i helpu plant i chwalu'r meini tramgwydd sy'n eu rhwystro rhag dysgu a chyflawni eu llawn dwf.  Maen nhw'n cydweithio'n agos ag athrawon, cynorthwywyr ystafell ddosbarth, cynorthwywyr anghenion arbennig a gwirfoddolwyr ystafell ddosbarth i nodi plant ac iddyn nhw lai o gynnydd na'r disgwyl.  Yna, byddan nhw'n helpu athrawon i baratoi cynlluniau gweithredu yn ôl nodau dysgu ac yn helpu plant i gyflawni'r nodau hynny.

Gallai mentor dysgu weithio gyda phlant unigol neu mewn grwpiau bychain.  Bydd y rhan fwyaf o'r gwaith yn ymwneud â helpu plant i wella yn yr ystafell ddosbarth neu mewn gweithgareddau eraill megis amser cinio/gwibdeithiau.  Efallai y byddan nhw'n rhoi cymorth ynglŷn â cholli'r ysgol/absenoldeb, chwarae yn yr iard neu feithrin rhai medrau cymdeithasol.  Byddan nhw'n dal cysylltiadau â theuluoedd neu gynhalwyr y plant i'w hannog i gymryd rhan.  Bydd mentor dysgu yn cysylltu â nifer o sefydliadau, adrannau ac unigolion i ledaenu gwybodaeth.  Fe allai anfon plant i'r gwasanaethau cymdeithasol, y gwasanaethau i'r ifainc, gwasanaethau lles addysg, gwasanaethau prawf a gyrfaoedd, cymorth astudio y tu allan i'r ysgol a mentoriaid gwirfoddol byd busnes a'r gymuned.

Mae rhai mentoriaid dysgu'n gweithio gyda phlant anabl gan, er enghraifft, helpu'r rhai ac arnyn nhw anawsterau dysgu i ddeall a defnyddio iaith arwyddion.  Weithiau, efallai y bydd mentoriaid dysgu yn helpu oedolion i feithrin medrau sylfaenol ynglŷn â llythrennedd a rhifedd.

Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai hanfodol:

  • gallu meithrin perthynas ag amrywiaeth helaeth o bobl a sefydliadau;
  • gallu ennill hyder plant, ysgolion a phobl yn y gymuned a byd busnes;
  • gallu gwrando'n astud;
  • gallu trafod telerau;
  • gallu trefnu a rheoli gweithgareddau'n dda;
  • gwybod am faterion sy'n effeithio ar ddatblygiad plant.

Meini prawf derbyn
Mae angen rhifedd a llythrennedd yn ôl safon dda.  Felly, bydd disgwyl TGAU (A*-C) neu gymhwyster cyfwerth yn y Gymraeg/Saesneg a mathemateg.  Yn aml, fe fydd angen profiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc.

Mewn rhai achosion, gallai fod angen cymwysterau ym maes gofal cymdeithasol neu addysg.  Gallai fod modd astudio ar gyfer cymwysterau galwedigaethol cenedlaethol yn y gwaith mewn meysydd megis gofal, gofal blynyddoedd cynnar, datblygu dysgu neu wasanaethau dysgu, fodd bynnag.  Wrth weithio gyda phobl anabl, gallai fod angen gwybodaeth a medrau arbenigol megis iaith arwyddion.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Gallai fod cyfleoedd i symud i nifer o rolau cysylltiedig eraill megis cynorthwywr dysgu, cynorthwywr anghenion arbennig neu gynorthwywr gofal.  Ar ôl rhagor o hyfforddiant a chymwysterau, gallai fod modd symud i feysydd megis dysgu, therapi lleferydd ac iaith, gwaith ieuenctid a gwaith cymdeithasol.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Action on Hearing Loss: www.actiononhearingloss.org.uk
Cyngor Gofal Cymru: www.ccwales.org.uk
Adran Addysg San Steffan: www.education.gov.uk
Anableddau Cymru: www.disabilitywales.org/
Swyddi ym maes addysg: www.eteach.com
Cyngor Proffesiynolion Iechyd a Gofal: www.hpc-uk.org
Dysgu Gydol Oes y DG: www.lifelonglearning.co.uk
Cymdeithas Gofal Cymdeithasol: www.socialcareassociation.co.uk

Efallai bod rhagor am hyn ar wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), yn llyfrgell eich bro neu yn swyddfa/llyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links