Gofalu am eich cymuned yn rhan o wasanaethau ieuenctid
llywodraeth leol
Cyflwyniad
Un o elfennau unigryw a neilltuol gwaith ieuenctid ydy'r ffaith ei
fod e'n seiliedig ar berthynas wirfoddol rhwng pobl ifainc a
gweithwyr ieuenctid. Mae gwaith ieuenctid yn rhoi cymorth i bobl
ifainc gyda'u datblygiad personol a chymdeithasol ac yn eu galluogi
nhw i gyrraedd eu llawn dwf. Mae'n rhoi llais i bobl ifainc ac yn
rhoi'r gallu iddyn nhw gymryd rhan yn eu cymunedau a chael
dylanwad. Trwy weithgareddau addysg anffurfiol, hwyl, ymestynnol ac
sy'n annog dysgu, mae gweithwyr ieuenctid llywodraeth leol yn rhoi
cymorth i bobl ifainc ddysgu amdanyn nhw eu hunain, pobl eraill a
chymdeithas. Mae gweithgareddau anffurfiol da yn chwarae rhan
bwysig o ran rhoi cymorth i bobl ifainc lwyddo mewn byd addysg
ffurfiol.
Yr Amgylchfyd Gwaith
Mae gweithwyr ieuenctid llywodraeth leol yn gweithio mewn nifer o
leoliadau, gan gynnwys clybiau ieuenctid, canolfannau cymuned,
neuaddau pentref, eglwysi, mosgiau, ysgolion a mannau eraill lle
mae pobl ifainc yn ymgasglu a chymdeithasu, megis arcedau difyrion,
caffis a chanol dinasoedd/trefi. Mae gweithwyr ieuenctid yn
gweithio 37 awr yr wythnos, ond mae hyn yn cynnwys cryn dipyn o
waith gyda'r nos ac ar y penwythnos.
Gweithgareddau bob dydd
Yn amlach na pheidio, mae gwasanaethau ieuenctid cynghorau lleol
yn cael eu darparu mewn partneriaeth â rhwydwaith o sefydliadau
gwirfoddol a grwpiau cymuned gwahanol. Mae'r rhain i gyd yn
rhannu'r un nodau ac amcanion, megis rhoi cymorth i bobl ifainc
ddatblygu cysylltiadau a hunaniaethau mwy cadarn, parchu a
gwerthfawrogi gwahaniaethau, a rhoi llais i bobl ifainc. Fel rheol,
mae gweithwyr ieuenctid llywodraeth leol yn gweithio gyda phobl
ifainc rhwng 13 a 19 oed. Serch hynny, mae'r amrediad oedran yng
Nghymru wedi'i ymestyn o 11 hyd at 25. Mae gwaith ieuenctid yn
digwydd mewn ystod o sefyllfaoedd a lleoliadau:
- Gwaith ieuenctid mewn adeilad - mewn canolfan ieuenctid neu
glwb ieuenctid, mae'r gwaith yma yn cynnwys paratoi gweithgareddau
hwyl, addysgol ac sy'n gymorth i bobl ifainc feithrin sgiliau a
magu hyder. Gall hyn gynnwys chwaraeon, drama a'r celfyddydau,
ymweliadau allanol, profiadau preswyl, cymryd rhan mewn heriau
megis cynllun Gwobr Dug Caeredin, cyrsiau hyfforddiant i feithrin
sgiliau megis TGCh neu gyfathrebu, neu gymryd rhan yn y cyngor
ieuenctid lleol.
- Gwaith ieuenctid yn y maes - mae'r gwaith yma yn cynnwys pennu
a meithrin cysylltiadau gyda'r bobl ifainc hynny y mae'u bywydau yn
anhrefnus ac sy'n cael dilyn gorchmynion a threfn yn anodd. Mae
Gweithwyr Ieuenctid yn y Maes yn meithrin cysylltiadau â'r bobl
ifainc yma yn eu cynefinoedd eu hunain, megis mewn parciau, ar y
stryd neu mewn canolfannau siopa i roi cymorth iddyn nhw ddiwallu'u
hanghenion trwy gydweithio'n agos ag asiantaethau partner. Mae hyn
yn cynnwys galluogi pobl ifainc i fanteisio ar ystod o gyfleoedd i
gael cymorth gyda materion megis iechyd rhyw, cyffuriau ac alcohol,
byd gwaith ac addysg.
- Gwaith ieuenctid wedi'i dargedu - dyma waith prosiect arbenigol
sydd â'r nod o ddod â grwpiau penodol megis pobl ifainc ddu,
merched ifainc, pobl ifainc anabl, pobl ifainc hoyw a deuryw,
cynhalwyr ifainc, rhieni ifainc neu bobl ifainc sydd heb waith yn
rhan o bethau. Yn ogystal â hynny, gall y gwaith yma gynnwys
gweithio gyda phobl ifainc sydd wedi'u diarddel o'r ysgol, y sawl
sydd wedi troseddu, neu'r sawl sy'n camddefnyddio cyffuriau neu
alcohol.
Mae gweithwyr ieuenctid llywodraeth leol yn treulio cryn dipyn o
amser yn gweithio gyda phobl ifainc wyneb yn wyneb i roi cymorth
iddyn nhw gymryd rhan mewn gweithgareddau, eu hannog nhw i
ail-gydio mewn addysg ffurfiol, a rhoi cymorth iddyn nhw
ddatblygu'u sgiliau, ennill profiadau a chymwysterau. Serch hynny,
mae'r gwaith yn gofyn am waith cynllunio, gweinyddu a denu staff
cymorth a gwirfoddolwyr.
Sgiliau a Diddordebau
Mae gofyn bod gweithwyr ieuenctid llywodraeth leol yn meddu
ar:
- y gallu i feithrin a chynnal cysylltiadau â phobl
ifainc;
- y gallu i ddod â chymunedau yn rhan o bethau i ddibenion
hyrwyddo lles pobl ifainc;
- y gallu i gyfathrebu â phobl ifainc o gefndiroedd
gwahanol;
- sensitifrwydd, dangos parch at eraill a'r gallu i ddeall
anghenion pobl ifainc;
- meddwl agored a sgiliau gwrando da;
- dawn greadigol a'r gallu i ysgogi eraill;
- ymagwedd gadarnhaol tuag at waith partneriaeth gyda sefydliadau
eraill;
- sgiliau trefnu a chynllunio da.
Gofynion Mynediad
Mae nifer o lwybrau i waith ieuenctid llywodraeth leol. Mae modd i
chi weithio gyda phobl ifainc heb gymwysterau, ond mae hyn dim ond
yn bosibl os ydych chi'n ymroi eich hunan i ddilyn rhaglen
gydnabyddedig o hyfforddiant i ennill cymhwyster. Mae dau fath o
gymhwyster ar gael: cymwysterau rhag-broffesiynol/galwedigaethol a
chymwysterau proffesiynol. Yn amlach na pheidio, mae cymwysterau
rhag-broffesiynol/galwedigaethol ar gael trwy weithio fel gweithiwr
cymorth ieuenctid ac ennill cymwysterau N/SVQ neu Gymwysterau
Galwedigaethol perthnasol (VRQ) mewn Gwaith Ieuenctid. Mae'r rhain
ar gael ar lefel 2 a 3.
Ers mis Medi 2010, mae modd ennill gradd mewn gwaith ieuenctid.
Golyga hyn bod dim ond modd cydnabod unigolion sydd heb ennill
Gradd mewn Gwaith Ieuenctid fel gweithwyr cymorth ieuenctid ac nid
gweithwyr ieuenctid cymwys cenedlaethol. Mae nifer o gymwysterau
proffesiynol, y mae'r Asiantaeth Ieuenctid Genedlaethol yn eu
hachredu, i'w cael mewn gwaith ieuenctid:
- Diploma Addysg Uwch: cwrs amser llawn dros ddwy flynedd a chwrs
rhan-amser cyfwerth, rhai elfennau yn y gweithle
- Gradd Sylfaen: cwrs amser llawn dros ddwy flynedd a chwrs
rhan-amser cyfwerth, rhai elfennau yn y gweithle
- BA (anrh): cwrs amser llawn dros dair blynedd a chwrs
rhan-amser cyfwerth
- Tystysgrif Ôl-radd / Diploma Ôl-radd: cwrs amser llawn dros
gyfnod o flwyddyn a chwrs rhan-amser cyfwerth
- MA: cwrs blwyddyn a chwrs rhan-amser cyfwerth
Mae enwau cyrsiau'n amrywio, ac yn ogystal â gwaith ieuenctid
gall gynnwys: astudiaethau ieuenctid a chymuned, astudiaethau
ieuenctid a phlentyndod, neu addysg gymuned. Efallai bydd rhai
cyrsiau rhan amser ar gael ar sail dysgu o bell. Mae profiad
blaenorol (gwaith cyflogedig neu wirfoddol) o weithio gyda phobl
ifainc o fantais.
Cyfleoedd a Rhagolygon ar gyfer y dyfodol
Efallai bydd gweithiwr ieuenctid llywodraeth leol yn dechrau ar ei
yrfa yn gwneud gwaith gwirfoddol, neu'n weithiwr cymorth ieuenctid.
Trwy ennill cymwysterau perthnasol, mae modd symud ymlaen i fod yn
weithiwr ieuenctid cyn symud ymlaen i fod yn uwch weithiwr
ieuenctid neu'n weithiwr ieuenctid sy'n gyfrifol am garfan o bobl o
bosibl. Gall llwybrau dilyniant gynnwys meysydd eraill o
wasanaethau i blant, er enghraifft, gwaith cymdeithasol neu fyd
addysg, neu wasanaethau hamdden.
Rhagor o Wybodaeth a Gwasanaethau
Cyngor Gofal Cymru www.cgcymru.org.uk
Y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal www.hpc-uk.org
Y Cyngor Cenedlaethol am Wasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol www.ncvys.org.uk
Asiantaeth Ieuenctid Genedlaethol www.nya.org.uk
I gael rhagor o fanylion am y maes gwaith yma, cysylltwch â
Gyrfa Cymru (www.gyrfacymru.com) neu alw
heibio i'ch llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd neu lyfrgell
gyrfaoedd yr ysgol.