Cyflwyniad
Mae pethau wedi newid gryn dipyn ers yr hen ddyddiau pan
oedd y llyfrgelloedd yn llawn llyfrau'n hel llwch a staff yn annog
pobl i fod yn dawel! Mae'r llyfrgelloedd y dyddiau yma dan eu
sang gyda'r wybodaeth sydd mor hanfodol inni, yn aml. Mae'r
llyfrau'n dal yno ond mae digon o gylchgronau, crynoddisgiau,
casetiau, recordiau, taflenni cerddoriaeth, mapiau, lluniau a
fideos hefyd. Yn ogystal â'r we, wrth gwrs.
Mae cynorthwywyr y llyfrgell yn gweithio'n rhan o dîm sy'n
rheoli'r wybodaeth honno ac yn ei rhoi ar gael i bobl. Maen
nhw'n helpu llyfrgellwyr proffesiynol a rheolwyr gwybodaeth, gan
ofalu bod llyfrgelloedd y cynghorau a'r ysgolion yn gweithio'n
dda. Maen nhw'n rhoi llyfrau a deunyddiau eraill ar fenthyg
ac yn helpu pobl i ddod o hyd i lyfrau a ffynonellau
penodol. Mae dros 23,000 o gynorthwywyr llyfrgell yn adrannau
gwasanaethau hamdden y cynghorau lleol.
Amgylchiadau'r gwaith
Fel arfer, bydd cynorthwywyr yn gweithio mewn llyfrgell
fawr yng nghanol y ddinas, llyfrgell gyhoeddus leol neu lyfrgell
sy'n rhan o goleg/ysgol. Bydd rhai cynorthwywyr yn treulio
peth amser mewn nifer o wahanol lyfrgelloedd. Bydd eraill, yn
arbennig yn yr ardaloedd gwledig, yn gweithio mewn llyfrgelloedd
teithiol - bysiau a faniau sy'n ymweld ag amryw leoedd ym mhob bro
i gynnig deunyddiau na fydden nhw ar gael i'r trigolion fel
arall.
Gall llyfrgell fod mewn sawl math o adeilad boed un hen iawn
sydd wedi'i addasu neu un newydd sbon sydd wedi'i godi'n bwrpasol.
Gall y gwaith fod yn ymestynnol o safbwynt corfforol - plygu,
codi, cario llyfrau, cerdded trwy'r llyfrgell a dringo ysgol, hyd
yn oed. Bydd digon o lwch yno, yn aml.
Bydd yr oriau'n amrywio yn ôl yr amserau agor a chau.
Gallai fod angen gweithio yn ôl rhestr shifftiau, gyda'r nos ac ar
ddydd Sadwrn, hefyd.
Gweithgareddau beunyddiol
Un o'r gorchwylion mwyaf yw trin a thrafod ymholiadau gan
ddefnyddwyr - dros y ffôn ac wrth y cownter fel ei gilydd. O
wneud hynny, gallai fod angen eu helpu i ddod o hyd i lyfrau,
defnyddio ffynonellau cyfeirio, cynnal ymchwil a defnyddio offer
megis peiriant llungopïo, darllenyddmicrofichea chyfrifiadur.
Dyma'r gorchwylion arferol:
- Gweithio y tu ôl i'r cownter gan roi a derbyn llyfrau ar
fenthyg, cofnodi hynny ar gyfrifiadur, casglu dirwyon am ddod â
llyfrau yn ôl yn hwyr, neilltuo llyfrau, cofrestru darllenwyr
newydd ac adnewyddu aelodaeth rhai cyfredol.
- Cadw'r llyfrgell yn daclus a dodi llyfrau ar y silffoedd yn ôl
trefn yr wyddor.
- Anfon llythyrau i atgoffa pobl bod rhaid dod â llyfrau yn
ôl.
- Trefnu benthyciadau o lyfrgelloedd eraill.
- Cynnal a chadw llyfrau (megis glynu tudalennau rhydd) neu
drefnu iddyn nhw gael eu trwsio.
- Archebu deunyddiau newydd yn ôl gorchmynion y
llyfrgellydd.
- Helpu llyfrgellwyr i gofnodi deunyddiau newydd mewn catalog,
pennu codau dosbarthu a diweddaru cofnodion cyfrifiadurol.
Yn ogystal â chynnig llyfrau, mae rhai llyfrgelloedd yn
ganolfannau cymunedol. Os felly, gallai fod disgwyl i
gynorthwywyr gymryd rhan mewn gweithgareddau arbennig megis
ddarllen straeon, tynnu lluniau a phaentio gyda phlant a
gweithgareddau eraill ar gyfer amryw garfanau yn y fro.
Medrau a diddordebau
Mae'r gallu i drin a thrafod pobl yn hanfodol - dylech
chi fod yn un amyneddgar, cyfeillgar a hyderus sy'n hoffi helpu
pobl - gan y byddwch chi'n ymwneud â phobl o bob lliw a llun.
Mae cof da, meddwl ymchwilgar a ffordd drefnus o weithio'n bwysig
wrth gynnal ymchwil. Mae angen medrau sylfaenol o ran trin a
thrafod cyfrifiaduron a dylech chi allu gweithio'n rhan o
dîm. Fe fyddai gwir ddiddordeb mewn llyfrau a chronfeydd
gwybodaeth o fantais.
Meini prawf ymgeisio
Bydd angen o leiaf 4 TGAU (A-C) - gan gynnwys Saesneg -
ar gyfer y rhan fwyaf o swyddi, neu Gymhwyster Galwedigaethol
Cenedlaethol. I rai swyddi, bydd angen Safon Uwch neu
gymhwyster cyfwerth megis tystysgrif/diploma Cyngor Addysg Busnes a
Thechnoleg, neu lefel III Uwch Gymhwyster Galwedigaethol
Cenedlaethol. Yn y gwaith y bydd y rhan fwyaf o'r
hyfforddiant, o dan oruchwyliaeth staff profiadol. Fe fydd rhai
llyfrgelloedd yn annog eu cynorthwywyr i astudio ar gyfer
Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (lefelau 2, 3 a 4) ym maes
'Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth'. Mae Sefydliad y Ddinas
a'r Urddau ac Awdurdod Cymwysterau'r Alban yn cynnig cyrsiau ym
maes gwyddoniaeth llyfrgell a gwybodaeth, naill ai'n rhan amser neu
o hirbell, i'r rhai sy'n gweithio yn y llyfrgelloedd. Gallai
prentisiaethau ym maes gwasanaethau llyfrgell a gwybodaeth fod ar
gael, hefyd.
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Gall cynorthwywyr llyfrgell gael eu dyrchafu i rôl
oruchwyliol, sef uwch gynorthwywr. Mae modd i gynorthwywr a
chanddo radd prifysgol ac o leiaf flwyddyn o brofiad fod yn
llyfrgellydd proffesiynol neu reolwr gwybodaeth trwy astudio ar
gyfer cymhwyster ar ôl graddio. Mae cyfleoedd y tu allan i'r
cynghorau hefyd - mewn prifysgol, coleg, cwmnïau diwydiannol a
masnachol, gwasanaethau meddygol, adrannau gwladol a llyfrgelloedd
arbenigol, er enghraifft. Yn y trefi y mae'r cyfleoedd
mwyaf.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Prentisiaethau: www.apprenticeships.org.uk
Sefydliad Breiniol Proffesiynolion Llyfrgelloedd a Gwybodaeth:
www.cilip.org.uk
Sefydliad Rheoli Sustemau Gwybodaeth: www.imis.org.uk
Cymdeithas Llyfrgelloedd yr Ysgolion: www.sla.org.uk
Sefydliad Breiniol TG: www.bcs.org.uk
Mae Gyrfa Cymru wedi cynhyrchu erthygl Sbotolau ar yrfaoedd yn y
diwydiannau creadigol:
https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-diwydiannau-creadigol/
Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/)
y llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich
ysgol.