Gyrrwr / cynorthwy-ydd gofal

Cyflwyniad
Prif swyddogaeth gyrrwr / cynorthwy-ydd gofal yw cludo pobl hŷn, pobl sydd ag anableddau a'r sawl sydd â salwch tymor hir, rhwng eu cartrefi a chanolfannau gofal oriau dydd neu ganolfannau gweithgareddau. Yn ogystal â chludo teithwyr, mae gofyn bod y gyrwyr / cynorthwywyr gofal yn sicrhau bod cleientiaid yn ddiogel ac yn gyfforddus yn ystod y daith.

Yr Amgylchfyd Gwaith
Mae gyrwyr / cynorthwywyr gofal yn treulio cryn dipyn o amser y tu allan ac mewn cerbyd (bws bach sydd wedi'i addasu ar gyfer pobl anabl neu deithwyr hŷn yn amlach na pheidio).  Er bydd gofyn weithiau i yrwyr / cynorthwywyr gofal weithio ar eu pennau'u hunain, maen nhw'n rhan o dîm ac efallai bydd gofyn iddyn nhw roi cymorth i yrwyr eraill, er enghraifft os oes rhywun wedi torri i lawr. Efallai bydd cydymaith yn gallu rhoi cymorth o ran rhoi gofal i deithwyr hefyd.

Gall yr oriau gwaith amrywio yn ôl y galw. Gall diwrnod arferol fod rhwng 8.30am a 11.00am yn cludo pobl i ganolfannau neu weithgareddau ac wedyn rhwng 3.00pm a 5.00pm yn eu cludo nhw yn ôl i'w cartrefi. Mae rhai awdurdodau yn cyflogi gyrwyr amser llawn. Efallai bydd gofyn gweithio gyda'r nos neu ar y penwythnos.  Byddwn ni'n darparu gwisg, gan gynnwys dillad llachar a dillad diogelwch megis tabard a menyg. Yn ogystal â hynny, efallai byddwn ni'n darparu ffonau symudol a phecyn cymorth cyntaf.

Gweithgareddau bob dydd
Mae'r diwrnod nodweddiadol yn dechrau gyda gwirio'r cerbyd (olew, dŵr, pwysedd teiars a thanwydd). Mae'r gyrrwr / cynorthwy-ydd gofal yn derbyn rhestr o enwau a chyfeiriadau teithwyr ac yn cynllunio'r llwybr mwyaf cyfleus ar gyfer casglu teithwyr. Gan ddibynnu ar nifer y teithwyr, lefel y gofal sydd ei angen a maint y cerbyd, gall gymryd nifer o oriau i gasglu pawb a'u cludo nhw yn ddiogel. Hwyrach y bydd angen mwy nag un daith. Gan ddibynnu p'un ai ydyn nhw'n mynd â chleientiaid i ganolfan oriau dydd neu i weithgaredd penodol, efallai bydd gyrwyr / cynorthwywyr gofal yn gwneud llwybr gwahanol bob dydd.

Mewn theori dylai cleientiaid fod yn barod i adael y tŷ, ond yn ymarferol efallai bydd gofyn i yrwyr / cynorthwywyr gofal roi cymorth i rai cleientiaid wrth adael y cartref, gan ofalu'u bod nhw yn gwisgo cot, bod y tŷ dan glo a bod yr allweddi yn ddiogel mewn bag neu boced. Yn ogystal â hynny, gall gymryd peth amser i ofalu bod cadeiriau olwyn yn sownd a bod teithwyr yn gwisgo gwregysau.

Ar gyrraedd y ganolfan, bydd y gyrrwr / cynorthwy-ydd gofal yn rhoi cymorth i deithwyr ddod allan o'r cerbyd yn ddiogel. Gall hyn gynnwys codi a gostwng y lifft neu ramp i ganiatáu i'r sawl sy'n defnyddio cadeiriau olwyn adael y cerbyd a rhoi help llaw i eraill ddisgyn yn ddiogel.  Yn hwyrach yn y dydd, bydd y gyrrwr/cynorthwy-ydd gofal yn cludo cleientiaid yn ôl i'w cartrefi.  Mae gofyn bod gyrwyr / cynorthwywyr gofal yn cadw'r cerbyd yn lân ac yn daclus.

Sgiliau a Diddordebau
Bydd gyrwyr / cynorthwywyr gofal angen:

  • bod yn yrwyr gofalus a diogel;
  • dangos gofal tuag at deithwyr;
  • parodrwydd i siarad â phobl ac yn awyddus i wneud i deithwyr deimlo'n gyfforddus;
  • synnwyr cyffredin;
  • bod yn gorfforol iach;
  • amynedd.

Gofynion Mynediad
Mae gofyn bod gyda chi drwydded yrru lawn. Fel arfer, bydd gofyn i chi fod yn gyrru ers blwyddyn o leiaf. Gan ddibynnu ar y math o gerbyd bydd gofyn i chi'i yrru, efallai bydd gofyn i chi gael math penodol o drwydded yrru neu gymryd prawf gyrru ychwanegol.

Gallai profiad blaenorol o weithio gyda phobl ym maes cymorth / gofal cymdeithasol fod yn ddefnyddiol iawn. Mewn achosion penodol, fe allai hyn fod yn hanfodol. Mae rhai cynghorau yn gofyn am gymhwyster NVQ Lefel 2 mewn Gofal.

Byddwch chi'n cael hyfforddiant o ran gyrru'r cerbydau. Mae modd cael hyfforddiant mewn materion eraill hefyd, megis cymorth cyntaf, diogelwch tân a symud a thrafod cleientiaid. Mae'n bosibl bydd cyfle i ddilyn cwrs NVQ/SVQ mewn Gofal yn ystod eich cyfnod yn y swydd.

Cyfleoedd a Rhagolygon ar gyfer y dyfodol
Gyda sawl blwyddyn o brofiad a sgiliau da o ran trefnu a rheoli pobl, mae'n bosibl dod yn flaen yrrwr neu'n rheolwr trafnidiaeth yn gyfrifol am fflyd o gerbydau a gyrwyr. Yn ogystal â hynny, efallai y bydd hi'n bosibl symud i swyddi gofal cymdeithasol penodol.

Rhagor o Wybodaeth a Gwasanaethau
Cyngor Gofal Cymru www.cgcymru.org.uk
Gofal Cymuned www.communitycare.co.uk
Gwirfoddolwyr Gwasanaethau Cymuned www.csv.org.uk/socialhealthcare
Yr Adran Iechyd www.dh.gov.uk
Cyngor Iechyd a Phroffesiynau Gofal Iechyd www.hpc-uk.org
Asiantaeth Cartrefi a Chymunedau www.homesandcommunities.co.uk
Sgiliau Gofal www.skillsforcare.org.uk
Cymdeithas Gofal Cymdeithasol www.socialcareassociation.co.uk

I gael rhagor o fanylion am y maes gwaith yma, cysylltwch â Gyrfa Cymru (www.gyrfacymru.com) neu alw heibio i'ch llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd yr ysgol.

Related Links