Cynorthwywr amser cinio

Cyflwyniad
Mae cynghorau lleol yn cynnig prydau o fwyd ar amser cinio i blant yn yr ysgol.  Ar ben hynny, maen nhw'n cynnig cyfleusterau i blant y byddai'n well gyda nhw fwyta cinio sydd wedi'i baratoi gartref.  Er mwyn rhoi cyfle i'r athrawon gael seibiant rhag gweithio gyda'r plant, cael eu cinio eu hunain a chynnal cyfarfodydd yn ôl yr angen, mae'r cynghorau'n cyflogi goruchwylwyr i fod ar ddyletswydd dros amser cinio.  Mae amryw enwau ar weithwyr o'r fath megis goruchwylwyr canol dydd, rheolwyr amser cinio a chynorthwywyr amser cinio.

Amgylchiadau'r gwaith
Yn yr ysgolion cynradd y maen nhw'n gweithio fel arfer, er bod staff amser cinio gan rai ysgolion uwchradd i oruchwylio'r disgyblion iau.  Mae'r gweithle'n swnllyd iawn fel arfer, gan fod y plant yn cael cyfle i ymlacio ar ôl gweithio yn y dosbarth drwy'r bore.  Rhaid gweithio yn y ffreutur a/neu yn yr awyr agored lle gallai fod yn oer - ond nid yn wlyb, gan amlaf.  Mae'r swydd yn un ran-amser am ryw awr a hanner bob dydd rhwng dydd Llun a dydd Gwener yn ystod tymor yr ysgol.  Yn aml, bydd yn bosibl gweithio llai na phum diwrnod.

Gweithgareddau beunyddiol
Mae cynorthwywyr amser cinio yn gyfrifol am oruchwylio plant yn ystod amser cinio.  Dechrau'r gwaith yw goruchwylio'r plant tra bôn nhw'n bwyta.  Byddan nhw'n gwylio plant sy'n dewis bwyd wrth gownter y ffreutur neu'n cymryd plât oddi wrth un o staff y gegin (yn ôl y modd mae'r ysgol yn cyflwyno bwyd).  Byddan nhw'n eu gwylio pan fôn nhw'n cario'r plât neu'r hambwrdd yn ôl i'r byrddau, gan gadw llygad ar faterion diogelwch neu helpu unrhyw blant sy'n cael anawsterau.

Rhaid gwylio'r plant tra bôn nhw'n bwyta wedyn, gan eu hannog i ymddwyn yn dda, rhwystro unrhyw ymddygiad anaddas a chamu i mewn os gwelan nhw unrhyw ffrae.  Mae'r gorchwyl hwnnw'n cynnwys goruchwylio plant sy'n bwyta eu bwyd eu hunain wrth y byrddau sydd wedi'u rhoi ar gael iddyn nhw.  Ar ôl cinio, bydd dyletswyddau'n parhau yn yr iard neu, os nad oes modd i'r plant chwarae yn yr awyr agored o achos y tywydd, yn y neuadd neu'r ystafelloedd dosbarth.  Rhaid cadw llygad ar y plant tra bôn nhw'n chwarae, gan gamu i mewn eto os gwelan nhw unrhyw ffraeo ac ymladd ac os gwelan nhw fod plant ar fin gwneud rhywbeth peryglus.

Rhaid rhwystro'r plant rhag siarad â dieithriaid hefyd, a gofalu bod unrhyw ymwelwyr yn mynd i swyddfa'r ysgol.  Efallai y bydd rhaid cysuro plant neu gydymdeimlo â nhw lle maen nhw wedi brifo.  Lle bo angen cymorth cyntaf, rhaid i blant fynd i swyddfa'r ysgol.  Lle bo problemau na all cynorthwywyr amser cinio eu datrys, rhaid mynd at fwrsar yr ysgol neu'r athro sydd ar ddyletswydd.

Gallai fod angen gofalu am lanweithdra personol y plant a newid eu dillad, hefyd.  Fe fydd y dyletswyddau mewn rhai ysgolion yn cynnwys gosod byrddau a chadeiriau yn neuadd yr ysgol, clirio'r byrddau a rhoi'r dodrefn yn ôl ar ôl cinio.

Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai hanfodol: 

  • hoffi plant;
  • mwynhau gweithio gyda phlant;
  • bod yn fodlon gwrando ar broblemau neu gysuro plant gofidus;
  • gallu cadw trefn heb ormod o ddisgyblu, gan wybod pryd i fod yn gadarn;
  • bod yn fodlon treulio rhan o amser cinio yn yr awyr agored yn ôl y tywydd.

Meini prawf ymgeisio
Does dim angen unrhyw gymwysterau penodol.  Er mai merched sydd wedi magu eu plant eu hunain fydd yn gwneud y gwaith hwn fel arfer, mae'n addas i bawb y byddai oriau o'r fath yn hwylus iddo ar yr amod bod ganddo'r rhinweddau priodol.  Dim ond pobl dros 18 oed y bydd sawl cyngor yn eu derbyn, fodd bynnag.

Prifathrawon fydd yn rhoi'r hyfforddiant, gan amlaf.  Fe fydd rhai cynghorau'n trefnu hyfforddiant dechreuol pan fo nifer o oruchwylwyr newydd yn ogystal â threfnu iddyn nhw fynychu cyrsiau i ennill cymwysterau cydnabyddedig ym maes cymorth cyntaf.

Gan y byddwch chi'n ymwneud â phlant, bydd y cyngor yn gofyn i'r heddlu wirio'ch cefndir.  Dyw'r ffaith bod hanes troseddol gan ymgeisydd ddim yn golygu na fydd y cyngor yn ei gyflogi, o reidrwydd.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Efallai mai dim ond un goruchwyliwr fydd mewn ysgol fechan.  Mewn ysgol fawr neu goleg, gallai fod tri neu ragor, gan gynnwys uwch oruchwyliwr.

Mae modd cael eich dyrchafu'n uwch oruchwyliwr sy'n gyfrifol am hyn a hyn o staff, felly.  Mae rhai goruchwylwyr amser cinio a hoffai weithio rhagor o oriau gyda phlant wedi mynd ymlaen i gael eu hyfforddi'n gynorthwywyr ystafell ddosbarth.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Mae gwybodaeth am waith goruchwylwyr amser cinio gan adrannau perthnasol eich cyngor.

Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich ysgol.

Related Links