Gweithiwr pwll nofio

Diddanu'ch cymuned yng ngwasanaethau hamdden llywodraeth leol

Cyflwyniad
Mae gweithwyr pwll nofio ym maes llywodraeth leol yn gofalu am iechyd a diogelwch pobl sy'n defnyddio pyllau nofio yng nghanolfannau hamdden y cynghorau.  Achubwr bywydau yw enw arall i'r swydd.

Amgylchiadau'r gwaith
Mae gweithwyr pwll nofio naill ai'n sefyll ar lannau'r pwll neu'n eistedd mewn cadair uchel fel y gallan nhw weld y pwll i gyd.  Maen nhw mewn gwisg unffurf fel y bydd modd eu hadnabod yn hawdd.  Fel arfer, maen nhw ar ddyletswydd mewn timau.

Gweithgareddau beunyddiol
Mae gweithwyr pwll nofio llywodraeth leol yn monitro'r pwll i ofalu bod y defnyddwyr yn ddiogel ac nad oes neb mewn trafferthion.  Gallai'r dyletswyddau gynnwys y rhai canlynol:

  • chwilio am nofwyr sy'n ymddangos yn anhyderus neu'n debygol o fynd i ddŵr dwfn;
  • gwylio i ofalu nad oes neb yn rhedeg ar hyd glannau'r pwll, yn neidio i'r dŵr yn beryglus neu'n achosi niwsans i ddefnyddwyr eraill;
  • herio unrhyw ymddygiad gwael trwy chwibanu, gofyn i bobl ymddwyn mewn modd derbyniol neu fynnu iddyn nhw adael y pwll;
  • achub nofwyr sydd mewn perygl naill ai trwy daflu rhaff iddyn nhw neu blymio i'r pwll;
  • clirio'r pwll lle bo argyfwng;
  • dadebru rhywun ar lan y pwll lle bo angen.

Pan nad ydyn nhw o gwmpas y pwll, mae'r gweithwyr yn gyfrifol am lanhau tai bach ac ystafelloedd gwisgo.  Mae rhai wedi sefyll arholiad athro nofio ac yn gallu ennill rhagor o arian trwy gynnig gwersi nofio.

Medrau a diddordebau
Mae angen y canlynol:

  • gallu nofio'n dda;
  • gallu canolbwyntio a gwylio'n dda;
  • mwynhau gweithio gyda phobl o bob lliw a llun;
  • agwedd gyfeillgar a chymwynasgar;
  • gallu bod yn gadarn a siarad yn awdurdodol;
  • gallu ymateb yn gyflym, heb gynhyrfu, mewn argyfwng. 

Meini prawf derbyn
Fel arfer, mae angen cymhwyster cenedlaethol Achubwr Bywydau Pwll Nofio ar y rhai a hoffai weithio mewn pwll nofio er y gallai medal efydd Cymdeithas Frenhinol Achub Bywydau fod yn dderbyniol.  Gallai rhai canolfannau hamdden fod yn fodlon cyflogi pobl heb na'r naill na'r llall ar yr amod eu bod nhw'n gallu nofio'n dda ac yn ennill cymhwyster o'r fath cyn pen tri mis ar ôl dechrau yn y swydd.  Gallai tystysgrif ym maes cymorth cyntaf fod o fantais wrth ymgeisio, hefyd.  Dim ond er gwybodaeth mae manylion y cyflogau am y gallai fod cytundebau lleol ar waith.  Cysylltwch â'ch cyngor i gael rhagor o wybodaeth am gyflogau swyddi yno.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Gallai fod modd symud i rannau eraill o waith hamdden megis hyfforddwr chwaraeon neu ffitrwydd, gweithiwr chwarae neu gydlynydd gweithgareddau hamdden.  Gyda rhagor o brofiad a chymwysterau, mae'n bosibl symud i waith rheoli hamdden.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Sefydliad Breiniol Rheoli Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol: www.cimspa.co.uk
Cymdeithas yr Athrawon Nofio: www.sta.co.uk
Cymdeithas Brenhinol Achub Bywydau'r DG: www.lifesavers.org.uk
SkillsActive www.skillsactive.com
Gwefan gyrfaoedd Skills Active: www.skillsactive.com/careers

Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links