Cyflwyniad
Mae chwaraeon a ffitrwydd yn elfennau pwysig o fywydau llawer o
bobl, ac maen nhw'n dod yn fwyfwy poblogaidd. Mae'r cyngor
lleol yn cynnal canolfan hamdden neu chwaraeon yn y rhan fwyaf o
drefi. Gall y rheiny fod ar ffurf canolfan fechan ac ynddi
gampfa neu un fawr lle mae popeth rhwng pwll nofio, llawr sglefrio
a'r gwersi ffitrwydd diweddaraf. A chithau'n rheolwr
cyfleusterau chwaraeon, byddwch chi'n gyfrifol am ofalu bod popeth
yn gweithio'n esmwyth yn ogystal â bodloni'r cyhoedd, trefnu a
datblygu gwasanaethau newydd a gofalu eu bod yn hysbys ymhlith eich
cwsmeriaid.
Amgylchiadau'r gwaith
Mae rheolwr cyfleusterau chwaraeon yn gweithio yn swyddfa ei
ganolfan mewn lle glân a chynnes. Os ydych chi'n gyfrifol am
reoli nifer o ganolfannau, bydd angen trwydded yrru arnoch chi yn
ôl pob tebyg am y byddwch chi'n teithio o'r naill i'r llall, gan
ofalu bod popeth yn gweithio'n dda a datrys unrhyw
anawsterau. Mae'n debygol y byddwch chi'n gweithio mewn
dillad chwaraeon cyfforddus ac efallai y byddwch chi mewn gwisg
unffurf fel eich staff - crys chwys, trwseri rhedeg a daps, er
enghraifft. Er y bydd eich staff yn gweithio shifftiau, mae'n
fwy tebygol y byddwch chi'n gweithio yn ôl oriau arferol y cyngor -
37 yr wythnos.
Gweithgareddau beunyddiol
Ar ddechrau'r dydd, rhaid bwrw golwg ar bopeth ddigwyddodd tra
oeddech chi bant - gan siarad â'r staff i glywed a oes angen datrys
unrhyw broblem a cherdded trwy'r ganolfan i ofalu bod popeth yn
lân, yn groesawgar ac yn effeithlon. Ar ôl clywed am unrhyw
broblemau, rhaid gofalu y bydd rhywun yn mynd i'r afael â nhw -
naill ai chi neu'ch staff. Ar ôl dychwelyd i'ch swyddfa, fe
fyddwch chi'n trefnu gweddill y dydd. Mae'n debygol y bydd
nifer o reolwyr ar ddyletswydd ac, o bosibl, rheolwr arlwyo yn
atebol i chi. Felly, byddwch chi'n cael gair â nhw bob hyn a
hyn i asesu'r cynnydd, datrys problemau a phennu
blaenoriaethau.
Byddwch chi'n ystyried ac yn datblygu gwasanaethau newydd, gan
eu trafod gyda'r gweithwyr priodol a chyflogi gweithwyr newydd lle
bo angen. Eich cyfrifoldeb chi yw gofalu bod gorchwylion
gweinyddu megis llenwi adroddiadau am ddamweiniau, cadw llygad ar
arian mân, prosesu anfonebau i'w talu a chymharu costau staff â
thargedau ariannol yn cael eu cyflawni, hefyd. Yn rhan o'ch
rôl, efallai y bydd gofyn ichi bennu cyllidebau a dyfeisio
strategaethau marchnata - penderfynu pa fath o bobl yr hoffech chi
eu denu a phennu'r ffordd orau o ennyn eu diddordeb. Rhaid
gofalu bod pobl yn gwybod beth sydd ar gael. Yn ôl pob tebyg,
byddwch chi'n cydweithio ag un o staff adran gwasanaethau hamdden y
cyngor i drefnu a chynnal achlysuron arbennig.
Yn ystod y dydd, byddwch chi'n sgwrsio gyda chwsmeriaid i hel eu
sylwadau nhw am ansawdd y gwasanaethau a lefel y staff a'r
cyfleusterau, a gofalu eu bod yn fodlon ar y modd rydych chi'n
rheoli popeth. Rhaid cadw llygad ar yr hyn sydd ar gael yn
eich canolfan a gofalu eich bod yn cynnig gwasanaethau o'r radd
flaenaf i'r gymuned.
Medrau a diddordebau
Mae angen y canlynol:
- medrau trefnu da o ran rheoli'ch amser chi a rheoli'r
ganolfan;
- medrau arwain a rheoli, ynghyd â'r gallu i ysgogi a
gwerthfawrogi staff;
- diddordeb mewn pobl a'r gallu i gyfleu agwedd groesawgar;
- manwl gywirdeb - rhaid i'r ganolfan fod yn lân ac yn ddiogel
i'r cwsmeriaid;
- gallu trin a thrafod ffigurau, cyllidebau a rhagolygon
ariannol.
Meini prawf derbyn
Mae gan y rhan fwyaf o reolwyr cyfleusterau chwaraeon gymhwyster
sy'n ymwneud â chwaraeon a hamdden er nad oes llwybr penodol i'r
yrfa. Mae digon o gyrsiau ar bob lefel a allai fod yn fan
cychwyn ym maes rheoli cyfleusterau chwaraeon, megis:
- cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffredinol 'Hamdden a
Thwristiaeth';
- cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol lefelau 2 a 3 (mae rhai
cynghorau'n cynnig prentisiaethau);
- cymwysterau sylfaenol neu uwch Cyngor Busnes, Technoleg ac
Addysg ynglŷn â hamdden a phynciau cysylltiedig;
- cyrsiau gradd mewn pynciau megis 'Astudiaethau Chwaraeon a
Hamdden', 'Astudiaethau Chwaraeon' a 'Rheoli Chwaraeon'.
Gallai cymhwyster ym maes ffitrwydd fod o fantais gan y byddwch
chi'n atgyfnerthu cymwysterau academaidd â phrofiad
ymarferol. Unwaith eich bod yn rheolwr, bydd modd astudio ar
gyfer cymwysterau proffesiynol Sefydliad Breiniol Rheoli Chwaraeon
a Gweithgareddau Corfforol.
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Gallai fod cyfleoedd ichi gael eich dyrchafu - naill ai'n rheolwr
sy'n gyfrifol am ragor o ganolfannau neu'n rheolwr strategol yn
swyddfeydd y cyngor. Gallai fod cyfleoedd i reoli
cyfleusterau chwaraeon preifat, hefyd.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Sefydliad Breiniol Rheoli Chwaraeon a Gweithgareddau Corfforol: www.cimspa.co.uk
Skills Active: www.skillsactive.com
Chwaraeon Cymru: www.sportwales.org.uk
Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y
llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd
eich ysgol.