Gofalwr adeilad

Cyflwyniad
Mae hamdden yn boblogaidd bellach, ac mae'r awdurdodau lleol wedi ymateb i alw cynyddol pobl am weithgareddau corfforol, cymdeithasol a diwylliannol.  Mae sawl swydd ar gynnig mewn canolfannau hamdden a chymuned, theatrau, neuaddau cyhoeddus, llyfrgelloedd, orielau, amgueddfeydd a swyddfeydd hysbysu ymwelwyr.  Bydd dyletswyddau gofalwr adeilad yn amrywio rhwng gwaith derbynfa a glanhau.  Mae'r swydd hon ym mhob awdurdod lleol.

Amgylchiadau'r gwaith
Bydd y rhan fwyaf o'r gwaith o dan do yng nghanolfannau hamdden ac adloniant y cyngor lleol.  Gallai fod dyletswyddau mewn achlysuron yn yr awyr agored megis gwyliau cerddoriaeth a drama, weithiau.  Bydd angen codi a chario pethau trymion, hefyd.  37 awr yw'r wythnos safonol.  Rhaid gweithio shifftiau ac oriau anarferol, er y bydd lwfans am hynny.

Gweithgareddau beunyddiol
Mae gan ofalwyr adeiladau amrywiaeth helaeth o ddyletswyddau sy'n angenrheidiol i gadw canolfannau hamdden ac adloniant y cyngor lleol mewn cyflwr o'r radd flaenaf.  Maen nhw'n gyfrifol am baratoi mannau ar gyfer achlysuron megis arddangosfeydd celf, cynadleddau, darlithoedd, ymgynnull cymunedol, cyngherddau ac ati.  Rhaid trefnu dodrefn, gosod llwyfannau, glanhau'r adeilad, diogelu'r mynedfeydd a gofalu y bydd popeth yn mynd yn esmwyth er boddhad y cwsmeriaid.  Ble bynnag y bydd yr achlysur, bydd gofalwr adeilad yn gyfrifol am y canlynol:

  • trefnu a pharatoi'r cyntedd, yr awditoria a'r ystafelloedd cyfarfod gan gynnwys trefnu cadeiriau a byrddau ar gyfer arlwyo;
  • glanhau, tacluso, cynnal a chadw, trwsio, seddau, cyfarpar a chelfi ym mhob man mewnol ac allanol;
  • diogelu cyffredinol megis cloi a datgloi adeiladau, casglu arian mân a mynd ag e i'r banc;
  • archwilio tocynnau, dogfennau adnabod ac ati;
  • bod ar ddyletswydd wrth ddrws y llwyfan gan gynnwys derbyn pobl a nwyddau ac ateb y ffôn;
  • casglu llythyrau ac offer a'u cludo i adeiladau eraill;
  • gosod posteri cyhoeddusrwydd ac arwyddion y tu allan i adeiladau;
  • glanhau'r prif ystafelloedd, y tai bach a'r ystafelloedd gwisgo;
  • cadw golwg ar drefniadau argyfwng ym mhob rhan o'r adeilad.

Yn ystod oriau agor (yn arbennig yn ystod perfformiadau a phan fo cyfleusterau wedi'u llogi), gofalwr yr adeilad fydd y brif ddolen gyswllt â'r cyhoedd ynglŷn â thaclusrwydd, glanweithdra a mynediad.  Mae disgwyl iddo fod yn gwrtais wrth gwrdd â phobl, gan eu cyfarch yn briodol a diwallu eu hanghenion.



Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai hanfodol:

  • codi a symud pethau trymion megis dodrefn a chyfarpar y llwyfan;
  • sefyll am oriau yn ystod dyletswyddau diogelu;
  • bod o gymorth ac yn gwrtais dros y ffôn ac yn bersonol;
  • dringo ysgol a gweithio mewn mannau eithaf uchel;
  • gweithio gyda'r hwyr, dros nos, dros y Sul ac yn ystod gwyliau banc;
  • gweithio shifftiau hir o bryd i'w gilydd.

Meini prawf derbyn
Mae llythrennedd sylfaenol a phrofiad o waith porthor a/neu gynnal a chadw - yn ogystal â gweithio gyda'r cyhoedd - yn hanfodol.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Mae angen gofalwyr a phorthwyr bob amser yn yr awdurdodau lleol ac yn y sector preifat.  Bydd dyrchafiad ar gael pan fo swydd yn wag.  Gallai gofalwr adeilad gael ei ddyrchafu'n uwch ofalwr adeilad, rheolwr adeilad neu swyddog ar ddyletswydd.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Asset Skills: www.assetskills.org
Sefydliad Breiniol Rheoli Chwaraeon a Gweithgareddau Corfforol: www.cimspa.co.uk
Sefydliad Cynnal, Cadw a Rheoli Adeiladau: www.abe.org.uk

Efallai bod rhagor am hyn ar wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), yn llyfrgell eich bro neu yn swyddfa/llyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Medrau a diddordebau

Related Links