Cyflwyniad
 Nid popeth ym maes addysg sy'n digwydd y tu mewn i'r ysgol. 
Mae gwasanaethau cymunedol yn helpu pobl ifanc i feithrin medrau yn
yr awyr agored megis dringo.  Nid dim ond medrau corfforol y
gall disgyblion eu meithrin chwaith - mae modd magu hyder a dysgu
sut mae cynnal perthynas trwy weithio mewn grwpiau.  Mae'r
swydd hon yn y rhan fwyaf o awdurdodau lleol.
Amgylchiadau'r gwaith
 Mae'r gwaith yn mynd rhagddo y tu allan i adeiladau'r ysgol. 
Bydd gweithwyr addysg yr awyr agored yn gweithio mewn canolfan
arbennig neu barc, yn aml.  37 awr yw'r wythnos safonol gan
gynnwys peth gwaith gyda'r nos, dros y Sul, yn ystod gwyliau'r
ysgol ac mewn canolfannau preswyl.  Yn aml, byddwch chi'n
gweithio'n rhan-amser neu yn ôl yr angen.  Gallai'r gwaith fod
yn ymestynnol (o safbwynt corfforol) a braidd yn swnllyd a bywiog
ar adegau.
Gweithgareddau beunyddiol
 Diben y swydd yw cynnig gweithgareddau antur megis dringo i bobl
ifanc, ysgolion ac asiantaethau eraill megis clybiau ieuenctid a
chymuned.  Dyma'r gweithgareddau y gallai canolfan eu
cynnig:
- dringo (waliau yn yr awyr agored);
 
- dringo waliau symudol;
 
- datblygu timau;
 
- cyrsiau rhaffau uchel ac isel;
 
- datrys problemau mewn gweithgareddau antur;
 
- crwydro ceunentydd;
 
- rafftio;
 
- ogofa;
 
- cymwysterau mordwyo;
 
- pontio ysgolion;
 
- elfennau awyr agored TGAU;
 
- medrau allweddol;
 
- beicio mynydd;
 
- saethyddiaeth;
 
- cystadlaethau pen ffordd;
 
- canŵa mewn pwll nofio (o dan do) neu mewn afon;
 
- prosiectau arwain chwaraeon (i bobl ifanc ddi-waith).
 
Dyma'r dyletswyddau penodol:
- gweithio gyda phobl ifanc, oedolion a grwpiau i'w helpu nhw i
ddatblygu'n bersonol ac yn gymdeithasol a chynnig cymorth priodol
i'w galluogi nhw i feithrin hunan-barch;
 
- cynnal sesiynau gyda'r rhai 'anniddig' - pobl ac arnyn nhw
anghenion arbennig megis problemau ymddygiadol, troseddwyr ifanc,
pobl ac arnyn nhw anableddau corfforol neu feddyliol a'r rhai sy'n
perthyn i dras leiafrifol;
 
- gweithio gyda'r cyhoedd gan gynnig cyfleoedd i feithrin medrau
newydd a chael achrediad;
 
- gofalu bod pob anturiaeth addysgol yn un ddiogel, pwrpasol a
chyffrous yn ôl gweithdrefnau Awdurdod Trwyddedu'r Gweithgareddau
Antur a'r ganolfan;
 
- cyfrannu syniadau i helpu i lunio cyfleoedd addysgol yn yr awyr
agored;
 
- cydweithio â'r tîm i godi incwm ac arian o ffynonellau allanol
i dalu costau cynnal y ganolfan;
 
- bod yn gyfrifol am gynnal a chadw offer a chyfleusterau, a'u
diogelwch;
 
- helpu i farchnata cyfleusterau ymhlith y cyhoedd;
 
- cymryd rhan mewn rhaglenni amgylcheddol.
 
Medrau a diddordebau
 Dyma'r rhai hanfodol:
- hyblygrwydd a pharodrwydd i ymaddasu yn ôl newidiadau;
 
- gallu cynnal hyfforddiant yn ôl cynllun datblygu personol;
 
- gallu trefnu a chyflawni gwaith yn effeithiol;
 
- gallu cyfathrebu'n fedrus;
 
- iechyd a chryfder corfforol;
 
- ymwybyddiaeth o'r modd mae pobl yn cydweithio mewn grwpiau (ar
gyfer gweithgareddau datblygu timau ac ati);
 
- deall agweddau pobl ifanc a'r materion sy'n effeithio arnyn
nhw;
 
- agwedd dringar ond proffesiynol tuag at bobl;
 
- gallu amrywio dulliau arwain yn ôl natur y client a'r
sefydliad;
 
- gallu adnabod cryfderau pobl mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac
anffurfiol;
 
- medrau trefnu a gweinyddu da.
 
Meini prawf derbyn
 Bydd angen cymwysterau o leiaf ddau gorff llywodraethu megis un o
dystysgrifau Cyngor Mynydda Prydain, tystysgrif Undeb Canŵa Prydain
(lefel 1 neu'n uwch) neu dystysgrif Cangen Cymru Undeb Canŵa
Prydain.  Mae'n hanfodol eich bod wedi gweithio gyda phobl
ifanc mewn sefyllfaoedd anffurfiol a ffurfiol a gyda grwpiau ac
unigolion.  Mae profiad o raglenni gweithgareddau addysg yr
awyr agored a thimau amlochrog yn bwysig, hefyd.
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
 Mae cyfleoedd i gael dyrchafiad yn amryw agweddau addysg yr awyr
agored, boed le ffurfiol neu anffurfiol.  Gallech chi gael
eich dyrchafu'n arweinydd tîm, er enghraifft.  Mae amryw
swyddi yn y gwasanaethau cymunedol, hefyd.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
 Cyngor Mynydda Prydain: www.thebmc.co.uk
 Canŵa Cymru: www.canoewales.com
 Gwirfoddolwyr Gwasanaeth Cymunedol: www.csv.org.uk
 Gwybodaeth am waith gwirfoddol: National Council for Voluntary
Youth Services
 Asiantaeth Genedlaethol yr Ifainc: www.nya.org.uk
 Skills Active: www.skillsactive.com
Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y
llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd
eich ysgol.