Goruchwyliwr pryd ar glud

Cyflwyniad
Dyma wasanaeth pwysig iawn i'r rhai na allan nhw baratoi bwyd am ryw reswm.  Mae goruchwylwyr pryd ar glud yn trefnu i brydau o safon gael eu roi i bobl hŷn, pobl sy'n afiach iawn, pobl anabl a'r rhai ac iddyn nhw incwm isel.  Yn aml, mae gan bobl fu yn yr ysbyty hawl i fanteisio ar y gwasanaeth, hefyd.  Mae goruchwylwyr a swyddogion o'r fath yn gweithio ym mhob math o gynghorau ar wahân.

Amgylchiadau'r gwaith
Mae'r gwaith yn dechrau yn y swyddfa, yn symud i'r ceginau ac, wedyn, i gartrefi pobl neu ganolfannau gofal.  Mae disgwyl iddyn nhw gerdded yn yr awyr agored, gan gario bwyd ac offer, beth bynnag fo'r tywydd.

Gweithgareddau beunyddiol
Prif nod y swydd yw cynnig prydau o safon i bobl ledled yr ardal.  I wneud hynny, rhaid ymweld â nhw bob dydd - gan drin a thrafod cwynion, weithiau - yn ogystal â gofalu bod y ceginau a'r rhai sy'n dod â'r prydau i'r cartrefi'n gweithio yn ôl safonau perthnasol.  Gallai fod angen trafod prydau newydd gyda'r cogyddion a'r clientiaid, hefyd.  Byddwch chi'n treulio'r rhan fwyaf o'ch amser yn ymwneud â gweinyddu a chyllidebu yn ogystal â goruchwylio cogyddion (y rhai sy'n perthyn i gyrff allanol a gweithwyr y cyngor fel ei gilydd), dosbarthwyr (yn eu plith, gweithwyr gwirfoddol, o bosibl) a chyflenwyr.  Rhaid gweithio yn ôl amserlenni bob dydd, er bod rhwydd hynt ichi weithio o'ch pen a'ch pastwn eich hun wrth wneud hynny.

Yn ystod diwrnod arferol, bydd goruchwylwyr pryd ar glud yn ymwneud â'r holl staff sydd dan eu rheolaeth, yn ogystal â mudiadau gwirfoddol megis Age Concern Cymru a'r WRVS.  Dros y tymor hirach, efallai y byddan nhw'n gweithio mewn prosiectau arbennig megis cyflenwi bwyd wedi'i rewi, sefydlu cytundebau newydd a chynnal clybiau cinio newydd.

Medrau a diddordebau
Mae angen y canlynol:

  • Deall anghenion pobl sy'n agored i niwed.
  • Gallu ymarferol.
  • Trin a thrafod manylion.
  • Natur ofalgar.
  • Gallu rheoli prosiectau.
  • Trin a thrafod symiau.
  • Hyder.
  • Gallu cyd-dynnu â phobl o sawl cefndir.
  • Medrau trefnu.
  • Trin a thrafod cyfrifiaduron.

Bydd yr olwg sydd arnoch chi (graen eich dillad ac ati) yn bwysig hefyd, a rhaid ichi allu trin a thrafod cyllidebau.

Meini prawf ymgeisio
Bydd cefndir ym maes arlwyo, gan gynnwys dyletswyddau gweinyddu, yn bwysig.  Yn aml, bydd angen Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol mewn pwnc sy'n ymwneud â bwyd, hefyd.  Gallai'r swydd apelio at bobl fu'n ymwneud ag arlwyo a gweinyddu yn y lluoedd arfog.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Mae amrywiaeth helaeth o gyfleoedd yn y maes hwn.  Bydd dyrchafu'n dibynnu ar eich profiad a'ch cymwysterau ychwanegol.  Gan fod natur y gwaith hwn yn mynnu gwahanol fedrau, mae modd mynd ymlaen trwy dderbyn swyddi gweinyddol megis gweinyddwr sustemau.  Y cam nesaf yng ngyrfa goruchwyliwr pryd ar glud fyddai rheolwr gwasanaethau cymunedol.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Gofal Cymunedol: www.communitycare.co.uk 
Gwirfoddolwyr Gwasanaethau Cymunedol: www.csv.org.uk/socialhealthcare 
Cymdeithas Arlwywyr yr Awdurdodau Lleol: www.laca.co.uk 
Springboard: www.springboarduk.org.uk

Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich ysgol. 

Related Links