Cogydd ysgol

Rhagarweiniad
Mae awdurdodau lleol yn darparu prydau bwyd canol dydd ar gyfer plant ysgol - a myfyrwyr coleg - sy'n dymuno manteisio arnynt. Maent yn gofalu'n benodol am ddarparu prydau bwyd sy'n cynnig gwerth da am arian ac yn darparu pryd o fwyd cytbwys gan mai cinio yw prif bryd bwyd y dydd ar gyfer llawer o blant ysgol.

Mae cogyddion ysgol yn wynebu her benodol sy'n ymwneud â pharatoi prydau bwyd maethlon y bydd plant yn awyddus i'w bwyta. Maent yn enwog am fod yn gwsmeriaid anodd eu plesio ac mae ganddynt chwaethau pendant iawn!

Mae cogyddion ysgol yn gweithio i gynghorau sir, cynghorau unedol a chynghorau metropolitanaidd.

Amgylchedd Gwaith
Gall ceginau fod yn boeth - ac yn brysur - wrth i amser gweini'r prydau bwyd ddod yn nes. Fodd bynnag gan fod ceginau ysgol yn darparu nifer gyfyngedig o brydau bwyd sy'n cael eu gweini ar yr un pryd, mae cynllunio'n haws ac mae'r awyrgylch yn fwy hamddenol nag mewn bwytai masnachol.

Mae gwaith yn ystod y tymor yn unig fel arfer. Gall cogyddion sy'n gweithio mewn colegau addysg bellach weithio mwy o oriau a darparu gwasanaeth prydau bwyd gyda'r nos rhwng 5pm a 9pm.  Darperir iwnifform hefyd.

Gweithgareddau o Ddydd i Ddydd
Fel arfer mae cogyddion yn dechrau'r dydd drwy wirio bod ganddynt yr holl gynhwysion y mae eu hangen arnynt ar gyfer cinio'r dydd.  Yna byddant yn dyrannu gwaith i'w cynorthwywyr cegin. Caiff rhai eu haseinio i olchi a pharatoi llysiau a salad tra bydd un neu fwy efallai yn helpu i goginio'r prif seigiau.

Pan fydd y plant yn cyrraedd, bydd staff y gegin yn gweini'r bwyd i'r plant, naill ai o agoriad gweini neu o gownter y ffreutur. Yn aml, mae cogyddion yn helpu i wneud hyn er mwyn cael y cyfle i gyfarfod â'r plant a derbyn eu sylwadau. Pan fydd cinio wedi dod i ben, bydd cogyddion yn goruchwylio staff y gegin sy'n golchi'r llestri ac yn glanhau'r gegin. Tuag at ddiwedd y dydd, byddant yn cynllunio eu bwydlenni, gan ddilyn canllawiau'r cyngor ar faeth a bwyta'n iach. (Weithiau bydd maethegydd y cyngor yn darparu ryseitiau cymeradwy ar eu cyfer). Byddant hefyd yn mantoli arian parod ac yn archebu cyflenwadau gan gyflenwyr cymeradwy'r cyngor.

Yn aml, mae ysgolion yn darparu byrbrydau, saladau a ffrwythau ffres yn ogystal â phrydau bwyd poeth. Weithiau mae cogyddion yn pobi cacennau a bisgedi, sy'n cael eu gwerthu i staff a phlant yn ystod amser egwyl. Mae'n rhaid iddynt hyfforddi eu cynorthwywyr cegin a sicrhau bod gweithdrefnau hylendid, glanweithdra a diogelwch yn cael eu dilyn bob amser.

Sgiliau a Diddordebau
Mae'n rhaid i gogyddion ysgol:

  • fod â diddordeb mewn paratoi bwyd; 
  • bod yn ymwybodol o'r hyn y mae plant yn eu hoffi ac nad ydynt yn eu hoffi; 
  • meddu ar sgiliau creadigol i gyflwyno bwyd maethlon neu fwydydd newydd mewn ffordd ddeniadol; 
  • gallu gweithio yn unol â chyllideb dynn - mae sgiliau o ran gwneud y defnydd gorau o'r cynhwysion sydd ar gael yn hanfodol; 
  • gallu cynllunio'n fethodolegol, sicrhau bod prydau bwyd yn barod ar yr adeg gywir ac ymdopi â nifer o dasgau ar unwaith.

Ym mhob cegin ac eithrio'r ceginau lleiaf, bydd gan gogyddion cegin gynorthwywyr cegin i'w goruchwylio, felly mae'n rhaid iddynt fod â sgiliau cyfathrebu da a bod yn fodlon derbyn cyfrifoldeb.

Gofynion Mynediad
Efallai y derbynnir profiad arlwyo blaenorol yn lle cymwysterau ffurfiol ond fel arfer mae cynghorau'n disgwyl i gogyddion ysgol feddu ar gymhwyster fel City & Guilds 706/1 a 2 neu S/NVQ Lefel 2 mewn Paratoi Bwyd a Choginio (ewch i wefan City & Guilds am ragor o wybodaeth www.city-and-guilds.co.uk). Mae Tystysgrif Sylfaenol mewn Hylendid Bwyd a Thystysgrif Sylfaenol mewn Iechyd a Diogelwch yn hanfodol. Gallai cymwysterau pellach mewn Goruchwylio Ceginau neu Reoli Ceginau fod o fantais.  Gallai prentisiaethau fod ar gael.  Gan fod y swydd hon yn cynnwys gweithio gyda phlant, mae angen i ymgeiswyr gytuno i'r cyngor sy'n eu cyflogi gynnal gwiriad heddlu er mwyn canfod p'un a oes ganddynt gofnod troseddol.

Posibiliadau a chyfleoedd yn y dyfodol
Efallai y bydd ysgol fach yn cyflogi un cogydd ac un cynorthwyydd yn unig. Mewn ysgol fawr neu mewn coleg, gallai fod chwech neu fwy o staff arlwyo.
Mae dyrchafiad i rôl prif gogydd neu gogydd cynorthwyol mewn tîm arlwyo ac i rôl rheolwr arlwyo yn bosibl yn y pen draw.

Rhagor o Wybodaeth a Gwasanaethau
Asset Skills www.assetskills.org
British Institute of Cleaning Science www.bics.org.uk

Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich ysgol.

Related Links