Cyflwyniad
Yn ôl y gyfraith yn y Deyrnas Gyfunol, rhaid cofrestru pob
genedigaeth, marwolaeth, genedigaeth farw, priodas a phartneriaeth
sifil yn swyddogol. Rôl cofrestrydd yw casglu'r wybodaeth
honno. Mae cofrestryddion yn cynnal seremonïau priodas a
phartneriaeth sifil hefyd, yn ogystal â chyflawni dyletswyddau
dathlu eraill. Mae tua 1750 o gofrestryddion yng Nghymru a
Lloegr a rhyw 500 yn yr Alban. Dim ond un neu ddau fyddai
mewn cyngor bychan, ond gallai fod mewn cyngor mawr amryw staff
sy'n arbenigo mewn gwahanol feysydd.
Amgylchiadau'r gwaith
Mae cofrestryddion yn gweithio mewn cofrestrfeydd sydd yn adeilad
y cyngor lleol, fel arfer.
Gallai swyddi amser llawn a rhan-amser fel ei gilydd fod ar
gael, ond rhaid gweithio dros y Sul fel arfer - yn arbennig yn yr
haf pan fydd y rhan fwyaf o gofrestryddion yn cynnal neu'n
cofrestru priodasau neu bartneriaethau sifil. Mae angen iddyn
nhw fod ar gael y tu allan i oriau gwaith yn achos argyfyngau,
hefyd.
Gweithgareddau beunyddiol
Mae modd didoli prif ddyletswyddau cofrestrydd yn ôl pedwar maes
allweddol:
- cofrestru genedigaethau - bydd y cofrestrydd yn cyfweld y
rhieni i gofnodi'r manylion ar gyfer tystysgrif geni'r plentyn, gan
gyflwyno'r wybodaeth i'w gyfrifiadur a rhoi'r dogfennau perthnasol
i'r rhieni;
- cofrestru marwolaethau - bydd y cofrestrydd yn gwirio'r
dogfennau sy'n disgrifio pam mae rhywun wedi marw ac yn cysylltu
â'r meddyg neu'r crwner os oes rhywbeth o'i le. Yna, bydd yn
cyfweld perthynas neu gyfaill i gasglu'r wybodaeth briodol ar gyfer
tystysgrif y farwolaeth cyn rhoi dogfennau fel y gall yr angladd
fynd rhagddo;
- cynnal seremonïau priodas a phartneriaeth sifil - o leiaf 16
diwrnod cyn y seremoni, bydd y cofrestrydd yn cyfweld y pâr i ofalu
y byddan nhw'n cael priodi neu sefydlu partneriaeth sifil yn ôl y
gyfraith. Bydd yn gwirio pob un o'r dogfennau perthnasol ac
yn gofyn i'r pâr lofnodi rhybuddion ffurfiol o'u bwriad. Bydd
y cofrestrydd yn cynnal seremoni'r briodas neu'r bartneriaeth sifil
naill ai yn y gofrestrfa neu mewn rhywle arall a chanddo drwydded
megis gwesty, castell neu glwb chwaraeon;
- cadw cofnodion - mae'r cofrestrydd arolygu'n gyfrifol am gadw
cofrestrau genedigaethau, marwolaethau a phriodasau ers dechrau
cofrestru sifil yn y Deyrnas Gyfunol ym 1837. Mae gan bobl
hawl i ofyn iddo roi tystysgrif o'r cofrestrau hynny i ddibenion
cyfreithiol neu i hel achau. Dirprwy gofrestrydd fydd yn
goruchwylio gwaith o'r fath, fel arfer.
At hynny, mae nifer o feysydd eraill y gallai cofrestrydd
profiadol eu hastudio megis cynnal seremonïau enwi plant, angladdau
sifil, adnewyddu llwon priodas a derbyn mewnfudwyr yn
ddinasyddion. Ymhlith gorchwylion eraill, gallai fod angen
helpu pobl i baratoi ceisiadau ynglŷn â bod yn ddinesydd.
Medrau a diddordebau
Mae angen y canlynol:
- medrau cyfathrebu ardderchog i drin a thrafod pobl o bob lliw a
llun mewn modd tringar;
- gwybod y gyfraith yn dda, yn arbennig ynglŷn â chofrestru
genedigaethau a marwolaethau, er y byddwch chi'n dysgu hynny yn y
gwaith neu trwy gyrsiau mae gwasanaeth cofrestru'r cyngor yn eu
cynnal;
- amynedd, a'r gallu i holi pobl allai fod yn fregus eu teimladau
o ganlyniad i brofedigaeth;
- gallu gweithio'n dda mewn tîm ac o'ch pen a'ch pastwn eich
hun;
- gallu deall ac esbonio deddfau cymhleth;
- medrau ysgrifennu'n fanwl gywir;
- medrau da o ran trefnu gwaith a thrin a thrafod technoleg
gwybodaeth.
Meini prawf derbyn
Does dim meini prawf lleiaf i gofrestryddion yng Nghymru a
Lloegr. Byddai'r rhan fwyaf o gyflogwyr yn disgwyl addysg o
safon dda, fodd bynnag, megis pum TGAU A*-C gan gynnwys mathemateg
a Chymraeg neu Saesneg.
Gan fod peth teithio yn y gwaith, bydd trwydded yrru gyflawn a
char yn hanfodol.
Dyw rhai pobl megis meddygon, bydwragedd, gweinidogion
crefyddol, trefnwyr angladdau, gweithwyr cwmnïau yswirio bywydau,
methdalwyr a'r rhai sydd wedi ymrwymo i drefniad gwirfoddol unigol
ddim yn cael bod yn gofrestryddion. Ar ben hynny, rhaid i
Swyddfa'r Cofnodion Troseddol wirio cefndir pob darpar
gofrestrydd.
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Gallai fod cyfleoedd i gofrestryddion gael eu dyrchafu ond mae
hynny'n dibynnu ar ba mor fawr yw'r cyngor a faint o staff sydd yn
y gofrestrfa. Gall rhai cofrestryddion ysgwyddo cyfrifoldebau
arbenigol ychwanegol, hefyd.
Ar ôl rhagor o hyfforddi a datblygu, gallai fod cyfleoedd i
symud i feysydd eraill yn y cyngor megis gweithredwr cyfreithiol,
rheolwr gweinyddu neu archifydd.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Y Brif Gofrestrfa: www.gro.gov.uk
Cylch Cofrestryddion y Deyrnas Gyfunol: www.ukregistrarsgroup.org
Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y
llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd
eich ysgol.