Gofalwr ysgol

Rhagarweiniad
Yn sicr, nid gwaith o naw tan bump yw swydd gofalwr ysgol/rheolwr safle - gan fod angen dechrau'r gwaith yn gynnar ynghyd â rhai dyletswyddau gyda'r nos, mae'r math hwn o waith yn addas ar gyfer pobl ag ymagwedd hyblyg sy'n mwynhau'r her sy'n dod o arferion amrywiol.

Er mai tasg pob gofalwr a rheolwr safle yw sicrhau bod athrawon a disgyblion yn gallu gweithio mewn amgylchedd glân a diogel, gall y dyletswyddau amrywio cryn dipyn mewn ysgolion o feintiau gwahanol. Mewn ysgolion llai, y duedd yw defnyddio'r term 'gofalwr'; mewn ysgolion mwy, lle mae'r gwaith yn cynnwys goruchwylio glanhawyr a gweithwyr eraill yn aml, efallai y bydd y term 'rheolwr safle' yn fwy ffafriol.

Caiff gofalwyr/rheolwyr safle eu cyflogi gan gyrff llywodraethu ysgolion mewn awdurdodau lleol sy'n darparu gwasanaethau addysg.

Amgylchedd Gwaith
Mae gofalwyr/rheolwyr safle yn gweithio dan do - mewn ystafelloedd dosbarth, ystafelloedd cotiau, coridorau, cynteddau a swyddfeydd - ac yn yr awyr agored, ar dir yr ysgol. Maent ar eu traed am y rhan fwyaf o'r dydd ac mae'r gwaith yn cynnwys codi a chario.

Ar gyfer tasgau glanhau a gwaith atgyweirio efallai y byddant yn gwisgo oferôls, esgidiau amddifynnol a menig. Maent yn gweithio ar eu pennau eu hunain neu'n rhan o dîm, ond maent yn cyfarfod ag amrywiaeth o bobl yn ystod y diwrnod gwaith, gan gynnwys staff yr ysgol, disgyblion, rhieni a chontractwyr allanol.
Yr wythnos gwaith arferol yw 37 awr, ond mae'n hanfodol bod yn hyblyg am amseroedd gwaith, gan y gallai fod angen agor yr ysgol gyda'r nos ac ar y penwythnos. Efallai y cynigir goramser â thâl a/neu egwyliau ynghanol y dydd.

Gweithgareddau o Ddydd i Ddydd
Mae gofalwyr/rheolwyr safle yn gyfrifol am weithrediad esmwyth, diogelwch a glanweithdra safle'r ysgol. Bob dydd, byddant yn cerdded o amgylch yr ysgol a'i thir, yn gwirio glanweithdra a thaclusrwydd, yn chwilio am ddifrod ac eitemau y mae angen eu hatgyweirio. Maent yn datgloi'r safle yn y bore ac yn cloi'r safle fin nos. Mae dyletswyddau eraill yn amrywio, ond gallent gynnwys:

  • glanhau neu oruchwylio glanhawyr; 
  • rheoli mynediad i'r safle, cynnal diogelwch a rhoi gwybod am ddigwyddiadau, fel fandaliaeth, i'r heddlu a'r pennaeth; 
  • rhoi gwybod am eitemau y mae angen eu hatgyweirio, cynnal atgyweiriadau sylfaenol (fel gosod darnau o wydr newydd yn lle darnau sydd wedi torri neu atgyweirio tapiau sy'n gollwng), trefnu i gontractwyr allanol wneud atgyweiriadau mwy cymhleth; 
  • gofalu am bwll nofio'r ysgol; 
  • cynnal tir yr ysgol, neu oruchwylio staff sy'n gwneud y gwaith hwn; 
  • ymdrin â gosodiadau gyda'r nos ac ar y penwythnos.

Mae gofalwyr/rheolwyr safle yn cynllunio eu harferion eu hunain, i fodloni gofynion ac anghenion yr ysgol o ddydd i ddydd.

Sgiliau a Diddordeb
Mae angen i ofalwyr a rheolwyr safle feddu ar y sgiliau a ganlyn:

  • gallu sefydlu cydberthynas waith da â'r pennaeth, staff y swyddfa a staff addysgu, disgyblion, rhieni, glanhawyr ac ati; 
  • bod yn hyblyg o ran eu hymagwedd at gynllunio'r diwrnod gwaith; 
  • bod yn drefnus, yn gydwybodol ac yn ddibynadwy; 
  • yn ymarferol â sgiliau cynnal ac atgyweirio sylfaenol; 
  • gallu cyflawni elfennau corfforol o'r rôl.

Gofynion Mynediad
Nid oes angen cymwysterau academaidd. Gall ymgeiswyr o bob oedran wneud cais.  Efallai y bydd hyfforddiant yn cynnwys cyrsiau byr y tu allan i'r swydd - er enghraifft, mewn cymorth cyntaf, materion iechyd a diogelwch, defnyddio offer trydanol a glanhau.

Posibiliadau a chyfleoedd yn y dyfodol
Mae pob ysgol yn cyflogi gofalwr neu reolwr safle, ond gall fod llawer o gystadlu am swyddi.  Ar y cyfan, mae dyrchafu yn cynnwys symud i ysgol fwy, derbyn mwy o gyfrifoldeb am oruchwylio staff eraill, fel gofalwyr cynorthwyol, glanhawyr a garddwyr.

Rhagor o Wybodaeth a Gwasanaethau
Asset Skills www.assetskills.org
British Institute of Cleaning Science www.bics.org.uk

Related Links