Rheolwr hamdden

Cyflwyniad
Gall gwaith rheolwr hamdden mewn llywodraeth leol amrywio o drefnu chwaraeon a gweithgareddau hamdden a rheoli cyfleusterau chwaraeon i hyrwyddo drama, cerddoriaeth a gweithgareddau eraill mewn theatr neu ganolfan gelfyddydol.  Mae gwasanaethau hamdden ym mhob math o gyngor ledled y DU.

Amgylchedd Gwaith
Mae lleoliad y gwaith yn dibynnu ar natur y swydd, ond mae'r rhan fwyaf o reolwyr hamdden llywodraeth leol yn gweithio mewn swyddfeydd.  Disgwylir iddynt deithio i gyfleusterau hamdden yn yr ardal.  Mae Rheolwyr Hamdden llywodraeth leol yn gweithio tua 37 awr yr wythnos, ond gallai hyn gynnwys rhywfaint o waith shifft a gwaith gyda'r nos ac ar benwythnosau.
 
Gweithgareddau Dyddiol
Mae Rheolwr Hamdden yn deitl swydd cyffredinol sy'n cwmpasu swyddi amrywiol mewn llywodraeth leol.  Gallai meysydd gwahanol o gyfrifoldeb gynnwys y canlynol:

  • rheolwr gweithgareddau - datblygu, darparu a monitro gweithgareddau arbennig mewn cyfleuster hamdden, fel gweithgareddau gwyliau neu chwaraeon a chyrsiau hamdden i blant;
  • rheolwr canolfan gweithgareddau awyr agored - rheoli canolfannau sy'n cynnal gweithgareddau awyr agored o ddydd i ddydd;
  • rheolwr ffitrwydd - rheoli hyfforddiant personol a chynnig cyfarwyddyd ffitrwydd mewn campfa;
  • rheolwr canolfan cymunedol - rheoli'r amrywiaeth o weithgareddau sy'n cael eu cynnig mewn canolfannau cymunedol lleol, fel clybiau i bobl hŷn, gwersi dawns, grwpiau eglwys ac ati;
  • rheolwr theatr/canolfan gelfyddydol - rheoli theatrau, neuaddau cyngerdd a chanolfannau celfyddydol y mae'r cyngor yn berchen arnynt.

Er bod y meysydd gwaith yn amrywiol gall gwaith rheolwr hamdden llywodraeth leol gynnwys rhai, neu bob un, o'r tasgau canlynol:

  • rheoli cyllidebau;
  • cynnal ymgynghoriadau â defnyddwyr gwasanaeth gyda'r bwriad o wella'r gwasanaeth a darparu gwasanaethau newydd;
  • rheoli staff;
  • goruchwylio ymgyrchoedd cyhoeddus a hyrwyddo projectau arbennig;
  • cynnig gwasanaeth cwsmeriaid o ansawdd uchel;
  • trefnu a rheoli projectau a rhaglenni o ddigwyddiadau a gweithgareddau.

Sgiliau a Galluoedd
Mae angen y canlynol ar reolwyr hamdden llywodraeth leol:

  • sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig;
  • sgiliau rheoli pobl;
  • sgiliau cynllunio a threfnu;
  • hyder a chreadigrwydd;
  • dealltwriaeth a diddordeb mewn gweithgareddau iechyd, ffitrwydd a hamdden;
  • y gallu i gael hwyl, a brwdfrydedd dros gynnwys pob math o bobl mewn gweithgareddau hamdden.

Gofynion Mynediad 
Er nad oes unrhyw ofynion mynediad penodol ar gyfer rheolwyr hamdden mewn llywodraeth leol, gallai Rheolwyr Hamdden symud i mewn i'r rôl gydag amrywiaeth o gymwysterau a phrofiad helaeth.  Mae'r rhan fwyaf o bobl yn dechrau mewn swyddi ar lefel is gan weithio eu ffordd i fyny, gan gyflawni N/SVQ neu Brentisiaeth a chymwysterau proffesiynol wrth wneud hynny.  Fel arall, mae rhai pobl yn astudio graddau sy'n ymwneud â rheoli hamdden, datblygu chwaraeon neu wyddorau chwaraeon.  Mae graddau sylfaen bellach ar gael hefyd, sy'n cyfuno astudiaethau academaidd â phrofiad galwedigaethol.  Cynigir datblygiad a chymwysterau proffesiynol gan ISPAL a'r Sefydliad Rheoli Chwaraeon a Hamdden (ISRM).
 
Cyfleoedd yn y Dyfodol
Ceir llwybr gyrfaol clir o fod yn gynorthwy-ydd hamdden i fod yn rheolwr hamdden.  Efallai y bydd cyfleoedd i symud i rolau datblygu polisi, fel swyddog datblygu gwasanaethau hamdden neu swyddog datblygu chwaraeon.  Fel arall, gallai fod cyfleoedd i symud i rolau rheoli uwch yn adran gwasanaethau hamdden a diwylliant y cyngor.

Rhagor o Wybodaeth a Gwasanaethau
Sefydliad Siartredig dros Reoli Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol www.cimspa.co.uk
SkillsActive www.skillsactive.com

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y maes gwaith hwn drwy Yrfa Cymru (www.gyrfacymru.com) neu yn eich llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links