Cyflwyniad
 Roedd bywyd yn y llyfrgell yn arfer mynd yn ara'
deg.  Fe fyddai pawb yn chwilio'r silffoedd neu'r archifau am
lyfr o ddiddordeb neu ystadegau ar gyfer ymchwil, ac yn disgwyl
treulio tipyn o amser wrth wneud hynny.  Roedd diffyg hast yn
rhan o naws y llyfrgell.  Gan fod cyfleusterau'r we yno
bellach, fodd bynnag, mae'n haws casglu a chyflwyno gwybodaeth, er
bod modd pori deunydd o hyd.  Mae goblygiadau mewnol ac
allanol yn sgîl hynny.  Mae cynorthwywyr gwybodaeth yn helpu
rheolwr y llyfrgell i gynnig sustemau electronig ym mhob rhan o'r
gwasanaeth.
Amgylchiadau'r gwaith
 Yn y llyfrgell y byddwch chi'n gweithio, ac mae peth
cyswllt â'r cyhoedd.  Rhaid ichi ddefnyddio offer TG i raddau
helaeth.
Gweithgareddau beunyddiol
 Mae cynorthwywyr gwybodaeth yn gyfrifol am gynnig
gwasanaethau'r we ac amryw ddeunyddiau hyrwyddo - gan gynnwys ar
ffurfiau electronig - yn ôl amserlenni caeth yn aml, ac er cymorth
i gynorthwywyr y llyfrgell.  Rhaid pennu blaenoriaethau bob
dydd - gan ddod i benderfyniadau ynglŷn â dylunio deunyddiau
hyrwyddo a llunio cynnwys digidol creadigol i weithwyr a rheolwyr
gwasanaethau.  Mae'r gwaith hwnnw yn ymwneud â chysylltu ag
adran argraffu'r cyngor ynglŷn â pharatoi rhai deunyddiau -
rhywbeth ar gyfer Wythnos y Llyfrau, er enghraifft - ac adran TG y
cyngor ynglŷn â llunio gwefannau.  At hynny, mae cynorthwywyr
yn gyfrifol am reoli stoc trwy gysylltu â chyflenwyr lleol sy'n
cynnig meddalwedd a nwyddau eraill.  Dyma brif gyfrifoldebau
cynorthwywr gwybodaeth:
- helpu i gynnig sustemau technoleg a gwybodaeth mewn
adrannau;
 
- gweithio y tu ôl i'r cownter gan roi a derbyn llyfrau ar
fenthyg, cofnodi hynny ar gyfrifiadur, casglu dirwyon am ddod â
llyfrau yn ôl yn hwyr, neilltuo llyfrau, cofrestru darllenwyr
newydd ac adnewyddu aelodaeth rhai cyfredol;
 
- llunio, paratoi a chynnal amryw ddeunyddiau hyrwyddo;
 
- llunio a pharatoi ffurflenni electronig a phapur ar gyfer y
gwasanaeth;
 
- rheoli gorchwylion llunio a chynnal y wefan bob dydd;
 
- helpu i ddatblygu prosiectau digidol;
 
- cadw rhestr o offer TG;
 
- cynnig gwasanaeth lamineiddio a rhwymo i'r cyhoedd;
 
- cadw digon o nwyddau TG megis inc a disgiau;
 
- helpu rheolwyr i hyfforddi staff am weithdrefnau ac arferion
TG;
 
- cadw golwg ar yr hyn mae gwasanaeth gwybodaeth y cyngor yn ei
gyflawni.
 
Medrau a diddordebau
 Gallu trin a thrafod pobl a chyfathrebu'n dda. 
Felly, rhaid bod yn un amyneddgar, cyfeillgar a hyderus sy'n hoffi
helpu pobl - byddwch chi'n ymwneud â phobl o bob lliw a llun.
 Mae cof da, meddwl ymchwilgar a ffordd drefnus o weithio'n
bwysig wrth gynnal ymchwil.  Mae angen medrau sylfaenol o ran
trin a thrafod cyfrifiaduron a dylech chi allu gweithio'n rhan o
dîm.  Fe fyddai gwir ddiddordeb mewn llyfrau a chronfeydd
gwybodaeth o fantais.
Mae creadigrwydd yn hanfodol, yn ogystal â rhai medrau ym maes
TG:
- medrau cyfathrebu da - ar lafar a thrwy lythyr fel ei
gilydd;
 
- gwybod am ddylunio tudalennau gwefannau, cyhoeddi pen desg,
prosesu geiriau a chronfeydd data;
 
- gallu gweithio'n rhan o dîm;
 
- deall dadansoddiadau o anghenion defnyddwyr.
 
Meini prawf ymgeisio
 Bydd angen o leiaf 4 TGAU (A-C), gan gynnwys Saesneg, fel
arfer.  I rai swyddi, fe fydd angen Safon Uwch neu gymhwyster
cyfwerth megis tystysgrif/diploma Cyngor Addysg Busnes a
Thechnoleg, neu Uwch Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (lefel
III).  Yn y gwaith y bydd y rhan fwyaf o'r hyfforddiant, dan
oruchwyliaeth staff profiadol.  Mae rhai llyfrgelloedd yn
annog gweithwyr i astudio ar gyfer Cymhwyster Galwedigaethol
Cenedlaethol (lefelau 2, 3 a 4) ym maes 'Gwasanaethau Llyfrgell a
Gwybodaeth'.  Mae Sefydliad y Ddinas a'r Urddau ac Awdurdod
Cymwysterau'r Alban yn cynnig cyrsiau ym maes gwyddoniaeth
llyfrgell a gwybodaeth, naill ai'n rhan amser neu o hirbell, i'r
rhai sy'n gweithio yn y llyfrgelloedd.  Gallai prentisiaethau
ym maes gwasanaethau llyfrgell a gwybodaeth fod ar gael, hefyd.
Bydd cymhwyster priodol ym maes TG o fantais - IBT neu CGLI
ynglŷn â phrosesu geiriau, cronfeydd data a thaenlenni.  Mae
profiad o ddefnyddio sustemau megis Microsoft Office yn y gwaith yn
hanfodol.  Byddai profiad o dechnoleg gwybodaeth, hyfforddi
staff, addysgu defnyddwyr a phrosiectau digidol yn ddefnyddiol,
hefyd.
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
 Gan fod menter wladol yn cynnig hyfforddiant i staff y
llyfrgelloedd ynglŷn â thrin a thrafod cyfrifiaduron a'r we, bydd
sawl cyfle i wella'ch cymwysterau chi a chael eich dyrchafu yn y
maes hwn.  O bosibl, y cam nesaf fyddai swyddog gwybodaeth ac,
ar ôl hynny, rheolwr cyfleusterau electronig.  Mae cyfleoedd y
tu allan i fyd llywodraeth leol yn y byd diwydiannol ac mewn
prifysgolion a cholegau.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
 Sefydliad Breiniol Proffesiynolion Llyfrgelloedd a
Gwybodaeth: 
www.cilip.org.uk 
 Sefydliad Rheoli Sustemau Gwybodaeth: www.imis.org.uk 
 Cymdeithas Llyfrgelloedd yr Ysgolion: www.sla.org.uk 
 Sefydliad Breiniol TG: www.bcs.org.uk
Mae Gyrfa Cymru wedi cynhyrchu erthygl Sbotolau ar yrfaoedd yn y
diwydiannau creadigol: 
https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-diwydiannau-creadigol/
Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/)
y llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich
ysgol.