Cyflwyniad
Dyma swydd sydd i'w chael yn rhan o gyfrifon canolog, neu
drysorfeydd, ymhob math o awdurdod lleol. Mae'n ymdrin â'r rhan
fwyaf o agweddau ar waith ariannol yn y sector corfforaethol ac
mewn gwasanaethau eraill, megis addysg a'r amgylchfyd sy'n rheoli'u
cyllidebau eu hunain. Mae technegwyr cyfrifyddu yn cydweithio â
chynorthwywyr cyfrifyddu, cynorthwywyr cyllid, clercod cyllid a
swyddogion cyllid sy'n rhoi cymorth i Swyddog Adran 151 yr Awdurdod
(Trysorydd) o ran ymgymryd â'i swyddogaeth yn 'geidwad y pwrs
cyhoeddus'.
Yr Amgylchfyd Gwaith
Mae Technegwyr Cyfrifyddu yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn
gweithio ar gyfrifiadur, yn ogystal â hynny, efallai bydd gofyn
siarad â rheolwyr gwasanaethau neu, os ydyn nhw ynglŷn â gwaith
archwilio, efallai bydd gofyn iddyn nhw ymweld ag adrannau eraill i
gael gwybod sut maen nhw'n cadw cyfrifon.
Yn amlach na pheidio, maen nhw'n gweithio 37 awr yr wythnos, ond
mae gofyn eu bod nhw'n arfer agwedd hyblyg pan fod gofyn gweithio
oriau ychwanegol i fodloni dyddiadau cau statudol e.e. diwedd y
flwyddyn ariannol.
Gwaith o ddydd i ddydd
Mae'r rhan fwyaf o'r gwaith yn waith arferol: tasgau cyfrifyddu
megis cadw llyfrau, cadw cofnodion ariannol, paratoi a dadansoddi
ffigyrau, rhoi cymorth o ran paratoi cyfrifon sydd wedi'u
harchwilio, rhoi cymorth o ran dosrannu cyllidebau blynyddol - sydd
i'w dosrannu i'r ysgolion er enghraifft - cronfeydd pensiwn a
cheisiadau am grantiau gan Lywodraeth Cymru, llywodraeth y Deyrnas
Unedig neu gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd.
Mae technegwyr cyfrifyddu yn gallu prosesu anfonebau (mewnol ac
allanol) a gall uwch dechnegwyr cyfrifyddu fod yn gyfrifol am waith
nifer o gynorthwywyr cyfrifyddu. Yn y pen draw, maen nhw'n gefn i
waith cyfrifwyr gan ofalu bod cyfrifon y Cyngor yn gywir a bod
adnoddau'n cael eu defnyddio yn y ffordd fwyaf darbodus.
Un o'r prif wahaniaethau rhwng swydd technegydd cyfrifyddu a
swyddi eraill sydd islaw lefel cyfrifydd ydy'r ffaith y gall
gynnwys gweithio ar brosiectau arbennig megis gwaith ymchwil i
feysydd gwaith newydd a gweithdrefnau technegol. Gan ddibynnu ar
strwythurau o fewn y gwasanaeth cyfrifyddiaeth, mae technegwyr
cyfrifyddu yn gallu gweithio mewn ystod o swyddogaethau
gwahanol.
Sgiliau a Diddordebau
Mae gofyn bod technegwyr cyfrifyddu yn meddu ar:
- sgiliau gweithio yn rhan o garfan da;
- dawn am waith ariannol;
- y gallu i gyfathrebu'n effeithiol yn ysgrifenedig ac ar
lafar;
- sgiliau trefnu da;
- y gallu i ddeall yr angen am gyfrinachedd.
Gofynion Mynediad
Does dim gofynion ffurfiol. Mae cymwysterau Cymdeithas Technegwyr
Cyfrifyddu yn rhai mynediad agored.
Cyfleoedd a Rhagolygon ar gyfer y dyfodol
Gyda hyfforddiant a phrofiad pellach, mae technegwyr cyfrifyddu yn
gallu sefyll arholiadau ac ennill cymwysterau Cyfrifwr Siartredig /
Ardystiedig.
Rhagor o Wybodaeth a Gwasanaethau
Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) www.cipfa.org.uk
Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu (AAT) www.aat.co.uk
Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA) www.accaglobal.com
Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr www.icaew.co.uk
I gael rhagor o fanylion am y maes gwaith yma, cysylltwch â
Gyrfa Cymru (www.gyrfacymru.com/) neu alw
heibio i'ch llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd neu lyfrgell
gyrfaoedd yr ysgol.
Mae Gyrfa Cymru wedi cynhyrchu Sbotolau erthygl ar yrfaoedd mewn
STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg): https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-stem/